Rydym ar dân eisiau gweld Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio triawd o operâu un act gan Giacomo Puccini yr Haf hwn – sef Il trittico. Ond faint a wyddoch am fywyd y meistr ei hun? Dewch i ni fynd i’r afael â Puccini a dysgu rhywfaint am ei uchafbwyntiau a’i isafbwyntiau operatig.
Y blynyddoedd cynnar: Le Villi ac Edgar
Cyfansoddodd Puccini ei opera gyntaf Le Villi (Y Tylwyth Teg) pan oedd yn 25 oed – opera un act addawol a gyflwynwyd ar gyfer y gystadleuaeth gerddorol enwog Casa Musicale Sonzogno yn 1883. Estynnwyd gwahoddiad i’w opera nesaf, Edgar, gael ei pherfformio am y tro cyntaf yn La Scala, tŷ opera enwog Milan, yn 1889, ond methodd yr opera ag ennill calonnau’r cynulleidfaoedd a daethpwyd â’r perfformiadau i ben ar ôl dau berfformiad yn unig.
Llwyddiant gyda Manon Lescaut
Yn 1893, cadarnhaodd Puccini ei statws fel olynydd cerddorol Verdi gyda’i opera Manon Lescaut. Roedd yr opera hon yn seiliedig ar nofel Abbé Prévost (1731) a oedd yn dwyn yr un teitl. Gan weithio gyda’r libretwyr Luigi Illica a Giuseppe Giacosa, llwyddodd hanes trasig merch ifanc ‘bechadurus’ a thlawd i daro tant gyda’r adolygwyr a’r cynulleidfaoedd fel ei gilydd. Oherwydd llwyddiant yr opera, fe’i perfformiwyd o amgylch Ewrop gan alluogi Puccini i dalu ei ddyledion.
Uchafbwyntiau ei yrfa: La bohème, Tosca a Madam Butterfly
Cydweithiodd Puccini â libretwyr Manon Lescaut ar ei dair opera nesaf hefyd, sef La bohème (1896), Tosca (1900) a Madam Butterfly (1904). Yn ddi-os, y tri chyfansoddiad hyn yw’r rhai mwyaf llwyddiannus yng ngyrfa Puccini ac fe wnaethant arwain at gyfoeth enfawr ac enwogrwydd rhyngwladol i’r cyfansoddwr.
Ysgrifennwyd La bohème mewn arddull realaeth (verismo) a oedd yn ffasiynol iawn yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Bu’r perfformiad cyntaf o Madam Butterfly ym Milan yn fethiant llwyr; ond ar ôl ailwampio’r sgôr, bu’r opera yn llwyddiant mawr a daeth yn un o ffefrynnau mawr y tŷ opera.
Poblogrwydd Puccini ar drai: La fanciulla del West a La rondine
Gan weithio gyda’i libretwr newydd Carlo Zangrini, cyfansoddodd Puccini opera newydd yn ymwneud â phwnc Americanaidd, sef La fanciulla del West. Ar yr adeg y perfformiwyd yr opera am y tro cyntaf yn Efrog Newydd ar 10 Rhagfyr 1910, roedd poblogrwydd Puccini ar ei anterth ymhlith y cyhoedd, ond cymysg fu ymatebion yr adolygwyr.
Perfformiwyd wythfed opera Puccini, sef La rondine, ym Monte Carlo yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1917. Ond o’r adeg hon ymlaen, ymosododd artistiaid y mudiad avant-garde a’r Dyfodolwyr yn yr Eidal ar ei weithiau, gan ladd ar ei gerddoriaeth a honni bod ei weithiau’n anarwrol ac yn hen ffasiwn.
Llwyddiant drachefn gydag Il trittico a Turandot
Ar ôl y rhyfel, cyflwynodd Puccini Il trittico, sef tair opera un act (Il tabarro, Suor Angelica a Gianni Schicchi) yn y Tŷ Opera Metropolitan yn Efrog Newydd. Bu ei gomedi Gianni Schicchi yn arbennig o lwyddiannus a honnwyd bod dawn feistrolgar y cyfansoddwr wedi dychwelyd.
Pan fu farw Puccini yn 1924, roedd ei opera olaf Turandot yn anorffenedig – sef opera eithriadol o aruchel yn ymwneud â mytholeg Tsieina, gyda sgôr gerddorol enfawr. Aeth cyfansoddwyr eraill ati i gwblhau’r opera ac yn y pen draw fe’i perfformiwyd am y tro cyntaf yn La Scala ym Milan yn 1926.
Pa un a ydych yn bur anghyfarwydd ag operâu Puccini neu’n hen law arnynt, peidiwch â cholli perfformiadau WNO o Il trittico, a fydd yn agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd ar 15 Mehefin 2024. Yna, bydd Suor Angelica a Gianni Schicchi yn mynd ar daith i Landudno, Plymouth a Southampton yn yr Hydref, a bydd perfformiad unigryw o Il trittico mewn cyngerdd yn cael ei gynnal yn Rhydychen ar 25 Hydref 2024.