Newyddion

Canllaw i The Flying Dutchman

9 Ebrill 2026

Opera yn cwrdd â llên gwerin yn The Flying Dutchman. Yn seiliedig ar hen chwedl arforol o’r Iseldiroedd, caiff ei hystyried fel opera ramantaidd gyntaf Wagner, gyda themâu fel cariad, achubiaeth, byd natur a’r goruwchnaturiol. Darllenwch ein canllaw er mwyn dysgu popeth sydd angen i chi ei wybod am yr opera gyfriniol hon.

Mae chwedl The Flying Dutchman yn canolbwyntio ar long ysbrydion gyda chapten sy’n gorfod hwylio’r moroedd am byth o ganlyniad i gytundeb gyda’r diafol neu felltith. Mae llawer o hanesion yn nodi bod y llong yn ymddangos yn ystod stormydd pwerus, gan achosi pobl i gredu bod ei gweld yn argoel o drychineb forol.

Tu hwnt i’r stori wreiddiol, cafodd Wagner ei ysbrydoli gan nofel Heinrich Heine The Memoirs of Mister von Schnabelewopski, a ychwanegodd y syniad y gallai’r Dutchman gamu i’r lan bob saith mlynedd gyda’r cyfle o gael ei achub gan fenyw ffyddlon. Mae’n debyg bod rhywfaint o gerddoriaeth yr opera hefyd wedi’i hysbrydoli gan daith gythryblus ar y môr; roedd Wagner a’i wraig Minna (Wilhelmine) yn teithio o borthladd Pillau yn nwyrain Prwsia i Lundain ar long pan drawyd hi gan storm a bu raid cysgodi mewn ffiord Norwyaidd. Roedd Wagner yn ystyried bod y profiad wedi ‘cael argraff wych ar fy nychymyg’.

Yn fersiwn Wagner o’r chwedl, mae’r Dutchman ddigon ffodus i gwrdd â’r dylanwadol Daland. Mae’n dysgu bod ganddo ferch, Senta, sydd â diddordeb mawr yn ei stori ac sy’n garedig iawn gydag ef, gan ddod â gobaith i'w ddyfodol. Fodd bynnag, mae Erik, sydd mewn cariad gyda Senta, yn creu cymhlethdodau. Mae gan Senta benderfyniad i’w wneud a gaiff effaith sylweddol ar ffawd pawb, er gwell neu waeth.

Ymddangosodd The Flying Dutchman am y tro cyntaf yn Ionawr 1843 yn Dresden, yr Almaen. Cafodd ei harwain gan Wagner ac nid oedd yn llwyddiant ar y dechrau. Pan gafodd ei pherfformio’r flwyddyn ganlynol ym Merlin, roedd cynulleidfaoedd wedi gwirioni, ond roedd adolygwyr yn dal i fod heb eu plesio. Flynyddoedd yn ddiweddarach, fodd bynnag, dechreuodd dderbyn cydnabyddiaeth a heddiw fe’i hystyrir yn gampwaith.

Mae’r gerddoriaeth yn yr opera yn oriog, dramatig ac emosiynol. Mae’r agorawd yn gosod y naws ar gyfer y stori gyda sain fyddarol ac mae’n cyflwyno cynulleidfaoedd i’r leitmotifau amrywiol (themâu cerddorol sy’n cynrychioli cymeriadau neu syniadau - techneg gan Wagner sydd wedi dod yn boblogaidd iawn ers hynny gyda chyfansoddwyr ffilmiau). Mae pigion cerddorol eiconig eraill yn cynnwys y Johohoe! hyfryd, a genir gan Senta, ac aria agoriadol y Dutchman Die Frist ist um (Mae’r amser wedi dod).

Mae’n bleser gennym gyflwyno cynhyrchiad y cyfarwyddwr o Gymru, Jack Furness, o The Flying Dutchman, sy’n cynnwys cast talentog iawn fel Simon Bailey (The Dutchman), Rachel Nicholls (Senta) a Leonardo Caimi (Erik) ynghyd â Chorws a Cherddorfa WNO. Mae’r tîm creadigol yn cynnwys Cyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus, fydd yn arwain opera olaf ei gyfnod, a’r Dylunydd Elin Steele, ymhlith eraill.

Bydd The Flying Dutchman yn dechrau ar ei thaith yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Iau 16 Ebrill, cyn mynd ar daith i Plymouth, Birmingham a Milton Keynes.