Newyddion

Cerddorfa WNO - ar daith yr haf hwn

27 Mehefin 2019

Mae Cerddorfa WNO yn mynd allan ar daith unwaith eto ar ddiwedd y mis, gan ymweld â'r Neuadd Fawr yn Abertawe, Glan yr Afon Casnewydd a Hafren, y Drenewydd gyda'n cyngerdd Clasuron Opera'r Haf. Yn dilyn hyn, bydd y Gerddorfa yn mynd ati i wneud ei hymddangosiadau poblogaidd ym Mhroms Cymru yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd a Gŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Abergwaun yn ddiweddarach ym mis Gorffennaf.

Mae'r Gerddorfa yn lledaenu cariad ac yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd yn llwyddiannus drwy ymddangosiadau rheolaidd fel y rhain, ond hefyd drwy'r nifer cynyddol o Gyngherddau i'r Teulu ac Ysgolion yr ydym yn eu cynnal i agor llygaid plant i bleserau cerddoriaeth glasurol. Erbyn hyn, mae gennym Gyngherddau i'r Teulu yn Birmingham a Southampton, yn ogystal ag yma yng Nghaerdydd; ac mae miloedd o blant wedi profi ein Cyngherddau i Ysgolion yn Plymouth a Llandudno hefyd.

Mae taith Clasuron yr Haf eleni yn mynd â dau o unawdwyr o'n tymor mwyaf diweddar i rannau o Gymru na gyrhaeddodd ein taith opera brif raddfa, gan sicrhau bod Cerddorfa WNO a rhai o'n perfformwyr gorau yn cael eu gweld gan hyd yn oed mwy o bobl. Ymddangosodd y soprano Joyce El-Khoury a'r baritôn Jason Howard gyda'i gilydd o'r blaen gyda WNO yn La traviata (Gwanwyn 2012), fel Violetta a Giorgio Germont. Yn ystod Tymor y Gwanwyn 2019, perfformiodd y ddau gyda ni unwaith eto, ond mewn operâu gwahanol.

Derbyniodd Joyce adolygiadau gwych fel Elisabetta yn Roberto Devereux

The role of Elisabetta is a notoriously difficult part for even the most seasoned of sopranos. In the hands of Joyce El-Khoury it appears both effortless and truly dazzling. Her commitment to the role is total, at points even exhausting in its emotional intensity, and her fluent coloratura and masterful control are joyous

Bachtrack, 4 March 2019

Jason oedd Silvano yn y rhan ddiweddaraf o'n trioleg Verdi, Un ballo in maschera, cynhyrchiad a oedd wrth fodd y gynulleidfa a'r beirniaid. Derbyniodd adolygiadau 4 seren yn The Guardian a'r Telegraph. Ymddangosodd am y tro cyntaf gydag WNO fel Marcello yn La bohème yn ôl ym 1993 a gellir ei ystyried erbyn hyn fel un o berfformwyr rheolaidd WNO.

Yn ogystal â'i waith ar lwyfannau opera'r byd, mae Jason hefyd yn mwynhau theatr gerdd, yn wir rhannodd ei amser rhwng perfformio yn La traviata 2012 gyda'i rôl mewn cynhyrchiad teithiol o South Pacific, a ymwelodd â'n lleoliad cartref Canolfan Mileniwm Cymru. Bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y cyngerdd sy'n cynnwys dau ddarn o'r sioe honno – yr Agorawd a'r hyfryd 'Some Enchanted Evening'. Mae'r repertoire hefyd yn cynnwys rhai darnau adnabyddus o'r genre opera 'clasurol', o Tosca Puccini, Norma Bellini, Don Giovanni Mozart, Die Meistersinger von Nürnberg Wagner ac, i'ch paratoi ar gyfer ein Tymor yr Hydref, Rigoletto Verdi. Mae'r cyngerdd hefyd yn cynnwys rhagor o gerddoriaeth boblogaidd gan Mascagni, Giordano, Tchaikovsky, Dvořák a Lehar.

I'r rhai hynny ohonoch sy'n byw'n agos i at unrhyw un o'n tri pherfformiad Clasuron yr Haf, gallwch ddod i weld ffefrynnau WNO, Joyce a Jason, yn perfformio gyda'i gilydd unwaith eto ar ein llwyfan cyngerdd. Bydd y Gerddorfa yn cael ei harwain gan un o aelodau mwyaf newydd Staff Cerdd WNO, Harry Ogg – gallwch ddarllen popeth am Harry yma.