Newyddion

Diwrnod ym mywyd Artist Cyswllt

6 Mehefin 2019

Harriet Eyley yw'r artist ifanc ddiweddaraf Opera Cenedlaethol Cymru. Wedi iddi raddio o'r Royal College of Music a'r Royal Academy of Music (RAM), ymunodd ag WNO yn gynharach eleni fel Artist Cyswllt. Cawsom sgwrs gyda hi i drafod beth mae'r cyfle yn ei olygu iddi, a sut beth yw diwrnod arferol yn WNO i artist perfformio.

'Mae rhai dyddiau'n ysgafn, a rhai dyddiau'n ddwys, rhai dyddiau byddaf yn treulio wyth awr ar Goetsys National Express. Nid oes dim un diwrnod yr un fath. Dyma pam yr wyf wrth fy modd yn y proffesiwn hwn. Hyd heddiw, mae'r gwaith wedi bod yn gyffrous, heriol ac anodd.

Fy nyletswydd gyntaf fel Artist Cyswllt WNO oedd ymuno â Cherddorfa WNO ar eu Cyngerdd Blwyddyn Newydd hynod boblogaidd, A Night in Vienna- nid oedd gennyf gywilydd golli deigryn yn ystod fy ymarfer gyntaf â’r Gerddorfa. Yna cefais ran Oscar yng nghynhyrchiad newydd David Pountney o Un ballo in maschera yn ystod Tymor y Gwanwyn 2019 WNO. I mi, mae mynd i'r afael â'r rôl hon wedi bod yn un o'r profiadau mwyaf gwerth chweil hyd yn hyn. Dechreuais ymchwilio i Rolau Travesti ar gyfer fy nhraethawd ymchwil MMus yn RAM ac rwyf hapusaf yn tynnu ar hynny i ymchwilio'n ddyfnach iddynt yn academaidd. Pleser oedd perfformio'r rôl yn Hippodrome Birmingham - fy uchafbwynt hyd yn hyn. Mae perfformio gyda cherddorfa fawr yn brofiad arbennig.

Rwy'n parhau i gael y pleser o weithio gyda phobl a cherddorion sy'n debyg i mi ac sy'n arbenigwyr yn eu meysydd. Ar hyn o bryd rwy'n paratoi ar gyfer rôl Norina yn addasiad newydd sbon, newydd ei orffen o Don Pasquale gan Donizetti a fydd yn mynd ar daith ledled Cymru a Lloegr yr haf hwn. Mae diwrnodau perfformio yn ddyddiau arbennig o gyffrous felly rwy'n eu mwynhau. Mae'r lleoliadau yn ymestyn ar draws y wlad o Aberdâr i Norwich, Birmingham i Gasnewydd. Un sioe, a symud ymlaen.

Mae bob dydd yn dechrau'r un fath, taith feicio gwta 60 munud o'm cartref ym Mhenarth i Ganolfan Mileniwm Cymru, lle byddwn yn "creu gwir fel gwydr o ffwrnais awen" ("in these stones horizons sing"). Ar ôl cael fy neffro'n gorfforol a meddyliol, byddaf yn mynd ati i gynhesu fyny am oddeutu 30 munud.

Mae fy rôl ar hyn o bryd (Norina yn Don Pasquale) yn heriol o ran llais ac mae cynnwys y ddeialog yn ddefod ddyddiol o geisio ei chael oddi ar gopi. Ychwanegwch ddwy opera arall i'r gymysgedd, ac mae fy ymennydd wedi ymlâdd. Cyn 10am, byddaf wedi mynd i'r afael â thair opera gan dri chyfansoddwr mewn tair iaith.

Un elfen o'r broses nad oeddwn wedi paratoi ar ei chyfer oedd mesur gwisgoedd. Roeddwn yn naïf meddwl mai tasg deng munud fyddai hon...am anghywir oeddwn i...Ar gyfer Norina, rwyf wedi gorfod padio i'r eithaf. Rholiau enfawr o wadin - rhannau dwbl ar fy mhen ôl a bronnau'r un maint â hetiau caled. Ac yn coroni'r cwbl mae ffrog VPL dynn i gadw'r cwbl dan reolaeth; a beic i'w reidio wrth ddarllen llyfr a chanu ar yr un pryd... Mae'r gallu i ganu, dawnsio/bod yn ffasiynol ac actio ar yr un pryd yn sicr yn rhywbeth na ddysgais yn y conservatoire...

Ar ôl dwy awr, mae'r sesiwn fesur ymhell o fod drosodd. Mesuriadau'r wig nesaf. I asesu'r maint cywir, gosodir darnau o gling ffilm dros fy mhen, a'u lapio'n dynn â thâp i greu'r siap. Tynnir y mowld; byddaf yn edrych arno ac yn meddwl ai mowld ar gyfer wig, bronnau neu'r ddau ydyw?...

Mae fy misoedd cyntaf gydag WNO wedi bod yn ysbrydoledig, ac nid yw fy nghyfnod yma wedi dod i ben eto!

Tymor nesaf byddaf yn ymgymryd ag un o fy hoff rolau, Vixen yn The Cunning Little Vixengan Janacek, yn yr iaith Tsieceg wreiddiol yn WNO. Rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at ddysgu iaith newydd a thyrchu'n ddyfnach i'r cymeriad. Mae ganddi le arbennig yn fy nghalon, ac rwy'n gobeithio, yn fy ngyrfa. 

Byddaf hefyd yn perfformio rôl Frasquita yng nghynhyrchiad pryfloclyd newydd WNO o Carmen yn Nhymor yr Hydref 2019 a Barbarina yn The Marriage of Figaro yn Nhymor y Gwanwyn 2020.'