Newyddion

Dyna ni! Cau’r llenni ar ein Tymor y Gwanwyn 2025.

5 Mehefin 2025

O anhrefn gomig The Marriage of Figaro i drasiedi Peter Grimes mae’r Tymor hwn wedi dangos ehangder emosiynol lawn opera, gan swyno ein cynulleidfaoedd ledled y DU.

The Marriage of Figaro

Agorodd y Tymor mewn steil gyda ffefryn y cefnogwyr The Marriage of Figaro. Agoredd y perfformad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Chwefror, aeth y cynhyrchiad ymlaen ar daith i Abertawe, Southampton, Birmingham a Milton Keynes.

Wedi’i gyfarwyddo gan Max Hoehn dan arweiniad medrus Kerem Hasan, roedd yr adfywiad hwn o’n cynhyrchiad 2016 yn llawn carisma a phersonoliaeth. Rhannodd Michael Mofidian ac Artist Cyswllt WNO William Stevens rôl y carismatig Figaro, gyda Christina Gansch fel y Susanna ffraeth, Giorgio Caoduro fel Iarll Almaviva a Chen Reiss, Erika Grimaldi ac Erin Rossington yn cymryd twrn fel yr Iarlles urddasol.

Roedd cynulleidfaoedd a beirniaid fel ei gilydd wedi’u swyno gan y corwynt o gamadnabyddiaeth, ymgysylltiadau rhamantus a dychan cymdeithasol. Gyda dyluniad set huawdl gan y diweddar Ralph Koltai a gwisgoedd disglair gan Sue Blane, cawsom ein hatgoffa, fel bob amser, pam fod Figaro yn parhau i fod yn gonglfaen unrhyw dymor opera.

Peter Grimes.

Yn dilyn canmoliaeth beirniaid am Death in Venice y llynedd, a enillodd wobrau, roedd disgwyliadau’n uchel am ein cynhyrchiad newydd oPeter Grimes Britten a chyflawnwyd y rhain a mwy.

Wedi’i gyfarwyddo gan Melly Still, dan arweiniad ein Cyfarwyddwr Cerdd, Tomáš Hanus, mae cynulleidfaoedd wedi ymgolli yn y llwyfannu newydd pwerus hwn yn harddwch llwm Arfordir Suffolk Britten. Roedd cwch bysgota crog yn clymu'r cynhyrchiad gyda'i gilydd, wedi'i ddal yn hyfryd gan set afaelgar Chiara Stephenson a’i gyfoethogi gan ddyluniad goleuo Malcolm Rippeth a dyluniad gwisgoedd IIona Karas.

Yr anhygoel Nicky Spence oedd yn chwarae rhan enfawr Grimes, a chafodd ei berfformiad ei gydnabod fel campwaith, yn cael ei ganmol am ei ddynoliaeth a’i bŵer. Bu beirniaid yn canmol y cynhyrchiad fel “spine chilling” (The Times) tra bod Corws a Cherddorfa WNO wedi dod â’r gorau allan o Sea Interludes arswydus a harmonïau gafaelgar Britten.

Beth i'w ddisgwyl yn Hydref 2025…

Mis Medi eleni, bydd ToscaPuccini yn camu i'r llwyfan. Stori dorcalonnus yn llawn angerdd, gwleidyddiaeth ac aberth. I’r rhai sydd yn chwilio am rywbeth ychydig yn

wahanol, mae ein cynhyrchiad gwefreiddiol o 2023, CandideBernstein yn dychwelyd. Byddwch yn barod am daith wyllt drwy Ffrainc yr 18fed ganrif a thu hwnt.

Bydd y ddau berfformiad yn cychwyn ar eu taith yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, cyn mynd i Theatr Mayflower, Venue Cymru a Hippodrome Bryste.

Diolch yn fawr / Thank you

Diolch i’n cynulleidfaoedd a'n cefnogwyr. Heb eich cefnogaeth chi, ni fyddai dim o’n gwaith yn bosibl. Diolch am ddod, gan bawb o Opera Cenedlaethol Cymru. Er ein bod yn ffarwelio â Gwanwyn 2025, fe welwn ni chi’n fuan iawn ar gyfer ein Tymor nesaf...