Newyddion

Opera Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi Tymor 2020/2021

31 Ionawr 2020

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ei raglen ar gyfer Tymor 2020/2021, ynghyd â chynlluniau i nodi ei 75ain flwyddyn yn 2021.

I barhau â Chyfres Janáček y Cwmni, bydd Hydref  2020 yn agor gydag ein cynhyrchiad 2008 o Jenůfa gan Janáček. Bydd Jenůfa yn cael ei harwain gan Gyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus ac mae’r cast yn cynnwys y soprano delynegol o America, Amanda Majeski, a fydd yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf fel Jenůfa.

Bydd opera newydd, Migrations, yn ffurfio rhan o’n Tymor yr Hydref.  Yn stori amserol, mae Migrations yn archwilio gwahanol elfennau mudo, yn cynnwys effaith dynol un o'r penderfyniadau anoddaf y mae llawer wedi'u gorfodi i'w gwneud: gadael eu cartrefi a'u cymunedau ar drywydd bywyd gwell, mwy diogel. Mae'n stori hefyd o hyfdra a gwytnwch yr enaid dynol mewn gwahanol amgylchiadau ac mewn cyferbyniad â stori a theithiau mudo adar mewn byd natur.

Pum ysgrifennwr - Shreya Sen Handley, Edson Burton a Miles Chambers, Eric Ngalle Charles a Sarah Woods - wedi gweithio gyda Syr David Pountney i greu'r libreto o chwe stori, wedi'u hysbrydoli gan eu profiadau personol o fudo a gweithio gyda ffoaduriaid. 

Gyda cherddoriaeth gan y cyfansoddwr Prydeinig Will Todd, bydd Matthew Kofi Waldren yn arwain, a Syr David Pountney bydd yn cyfarwyddo’r opera gyda chefnogaeth gan dîm o gyfarwyddwyr cyswllt. Mae'r cast o 100 o berfformwyr yn cynnwys Lester Lynch, Marion Newman, Simon Bailey, Tom Randle, Musa Ngqungwana a Meeta Raval, ynghyd â chôr gospel, dawnswyr Bollywood a chorws plant.

Mae Tymor yr Hydref hefyd yn cynnwys perfformiaddau pellach o The Barber of Seville gan Rossini. Bydd Cyn-arweinydd Cyswllt WNO Kerem Hasan yn dychwelyd i arwain.


Gwanwyn a Haf 2021 – WNO yn 75

Mae Tymor y Gwanwyn yn nodi lansiad 75ain flwyddyn WNO gyda chynhyrchiad newydd o Faust gan Gounod, un o'r operâu cyntaf i WNO eu perfformio ym mis Ebrill 1946. Olivia Fuchs fydd yn cyfarwyddo gydag Alexander Joel yn dychwelyd i WNO i arwain. Yn ymuno â'r cast mae artist o Marinsky Theatre Natalya Pavlova a fydd yn gwneud ei hymddangosiad operatig cyntaf ym Mhrydain Fawr yn chwarae rhan Marguerite.

Bydd y soprano Rebecca Evans yn dychwelyd i adfywio rhan Y Marschallin yn Der Rosenkavalier gan Strauss, rhan a ganodd gydag WNO am y tro cyntaf yn 2017. Caiff ei haduno â Lucia Cervoni fel Octavian, ac yn ymuno â nhw'r tro hwn fydd Soraya Mafi a Julie Martin du Thiel fel Sophie. Tomáš Hanus fydd yn arwain y cynhyrchiad hwn a nododd ddechrau llwyddiannus ei daliadaeth fel Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO yn 2017.

Yn cwblhau Tymor y Gwanwyn mae Il trovatore gan Verdi, sy'n gweld rhai o ffefrynnau WNO yn dychwelyd, Mary Elizabeth Williams, David Kempster a Linda Richardson. Pietro Rizzo fydd yn arwain.

Yn Nhymor yr Haf, gwelir parhad yn ymrwymiad WNO i gyflwyno gwaith newydd a pherthnasol i fwy o bobl ym mwy o leoedd, Unwaith eto, bydd Caroline Clegg (Cyfarwyddwr) ac Emma Jenkins (Libretydd) yn dod ynghyd, wedi iddynt gydweithio ar Rhondda Rips It Up! yn 2018, i weithio ar ddarn newydd sy'n pwysleisio doniau lleisiol y dynion yng Nghorws WNO. A hithau wedi'i gosod yn y 1950au, mae Blaze of Glory! yn dilyn ffawd grŵp o lowyr mewn pentref mwyngloddio bychan sy'n cychwyn ar hynt gerddorol drwy ffurfio côr meibion fel ffordd o uno'r gymuned ar ôl trychineb mwyngloddio. Wedi'i gyfansoddi gan David Hackbridge Johnson, mae'r sgôr yn cynnwys canu mewn harmonïau agos, sy'n cael ei gysylltu â chorau meibion yn draddodiadol, yn ogystal â cherddoriaeth band mawr, jeif, lindi hop a cherddoriaeth gospel Affricanaidd. Gan agor yn New Theatre Caerdydd, bydd y cynhyrchiad yn mynd ar daith i leoliadau ar raddfa ganolig ledled Cymru a Lloegr.

Mae tocynnau ar gyfer Hydref 2020 a Gwanwyn 2021 yn mynd ar werth i’r gyhoedd ar Gwener 28 Chwefror, fodd bynnag gall Cyfeillion WNO archebu tocynnau o Gwener 14 Chwefror. Cyhoeddir mwy o wybodaeth am Blaze of Glory! cyn bo hir.