Newyddion

Mae Tomáš yn ôl

29 Awst 2018

Wrth i ni edrych ymlaen at dymor yr hydref, dyma gyfle i groesawu ein Cyfarwyddwr Cerddoriaeth, Tomáš Hanus, yn ôl wrth iddo ddychwelyd i arwain y Gerddorfa mewn sawl darn o waith cyferbyniol.

Bydd Tomáš yn arwain dwy o’n tair opera yng Nghaerdydd ac ar daith* dros y misoedd nesaf. Unwaith eto, bydd yn gweithio ar y cyd â’r Cyfarwyddwr Artistig, David Pountney, ar ein cynhyrchiad newydd – yr epig, War and Peace – ble maent wedi cydweithio i greu fersiwn o’r darn sy’n cynrychioli bwriad y cyfansoddwr, Prokofiev, agosaf. Mae eu cynhyrchiad yn argoeli i gynnwys mwy o ddrama a ffocws ar y stori garu sydd wrth wraidd y plot. 

Yna mewn cyferbyniad, cawn weld ochr hollol wahanol i Tomáš wrth iddo ddod â ffraethineb a hiwmor cynnil La Cenerentola, Sinderela gan Rossini, i fywyd. Bydd y rheiny ohonoch a welodd ef yn arwain perfformiadau o Die Fledermaus eisoes wedi profi’r llawenydd a ddaw i opera gomig a gallwn ddisgwyl mwy o hynny wrth iddo ymgymryd â’r sgôr disglair hwn. 

Bydd David a Tomáš yn cymryd rhan yn ein trafodaethau Mewnwelediad i Opera diweddaraf ar 2 Medi, wrth iddynt drafod sut daeth eu fersiwn newydd o War and Peace at ei gilydd. Ar hyn o bryd nid oes lle ar ôl ar gyfer y digwyddiad hwn sydd am ddim, ond cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru i holi am unrhyw docynnau sydd wedi’u dychwelyd. 

Bydd mynychwyr cyngherddau hefyd yn falch o wybod bod Tomáš yn dychwelyd i’r Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol yn Neuadd Dewi Sant am ddau berfformiad y tymor hwn. Ar gyfer y cyntaf, ym mis Tachwedd, bydd ef a Cherddorfa WNO yn ymuno â’r sielydd o Armenia Narek Hakhnazaryan a’r bariton o Slofacia Gustáv Beláček am raglen yn cynnwys Rossini, Elgar a Janáček. Dilynir hyn ym mis Mawrth gan ein perfformiad olaf yn y gyfres o gyngherddau am eleni, gyda darnau gan R Strauss, Mozart a Brahms ble bydd Tomáš a’r Gerddorfa yn ymuno â’r pianydd Paul Lewis ar gyfer Concerto Piano Rhif 27 gan Mozart.

Os nad yw hynny’n ddigon i’w gadw’n brysur, bydd hefyd yn ymddangos yng Ngŵyl Janáček yn Brno ble bydd cynhyrchiad David a Tomáš o From The House of the Dead, a oedd yn hynod boblogaidd gyda chynulleidfaoedd WNO yn 2017, yn cael ei arddangos. 

Unwaith y bydd ein tymor opera yn dod i ben, does dim gorffwys i Tomáš gan y bydd yn teithio i’r Almaen i arwain The Bartered Bride ar gyfer Bayerische Staatsoper ym mis Rhagfyr.

*Nid oes perfformiadau o War and Peace ym Mryste na Lerpwl