Newyddion

Dewch i ddawnsio...

27 Ebrill 2020

Fel arfer, y geiriau a'r delyneg sy'n adrodd stori ar lwyfan ac ar y sgrin, fodd bynnag, gall y defnydd o ddawns fod yn ffordd effeithiol i fynegi emosiwn, esbonio golygfa a symud y gweithrediad yn ei flaen. Yn West Side Story, mae'r dilyniannau dawns, lle mae unigolion yn dawnsio yn erbyn ei gilydd, yn ffordd bwerus o arddangos y gwrthdaro rhwng y gangiau cystadleuol; cyrhaeddodd stori Giri/Haji gan y BBC ei hanterth hyfryd a ddramatig y llynedd drwy ddawns ddeongliadol; ac mewn opera, gallwn ddefnyddio dawns i fynegi elfen benodol o'r stori, fel y gwneir mewn sioe gerdd.

Fodd bynnag, mae dawns mewn sioeau cerdd, boed yn ffilm neu theatr, yn chwarae rhan llawer pwysicach na'r pwrpas mae'n ei wasanaethu fel arfer mewn opera. Fel nododd The Washington Post mewn erthygl yn trafod y golygfeydd dawns gorau: 'Wrth ddewis y golygfeydd dawns gorau, edrychais ar nifer o ffactorau: meistrolaeth dros dechneg, coreograffi llawn dychymyg, ansawdd y gerddoriaeth - mae hyn yn bwysig iawn - a dyluniad ac adrodd stori ... dawns dda yw dawns sy'n eich cyffwrdd chi.' (Meddyliwch am Gene Kelly yn chwifio ei ambarél yn Singin’ in the Rain!)

Mae ffilmiau eisoes wedi defnyddio dawns, o ffilmiau mud Oes Aur Hollywood i La La Land, 2016. Os ydych wedi mwynhau gwylio dawnsiau mwyaf poblogaidd Busby Berkeley; Fred a Ginger; Ryan Gosling ac Emma Stone… nid chi yw'r unig un - mae nifer o'r straeon hyn wedi ymddangos ar y llwyfan yn dilyn llwyddiant y ffilm, ac mae nifer o ffilmiau eraill wedi'u hysbrydoli ganddynt mewn rhyw ffordd. Yn wir, mae opera wedi manteisio ar yr atyniad hwn hefyd.

Yn ein Tymor y Gwanwyn byr roedd dau gynhyrchiad oedd yn cynnwys dawns: Les vêpres sicilienne gan Verdi, a Carmen gan Bizet. Roedd y cyntaf yn cynnwys bale, divertissement; yn ein cynhyrchiad a ddawnsiwyd gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru; ac roedd yr ail, sef cynhyrchiad Jo Davies wedi'i leoli yng Nghanolbarth America, yn cynnwys Tango sionc yn hytrach na'r Flamenco arferol. Penderfynodd y cyfarwyddwyr ddiddanu'r gynulleidfa yn ogystal â defnyddio elfennau o ddawns i ychwanegu at gynhyrchiad y ddwy opera. Penderfynodd David Pountney ddefnyddio y bale yn vêpres, a gafodd ei chreu yn arbennig, i adrodd stori mam Henri; gan ail-ddefnyddio dawnswyr drwy gydol y cynhyrchiad i fywiogi'r weithrediad sobr. Ar y llaw arall, penderfynodd Jo Davies gynnwys pâr o ddawnswyr fel rhan hanfodol o'r cast, gan arwain dawnsfeydd drwy gydol y cynhyrchiad i gynrychioli ysbryd Lladin tanbaid byd Carmen.

Yn ogystal, mae WNO wedi perfformio sioe gerdd Cole Porter, Kiss Me, Kate (wedi'i chyfarwyddo gan Jo Davies); ond nid dyma ein hunig gynhyrchiad gyda dawns ynddo.  Mae nifer o operâu yn cynnwys golygfeydd dawns canolog a chofiadwy, o'r holl bartïon yn La traviata gan Verdi; i'r ddawns yn Eugene Onegin, lle mae rolau y ddwy brif ran yn newid, ac mae Onegin yn erfyn ar Tatyana ddisgyn mewn cariad gydag ef; ac mae The Cunning Little Vixen yn cynnwys dau ddawnsiwr fel gweision y neidr, ynghyd â choedwig yn orlawn o anifeiliaid yn dawnsio. Yn Nhymor y Gwanwyn 2021, bydd Der Rosenkavalier yn canu clod i'r Wals, ac er nad oes llawer o ddawnsio yn ein cynhyrchiad, mae cerddoriaeth Strauss, ynghyd â'i gysylltiadau â dawns, yn parhau i fynnu ei lle ar ganol y llwyfan.

Mae’n bwysig codi eich calon yn ystod y cyfnod hwn felly dawnsiwch, gan obeithio y byddwn yn gallu dod â dawns i lwyfan cyfagos i chi cyn hir. Dawnsiwch fel bo neb yn gwylio - mae'n wych ar gyfer cael gwared â straen ac yn rhywbeth hwyliog i'w wneud yn ystod y cyfyngiadau symud.