Yn cael ei hystyried fel un o operâu gorau Prydain, mae Peter Grimes yn edrych yn fanwl a dramatig ar yr hyn sy’n digwydd pan fo cymuned ac unigolyn yn anghytuno. Yn cynnwys cast llawn sêr, gyda Nicky Spence fel Peter Grimes, y Fonesig Sarah Connolly fel Auntie, a Chyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus, yn arwain, bydd hon yn storm berffaith.
Darllenwch ein canllaw byr isod i gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am Peter Grimes a'r hyn y gellir ei ddisgwyl o’r opera afaelgar hon.

Seiliwyd opera fawr gyntaf Benjamin Britten, Peter Grimes, ar gerdd naratif y bardd George Crabbe, The Borough. Daeth Britten ar draws y gerdd gyntaf yn ôl yn 1941. Roedd Britten, oedd wedi dianc o ryfeloedd Ewrop, yn byw yn America gyda’i bartner ar y pryd, ac ysbrydolodd y gerdd hon synnwyr o hiraeth am Loegr ynddo. Flwyddyn yn ddiweddarach, hwyliodd Britten yn ôl i Loegr gyda rhodd hael o $1000 gan y cyfansoddwr Koussevitzky i gynhyrchu’r opera Peter Grimes. Er gwaetha’r cwynion cychwynnol gan rai o staff Sadler’s Wells am yr “aflafaredd”, sef cerddoriaeth Britten - aeth Peter Grimes ymlaen i fod yn llwyddiant ysgubol.
Stori am unigedd sy’n greiddiol iddi: Mae Grimes, pysgotwr lleol, mewn anghytundeb â’i gymuned o ganlyniad i gyfres o ddamweiniau anffodus. Mae’r opera yn cychwyn mewn cwest i farwolaeth prentis Grimes; mae’r crwner yn holi’r pysgotwr yn dilyn y farwolaeth ar y môr, ac er gwaethaf gwrthwynebiaeth gyffredinol y pentrefwyr, ystyrir esboniad Grimes yn foddhaol, a chafodd y farwolaeth ei chofnodi fel un ddamweiniol. Fodd bynnag, gosododd Mr. Swallow amod na châi’r pysgotwr brentis arall. Wedi’i gynddeiriogi gan y dyfarniad, mae ffrind Grimes, Ellen Orford, yn ei dawelu.
Y diwrnod canlynol, rhoddodd Ned Keene wybod i Grimes ei fod wedi dod o hyd i brentis newydd, John, o’r wyrcws. Does neb yn meiddio mynd i nôl y bachgen nes i Ellen gynnig. Mae storm yn dynesu, ac mae’r gymuned yn gorchuddio eu ffenestri a chadw eu hoffer, ond mae Grimes yn dioddef y tywydd ac yn dychwelyd i’r môr. Yn y dafarn leol, mae’r tensiwn yn cynyddu, a phan gyrhaedda Peter Grimes, mae’r gymuned yn amheus. Cyrhaedda Ellen gyda’r prentis newydd; nid yw Grimes yn oedi; mae’n cychwyn i’w gwt ar unwaith gyda’r prentis, er gwaetha’r storm gynddeiriog.
Ond beth sydd am ddigwydd i’w brentis newydd?
Yn cynnwys Sea Interludes enwog Britten, sy’n frith drwy’r perfformiad. Bydd Cerddorfa a Chorws WNO yn dod â’r profiad cerddorol anhygoel hwn yn fyw, gyda Tomáš Hanus yn arwain. Yn ymuno â nhw bydd cast anhygoel yn cynnwys talentau Nicky Spence (Grimes), Sally Matthews (Ellen Orford), David Kempster (Balstrode), y Fonesig Sarah Connolly (Auntie), Oliver Johnston (Bob Boles), Jeffrey Lloyd-Roberts (y Parch Horace Adams), Dominic Sedgwick (Ned Keene), Catherine Wyn-Rogers (Mrs Sedley), Fflur Wyn (y Nith Gyntaf), Eiry Price (yr Ail Nith), Callum Thorpe (Hobson) a Sion Goronwy (Swallow).
Yn ogystal â hyn, bydd tîm gwych o weithwyr creadigol yn ymuno â ni, gan gynnwys Melly Still fel Cyfarwyddwr, Joseph Alford fel Cyfarwyddwr Cyswllt, Chiara Stephenson fel Dylunydd Setiau, Malcom Rippeth fel Dylunydd Goleuo, ac IIona Karas fel Dylunydd Gwisgoedd.
Sicrhewch nad ydych yn colli'ch cyfle i weld cynhyrchiad newydd sbon WNO o Peter Grimes, sy'n agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Sadwrn, 5 Ebrill, cyn mynd ar daith i Southampton, Birmingham, Milton Keynes a Plymouth.