Newyddion

Tymor 2020/2021 Ar Werth

28 Chwefror 2020

Dydd Gŵyl Dewi Hapus, cynnar i chi gyd! Mae ein Tymor 2020/2021 yn mynd ar werth heddiw, wedi'i amseru'n berffaith ar gyfer dathlu nawddsant Cymru. Gallwch archebu tocynnau ar gyfer ein Tymor yr Hydref 2020 a Thymor y Gwanwyn 2021 yn unrhyw un o'n lleoliadau: Caerdydd, Plymouth, Bryste, Birmingham, Llandudno, Southampton yn yr Hydref, yn ogystal â Milton Keynes neu Lerpwl yn y Gwanwyn.

Mae'r flwyddyn nesaf yn darparu cyfleoedd i weld operâu poblogaidd yn ogystal ag un newydd sbon mewn Tymor sy'n gweld wynebau newydd yn ymddangos ar lwyfan WNO ynghyd â hen ffefrynnau. Bydd y soprano o America Amanda Majeski yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf â’r Cwmni yn Jenůfa yn Hydref 2020. Mae Gwanwyn 2021 yn gweld Rebecca Evans a Mary Elizabeth Williams yn dychwelyd, yn ogystal â David Kempster a Linda Richardson. Gydag arweinwyr yn cynnwys ein Cyfarwyddwr Cerddoriaeth, Tomáš Hanus sydd newydd gyhoeddi ei ddaliadaeth estynedig â ni (Jenůfaa Der Rosekavalier); Kerem Hasan, ein cyn Arweinydd Cyswllt (The Barber of Seville); ac Alexander Joel, sy'n dychwelyd i bwll WNO yn dilyn Rigoletto (Faust) y llynedd. Yn ymuno â'r enwau adnabyddus hyn, mae dau arweinydd sy'n newydd i'r Cwmni Pietro Rizzo (Il trovatore), a Matthew Kofi Waldren (Migrations).

Mae Hydref 2020 yn gweld ein cynhyrchiad o JenůfaJanáček yn mynd â'r daith eto – stori dorcalonnus am ymgais un ferch i briodi tad ei phlentyn cudd, ond mae gan ei theulu gynlluniau eraill. Mae ein cynhyrchiad clasurol o The Barber of SevilleRossini hefyd yn dychwelyd yn dilyn rhediad byr yr haf hwn yng Nghaerdydd. Yn canu'n Eidaleg, mae'r barbwr direidus, Figaro, yn chwarae ciwpid i Iarll Almaviva a Rosina, gan dwyllo Dr Bartolo gyda'i gastiau yn yr opera hon sy'n codi calon. Gorffennir y Tymor â darn newydd: Migrations, gan Will Todd. Mae Will Todd a'r cyfarwyddwr David Pountney yn gweithio gyda sawl libretydd i adrodd hanesion mudo, pobl ac adar, wedi'u hysbrydoli gan daith The Mayflower 400 can mlynedd yn ôl.

Mae Gwanwyn 2021 yn cynnwys cynhyrchiad newydd arall, y tro hwn Faust Gounod. Stori opera glasurol lle gwneir cytundebau â'r diafol; mae themâu ieuenctid, cariad, twyllo a dyheu i'w cael yn y stori hon ac mae'n addo i fod yn gynhyrchiad gweledol syfrdanol arall. Olivia Fuchs yw'r cyfarwyddwr a hi hefyd oedd cyfarwyddwr ein cynhyrchiad 2017 o Der Rosenkavalier, sydd hefyd yn dychwelyd y Tymor hwn. Gyda'i motiff am dreigl amser ac ofni heneiddio, mae opera Richard Strauss yn cynnig comedi a drama fel ei gilydd. Yn olaf, rydym yn gorffen ein perfformiadau gydag un o operâu mwyaf poblogaidd Verdi a ysgrifennodd yng nghanol ei yrfa, (yn dilyn La traviata yn 2018 a Rigoletto yn Hydref 2019) Il trovatore. Yn cynnwys un o'r darnau o gerddoriaeth mwyaf adnabyddus, yr Anvil Chorus, mae sgôr fywiog Verdi ar gyfer Il trovatore yn adrodd hanes merch sipsi a losgir wrth y stanc a'r goblygiadau trasig sy'n dilyn yn y blynyddoedd wedyn.

Os yw mwy nag un o'r uchod yn mynd â'ch bryd, cofiwch y gallwch arbed arian drwy fanteisio ar ein cynigion aml-brynu, neu gallwch brynu tocynnau ar gyfer un opera; mae'r ddau opsiwn ar gael heddiw.