Mae tocynnau ar gyfer ein Tymor 2019/2020 bellach ar werth, sydd yn golygu bod modd archebu tocynnau ar gyfer ein Tymor yr Hydref 2019 a Thymor y Gwanwyn 2020 yn unrhyw un o'n lleoliadau: Caerdydd, Plymouth, Llandudno, Birmingham, Rhydychen, Southampton, Bryste, Lerpwl, Milton Keynes neu Norwich.
Gweler nifer o newidiadau i’n rhaglen deithio arferol yn ystod ein tymor newydd: Yn Nhymor y Gwanwyn 2020, byddwn yn mynd i'r Theatre Royal yn Norwich am y tro cyntaf ac rydym bellach yn ymweld â'r Empire Theatre yn Lerpwl yr adeg hon o'r flwyddyn. Pleser o'r mwyaf fydd cael mynd ag operâu'r ddau dymor i'r Theatre Royal yn Plymouth. Fodd bynnag, yn anffodus, dim ond unwaith y byddwn yn ymweld â'r Bristol Hippodrome eleni, am resymau'n ymwneud ag amserlen y lleoliad, ond rydym yn falch o ddweud nad yw hwn yn newid parhaol i'n trefniadau.
Mae Hydref 2019 yn cynnwys cynhyrchiad newydd y cyfarwyddwr Jo Davies o Carmen Bizet, wedi ei osod yn y gorffennol diweddar ac yn llawn angerdd a drama. Bydd Carmen yn cael ei harwain gan Gyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus. Mae Tymor yr Hydref yn parhau gydag adfywiadau o Rigoletto Verdi - cynhyrchiad James Macdonald o 2002 a The Cunning Little VixenJanáček - fersiwn oesol David Pountney.
Bydd Tymor y Gwanwyn 2020 yn cynnwys rhan olaf ein trioleg Verdi,Les vêpres siciliennes, a fydd hefyd yn cael ei chyfarwyddo gan David Pountney, gyda'r un tîm creadigol ag Un ballo in maschera y Tymor hwn a La forza del destinoy llynedd. Mae'r tymor yn parhau gydag adfywiad o gynhyrchiad 2016 o The Marriage of Figaro gan Mozart, a genir yn yr Eidaleg y tro hwn, ac mae cyfle arall i weldCarmen os na lwyddoch i'w gweld yn Nhymor yr Hydref (neu pe hoffech ei gweld eto).
Mae ein Tymor newydd hefyd yn cynnwys rhagor o sgyrsiau Mewnwelediad Opera yn ein cartref, Canolfan Mileniwm Cymru; ar ddydd Sul 8 Medi bydd y sgwrs ar Carmen ac ar ddydd Sul 26 Ionawr byddwn yn trafod Les vêpres siciliennes. Mae'r rhain yn rhad ac am ddim ond mae angen archebu tocynnau, sydd ar gael nawr.
Yn ystod Tymor yr Haf 2020 yn Nghaerdydd, byddwn yn croesawu Syr Bryn Terfel yn ôl i'r Cwmni fel Duke Bluebeard yn Bluebeard’s Castle gan Bartók, mewn rhaglen ddwbl gyda The Nightingale gan Stravinsky. Bydd y Tymor hefyd yn cynnwys The Barber of Seville gan Rossini a bydd gwybodaeth ynghylch tocynnau'n cael ei chyhoeddi cyn hir. Os nad ydych eisiau colli unrhyw beth, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.