Roedd 15 Ebrill 2021 yn nodi 75 o flynyddoedd ers perfformiad cyntaf wedi ei lwyfannu'n llawn Opera Cenedlaethol Cymru yn Theatr Tywysog Cymru yng Nghaerdydd. I ddathlu'r achlysur nodedig hwn, rydym yn edrych yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf, ac yn dewis 7.5 uchafbwynt.
1) Heb os, ein huchafbwynt cyntaf yw ein fideo, wedi’i recordio yn unol â rheolau pellter cymdeithasol, o'r Easter Hymn o'r opera gyntaf y gwnaethom ei pherfformio erioed – Cavalleria rusticana, wedi’i chanu gan Gorws WNO. Mae’r Corws yn crwydro heibio lleoedd sylweddol yn ein hanes, o fan geni WNO, cartref Idloes Owen yn Llandaf, i gartref presennol y Cwmni, Canolfan Mileniwm Cymru.
2) Yr ail uchafbwynt yw Intermezzo, cerdd wedi’i chomisiynu’n benodol ar gyfer ein penblwydd. Adroddodd llu o westeion arbennig Cymreig y gerdd gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru. Yn adrodd hanes trawsnewidiad WNO dros y 75 blynedd diwethaf, roedd y gerdd yn edrych ymlaen at gyfnod hapusach o ganol dyddiau tywyll y theatr a achoswyd gan y pandemig.
3) Alice in WNOland. Roedd mis Mehefin yn gyfnod gwefreiddiol ar gyfer WNO a’n cynulleidfaoedd wrth i ni ddechrau ar ein perfformiadau byw cyntaf ers dechrau’r pandemig. Gwnaethom gynnal cyfres o berfformiadau promenâd yn yr awyr agored o Alice in Wonderland gan Will Todd, gan gadw at bellter cymdeithasol yng ngerddi’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol syfrdanol yng Ngerddi Dyffryn. Yn dilyn ei lwyddiant ysgubol, a newidiadau i’r rheolau, gwnaethom gynnal rhediad cyfyngedig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru hefyd, gan ymgorffori'r ardal y tu cefn i’r llwyfan fel atyniad ychwanegol.
4) Mae Aralleirio yn cynnwys dehongliadau ffilmiau byr gan bedwar cyfarwyddwr o ariâu clasurol o Turandot, Gianni Schicchi, Le Comte Ory ac Orfeo. Rhoddwyd rhwydd hynt iddynt ail-ddehongli lleoliadau’r ariâu, oddi wrth ddisgwyliadau’r operâu eu hunain, a daeth pob un o hyd i ffordd o arddangos eu bod yn parhau i fod yn berthnasol, o Covid i #MaeBywydauDuOBwys
5) Pride Cymru 2021 – unwaith eto, gwnaethom sefyll ochr yn ochr â Pride a’r gymuned LGBTQIA+, eleni, a gwnaethom ganu fersiwn o This Is Me o The Greatest Showman. Yn cynnwys doniau dau o sêr Cymreig y West End, myfyrwyr Theatr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a phŵer cyfunol Corws a Cherddorfa WNO – yn arddangos pob un lliw o’r enfys.
6) Mae cymunedau'n bwysig. Yma yn WNO, mae ein cymunedau bob amser wedi bod yn rhan fawr o bwy ydym ni, wrth gofio ein bod wedi dechrau fel grŵp o gantorion o'r un anian mewn cymuned yng Nghaerdydd. Gwnaethom brofi ein hymrwymiad i eraill ledled y wlad yn 2021, wrth i sesiynau symud arlein, o Gôr Cysur i Opera Ieuenctid, gwnaethom barhau i fod yno i bawb.
7) Y Seithfed nen: gan ein bod yn frwd dros danio dychymyg a chreadigrwydd y genhedlaeth nesaf o selogion cerddoriaeth, dychwelodd Cerddorfa WNO i’r llwyfan gyda Chyngherddau i Ysgolion wedi’u cynnal yn y prynhawn am ddim yng Nghaerdydd, Birmingham a Southampton.
a hanner... rydym fel arfer yn mynd ar daith ddwywaith y flwyddyn, ond nid oedd modd i ni fod yn fyw mewn theatrau ar gyfer ein dathliadau penblwydd oherwydd y pandemig. Fodd bynnag, gwnaethom lwyddo i ddychwelyd i'r llwyfan ar gyfer taith lawn – hyd yn oed os mai dim ond am hanner y perfformiadau y byddem fel arfer yn eu gwneud mewn blwyddyn – gyda’n cynhyrchiad opera newydd cyntaf ers dros 40 mlynedd o’r opera Madam Butterfly, a chroesawu ein cynhyrchiad poblogaidd o The Barber of Seville yn ei ôl hefyd. Am ffordd o ffarwelio â’n 75ain flwyddyn.