Yng Ngwanwyn 2019 bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio cynhyrchiad newydd cyffrous wrth ochr ddau glasur mewn tymor sy’n sicr o wneud i’ch calon guro’n gyflym.

Bydd cariad, grym a gwleidyddiaeth yn gwrthdaro mewn cynhyrchiad newydd arall, ac ail ran triawd Verdi WNO, Un ballo in maschera. Ochr yn ochr â’r cynhyrchiad hwn bydd adfywiad WNO o’u cynhyrchiad o Roberto Devereux, a gafodd gryn glod gan y beirniaid, yn ogystal â’r opera hudolus a chyfareddol, The Magic Flute

Mae hefyd yna gyfle i ddod yn agosach ar ein hoperâu gyda’n sgyrsiau cyn-perfformiad ar draws ein taith, yn ogystal â’n digwyddiad Mewnwelediad Opera wedi ei gyflwyno gan Gyfarwyddwr Artistig WNO David Pountney yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.