Mae'n bleser gan Opera Cenedlaethol Cymru gyhoeddi Tianyi Lu fel yr Arweinydd Breswyl Fenywaidd gyntaf. Mae hyn yn dilyn galwad agored i unigolion sy'n awyddus i fod yn arweinwyr wneud cais am swydd a phroses glyweliad gyda Cherddorfa WNO yn gynharach eleni.
Tianyi Lu, sy'n cael ei disgrifio gan Carlo Rizzi, Arweinydd Llawryfog WNO, fel un sydd â 'cherddgarwch arbennig a charisma naturiol ar y podiwm', yw'r gyntaf i dderbyn y swydd hon, wedi ei lansio gan WNO i helpu unioni'r cydbwysedd rhwng y rhywiau ar draws y diwydiant. Cafodd y cynllun ei datblygu wedi cynhadledd Where Are All the Women' WNO yn 2018, ble bu panel o ferched a mynychwyr yn rhannu profiadau o'r heriau mae merched yn eu hwynebu yn y diwydiant cerddoriaeth glasurol.
Wedi ei geni yn Shanghai a'i magu yn Seland Newydd, astudiodd Tianyi Lu yn Auckland a Melbourne cyn cwblhau cwrs Meistr Cerddoriaeth mewn Arwain Cerddorfa yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (RWCMD) gyda Rhagoriaeth yn 2015. Yn RWCMD sefydlodd Tianyi gysylltiad gyda WNO am y tro cyntaf, yn gweithio gyda'r tîm Ieuenctid a Chymuned ar gynhyrchiad llwyddiannus Opera Ieuenctid WNO o Kommilitonen!yn 2016.
Dywedodd Emma Flatley, Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu yn WNO: "Rydym yn gweithredu'n gadarnhaol i unioni'r diffyg cydbwysedd o ferched mewn swyddi arwain a hwn yw'r cam cyntaf wrth inni roi cyfle a swydd ddatblygiadol yn benodol ar gyfer merched gyda'r nod o gynyddu amrywiaeth a chyfleoedd. Rydym yn cydnabod bod llawer o waith i'w wneud i annog gwell amrywiaeth ar draws y sector opera, ond bydd y cynllun hwn yn galluogi merched nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol yn y sector cerddoriaeth glasurol ar hyn o bryd; a chynnig cyfle i gael mwy o amrywiaeth ar draws y sector proffesiynol yn y dyfodol."
Tianyi Lu yw Arweinydd Cynorthwyol Cerddorfa Melbourne Symphony, a Phrif Arweinydd Sinfonia St Woolos sydd wedi ei leoli yng Nghasnewydd, Gwent, ac roedd hi'n Gymrawd Dudamel gyda Cherddorfa Los Angeles Philharmonic yn 2017/18. Mae ei huchafbwyntiau diweddar yn cynnwys cyngherddau gyda Cherddorfa Gulbenkian gyda Carolin Widmann yn Lisbon ac ar daith ym Mhortiwgal, Cerddorfa Symffoni City of Birmingham , Cerddorfa Ulster, Cerddorfa Symffoni Radio Bucharest. Symffoni Sydney, Cerddorfa Hallé a Ffilharmonia Auckland.
Wedi iddi gael ei phenodi, dywedodd Tianyi, "Rwyf wrth fy modd bod yn ôl yng Nghaerdydd, fy ail gartref, i weithio gyda nifer o unigolion creadigol a dewr sy'n creu sefydliad bywiog WNO. Mae'r Cwmni wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi dros nifer o flynyddoedd a byddaf yn mwynhau'r cyfle i ymgymryd â llu o brosiectau amrywiol dros y 18 mis nesaf yn y swydd.”
Mae cynllun Arweinydd Preswyl WNO yn anelu at roi'r hyfforddiant a phrofiad angenrheidiol i ferched sy'n awyddus i fod yn arweinwyr i geisio gyrfa yn y maes. Mae'n cynnwys gweithio'n agos gyda Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerdd WNO, a Cherddorfa WNO ar draws llu o repertoire, gan gynnwys prif opera, yn ogystal â phrosiectau ieuenctid a chymunedol.
Bydd y rhaglen 18 mis hefyd yn cynnwys cyfle i Tianyi gael ei mentora gan yr arweinydd Prydeinig, Alice Farnham. Alice oedd curadur symposiwm merched mewn cerddoriaeth WNO yn 2018, a chyfarwyddwr artistig rhaglen Arweinwyr Benywaidd y Royal Philharmonic Society.
Dywedodd Alice Farnham: "Mae'n bleser gweithio gyda Tianyi wrth iddi ymgymryd â'r rôl newydd hon gyda WNO. Bydd y rhaglen adeiladol a meithringar hon yn galluogi Tianyi i ddatblygu fel artist a rhoi profiad podiwm sylweddol iddi. Mae gwir angen gwella'r tirlun ar gyfer arweinwyr benywaidd yn y diwydiant cerddoriaeth, ac rwyf yn cymeradwyo WNO am gynnig y swydd sylweddol hon a fydd yn helpu i ailgyfeirio'r cydbwysedd."
Mae Tianyi yn dechrau ei swydd ym mis Awst, yn gweithio gyda Tomáš Hanus y Cyfarwyddwr Cerdd, Arweinydd Cyswllt WNO, Harry Ogg a thîm cerddoriaeth WNO ar gynhyrchiad newydd oCarmen, yn ogystal â goruchwylio'r gwaith paratoi ar Rigoletto a The Cunning Little Vixen. Bydd Tianyi yn cymryd rôl Arweinydd Cynorthwyol ar gyfer perfformiad y Gwanwyn o Carmen, yn arwain dau berfformiad yn y Liverpool Empire ar 26 a 28 o Fawrth, a bydd hefyd yn rhan o Brosiectau Ieuenctid a Chymuned y tymor.
Nodiadau i Olygyddion
- Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru. Ariennir WNO gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i gyflwyno opera ar raddfa fawr ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr.
- Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o wno.org.uk/press
- Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â Rachel Bowyer neu Penny James, Rheolwr y Wasg (rhannu swydd) ar 029 20635038 neu rachel.bowyer@wno.org.uk / penny.james@wno.org.uk neu Rhys Edwards, Swyddog y Wasg, ar 029 2063 5037 neu rhys.edwards@wno.org.uk
- Harry Ogg yw Arweinydd Cysylltiol WNO mewn cydweithrediad â Chystadleuaeth Arwain Donatella Flick-LSO