Newyddion

Chwifio’r faner yn WNO

27 Awst 2021

Yn 1977, dyfeisiodd Gilbert Baker faner Pride, ar ôl cael ei ysbrydoli gan Over the Rainbow gan Judy Garland. Dros y blynyddoedd, mae’r faner wedi esblygu i gynrychioli mwy o adrannau o’r gymuned. Mae pob lliw yn symbol, a gallwn weld hynny’n cael ei adlewyrchu yn y celfyddydau. Wrth i Opera Cenedlaethol Cymru uno â dathliadau Pride Cymru 2021, rydym yn edrych ar y faner enfys i ddysgu beth mae’r lliwiau’n ei gynrychioli a sut maen nhw’n ymddangos ym myd opera a theatr.

Mae pinc yn cynrychioli rhyw ac mae digon o hynny mewn opera! Mae Don Giovanni yn ddiofn, anonest a chastiog, ac mae ganddo fywyd carwriaethol prysur - yn Act 1 mae Leporello yn dweud wrth Donna Elvira nad yw Don Giovanni yn ei haeddu hi. Llwyddodd i hudo 640 o ferched yn yr Eidal, 231 yn yr Almaen, 100 yn Ffrainc, 91 yn Nhwrci a 1,003 yn Sbaen. Felly, yr ateb i’r cwestiwn holl bwysig - ydyn ni angen rhywioli’r byd opera? Dim tra bo gennym gymeriadau fel Don Giovanni...

Mae coch yn cynrychioli bywyd ac mae prif gymeriad fenywaidd opera orau Bizet yn llawn bywyd. Mae Carmen yn byw bywyd i’r eithaf, er ei fod yn ei harwain hi at anffawd yn y diwedd. Mewn theatr yn gyffredinol, mae’r lliw hefyd yn awgrymu cynddaredd, angerdd, gwylltineb, awydd a chryfder sy’n ein harwain ni'n ôl at ein harwres benboeth.

Mae oren yn cynrychioli iachau ac mae Parsifal gan Wagner wedi cael ei disgrifio fel astudiaeth ar salwch, poen ac iachau. Gwaywffon sanctaidd yw’r unig beth all iachau anaf y Brenin, a dim ond ‘ffŵl pur’ all ddod o hyd iddi.

Mae melyn yn cynrychioli golau’r haul ac mae Sarastro o The Magic Flute gan Mozart yn crynhoi hyn yn berffaith fel Archoffeiriad yr Haul.

Gwyrdd yw lliw natur, sy’n ein harwain ni’n syth at y goedwig a The Cunning Little Vixen. Mae set Maria Bjørnson ar gyfer cynhyrchiad poblogaidd David Pountney yn creu cefndir o laswellt ar gyfer y perfformiad lle mae llwynoges ifanc yn ceisio llywio ei ffordd drwy’r byd.

Mae glaswyrdd yn cynrychioli celf ac roedd Wagner yn ystyried ei Ring Cycle yn ‘Gesamtkunstwerk’ (campwaith llwyr) lle mae barddoniaeth, drama, cerddoriaeth a llwyfannu yn dod at ei gilydd. Cyfansoddwyd y gwaith dros gyfnod o 26 mlynedd, ac yn ogystal ag adlonni, bwriad y pedwarawd operatig sy’n 15 awr oedd i dynnu sylw at y dyheadau wtopaidd a gafodd eu dinistrio yn ystod chwyldroadau 1848.

Mae indigo yn cynrychioli harmoni. Mae Satyagraha, myfyrdod epig Philip Glass ar flynyddoedd cynnar Mohandas K. Gandhi yn Ne Affrica yn olrhain cynnydd cysyniad y ‘chwe enaid’, sy’n edrych ar brotestio heb drais fel ffordd gadarnhaol i newid a chreu harmoni.

Mae fioled yn cynrychioli ysbryd, ac mae Violetta, y brif gymeriad fenywaidd yn La traviata yn llawn ysbryd, ac mae ei henw yn deillio o’r gair Eidaleg ar gyfer porffor. Putain llys sy’n disgyn mewn cariad ac yn troi ei chefn ar ei gorffennol. Yna, mae’n aberthu ei hapusrwydd er enw da ei chariad. Nid yw ei theimladau’n diflannu, ac yn y diwedd, mae’r ddau’n dod at ei gilydd ar gyfer yr aduniad olaf.

Ychwanegwyd gwyn, pinc a glas golau i’r faner i gynrychioli y gymuned draws. Rydym yn gweld cynnydd yn nifer y cantorion traws yn y byd opera. Mae As One, opera gan Laura Kaminsky a gafodd ei pherfformio am y tro cyntaf yn 2014 yn adrodd stori person traws, o blentyndod i fod yn oedolyn. Mae disgwyl y bydd As One yn cael ei pherfformio ym Mhrydain am y tro cyntaf yn hwyrach yn 2021.

Yn olaf, mae Du a brown yn cynrychioli pobl groenliw a’r bobl a gollwyd i AIDS, sy’n ein hatgoffa ni o’r sioe gerdd Rent, sydd wedi’i seilio’n rhannol ar La bohème gan Puccini. Yn yr opera wreiddiol, mae grŵp o artistiaid adfydus yn perfformio stori garu drasig yn erbyn cefndir sy’n darlunio Paris bohemaidd. Mae fersiwn newydd Jonathan Larson yn ein cludo ni i Lower Manhattan, Efrog Newydd, lle mae amrywiaeth o artistiaid a pherfformwyr yn creu bywyd dan gysgod HIV/AIDS.

Mae baner yr enfys yn cynrychioli grŵp eang ac amrywiol o bobl, ac mae opera yr un fath: mae rhywbeth at ddant pawb, cymaint o storiâu i’w hadrodd mewn sawl ffordd wahanol ac ystod o bobl i’w dehongli nhw.

Pride Hapus gan bawb yn WNO.