Newyddion

Golygfa o'r Pwll

27 Mai 2020

Ewch ar daith atgofion gyda Martin McHale, Dirprwy Brif-chwaraewr Trymped Cerddorfa WNO. Rhwng cymryd rhan mewn perfformiadau dan gyfyngiadau WNO a thiwtora, mae’n trafod y tro cyntaf iddo ddod ar draws The Marriage of Figaro a pham ei bod hi'n un o’i hoff operâu heddiw.

Perfformiwyd The Marriage of Figaro yn y flwyddyn 1980, fy mlwyddyn gyntaf fel aelod o Gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, a daeth yn ffefryn personol yn syth. Wrth i mi ysgrifennu'r mewnwelediad byr hwn i'r opera, rwy'n ymwybodol fy mod o bosibl yn torri amod rheol nad oes sôn amdani ac yn pylu'r ffin anweledig rhwng celfyddyd a dyfais. Fodd bynnag, heb daenu'r si ar led, mae The Marriage of Figaro yn ddarn o waith anodd ei chwarae. Os gallwch ddatgysylltu eich hun rhag fy rhyddiaith goeth, ddarllenydd mwyn, mae'n bosibl y clywch chi chwerthiniad bras gan fy nghydweithwyr yn y Gerddorfa. Gadewch i mi ailddweud y frawddeg olaf. Mae The Marriage of Figaro yn waith anodd iawn i'r Gerddorfa heblaw am y trwmpedau a'r timpanau (na phoener, cawsom ein hymestyn i'r eithaf yn Vêpres…). Yn ddiweddar, buom oll yn gwylio'r rhedwr Eliud Kipchoge yn y marathon â chegau agored, ac er mai gor-ddweud byddai cymharu hyn â chwarae rôl Figaro yn ôl pob tebyg, mae’r stamina sy’n ofynnol gan y chwythbrennau i chwarae aria olaf Susanna, Dei Vieni, gydag ysgafnder a medrusrwydd ar ôl mwy na thair awr, yn gyflawniad rhyfeddol.

Ar gyfer y chwaraewyr cyrnbeipiau dwbl, yr oboau a'r baswnau, nid problem yn ymwneud â phenderfyniad yn syml mohoni. Mae gofyn iddynt ystyried yr agweddau ymarferol real o ddod o hyd i'r wialen gywir ar gyfer y darn dan sylw. Mae gwialen drwchus yn helpu gyda dygnwch tra bod gwialen denau o fudd i'r ystwythder sydd ei angen i chwarae llinellau cain Mozart. Dod o hyd i'r wialen a fydd yn gwneud y ddau yma yr un mor dda â'i gilydd yw'r act falansio y mae'r chwaraewyr hyn yn ei hwynebu ym mhob perfformiad. Nid oes dim byd tebyg i ddiweddglo arbennig yr ail act o ran dygnwch. Yn syml, mae'r feiolinau cyntaf yn chwarae'r alaw wrth i'r sieloau a'r basau sefydlu'r harmoni. Mae ystafell yr injan fel petai, sy'n cynnwys yr ail feiolinau a'r fiolas, yn darparu egni i'r gwead gydag ugain munud o ffurfiadau blinedig a chroesi llinynnau ar gyflymder dychrynllyd.

Gall perfformiadau o Figaro amrywio yn sgil y doniau y bydd pob perfformiwr unigol yn eu cyflwyno; yn dod i'r meddwl y mae portread cyfrwys a stryd-gall Bryn Terfel o'r brif rôl, perfformiad teimladwy Rebecca Evans o Countess, a pherfformiad byrlymog Marie McLaughlin fel Susanna. Yn y rolau gweddol fychain, roedd profiad helaeth o grefft llwyfan Robert Tear yn caniatáu iddo ymgorffori diffyg hwyl wedi'i grefftio'n ofalus yng nghymeriad Don Basilio. Gydag eneidiau rhyfeddol ar bob tudalen o'r sgôr, anodd yw dewis uchafbwynt, ond i mi mae ennyd o harddwch heb ei debyg yn niweddglo'r Bedwaredd Act. Mae Figaro, wedi iddo gael ei dwyllo gan yr Iarlles a Susanna, ar ben ei hun yn yr ardd fin nos (‘Tutto e tranquillo e placido’). Ym mhwll y gerddorfa, âi Mozart yn ôl degawd i'r cyfnod y darparodd serenadau chwyth i Archesgob Salzburg, drwy'r awyr fin nos, dros linynnau tonnog, a'r chwythbrennau yn goslefu alaw hudol, esmwyth. 12 bar godidog lle mae amser yn aros yn llonydd, cyn i ni ddychwelyd i'r ddrama a datguddio'r twyllwyr, ceisir a cheir maddeuant a diweddglo hapus.

Dim awgrym o drasiedi y bennod nesaf o drioleg Figaro, a wneir yn amlwg gan Milhaud yn ei La mère coupable; dim awgrym o ysgariad hyd yn oed. Ni ellir gwrthddweud cyfraniad y libretydd Lorenzo Da Ponte i'r opera gyflawn, ond yn y pendraw'r gerddoriaeth sy'n derbyn y gymeradwyaeth. Mae yna gyfansoddwyr da a chyfansoddwyr gwych; ac yna mae yna Mozart.