Newyddion

Dod yn farbwr i chi eich hun

21 Ebrill 2020

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae ein byd gwaith, fel y gwyddom, wedi newid yn sylweddol. I'r rhai hynny ohonom sy'n ddigon ffodus i allu gweithio o gartref, gall y daith at fwrdd y gegin, y baslawr neu gwpwrdd, yn y gobaith o guddio oddi wrth blant bychain, fod yr un mor heriol, ond mae'n llawer gwell na thraffig neu'r Tiwb. Beth bynnag sydd ynghlwm â'ch bywyd gwaith, a lle bynnag rydych yn gweithio, roeddem eisiau plymio i fyd swyddi mewn operâu i dynnu eich sylw oddi wrth sefyllfa bresennol y... ie, hwna.

Wrth i ni gyd ymdrechu i fod yn greadigol yn sgil y cyfyngiadau symud, efallai y byddai'n syniad cymryd cyngor gan ein hoff operâu, ac nid yw hynny'n golygu hudo eich ffordd ar draws Ewrop fel Don Giovanni (gallwch ddarllen mwy am hynny, yma). Roeddem yn meddwl mwy am Figaro o The Barber of Sevilleac er i gynddaredd eich gyrru i siafio eich gwallt, dylai rhai penglogau aros ynghudd. Gallech fynd o'i chwmpas hi yn y ffordd draddodiadol o ddefnyddio basn, siswrn miniog, gosod powlen ar eich pen a thorri o'i hamgylch hi. 

Mae Susanna, o The Marriage of Figaroyn arddangos yr hyn sydd ei angen i fod yn forwyn berffaith; canu a dawnsio o bryd i'w gilydd wrth wneud eich gwaith yw'r ffordd ymlaen. Ac os ydych yn diflasu ar lanhau eich cartref, gallwch wisgo unrhyw un yn eich cartref mewn dillad o'r rhyw arall. Gweithiodd yn dda i Cherubino (mwy neu lai), wel, bu i Susanna, Yr Iarlles a chynulleidfa WNO ei weld yn ddigrif yn ystod perfformiadau ein Tymor y Gwanwyn. Wrth drafod morwynion, efallai bod rhai ohonom yn teimlo fel Sinderela, neu (La Cenerentola yn y byd opera), ac rwy'n siŵr bod y rhai ohonom sy'n hoffi parti yn dyheu am Ddewines Garedig Disney i'n hysgubo i ddawns hudolus.

Er nad yw'n opera, gallwch yn sicr ddysgu rhywbeth am coginio o'n cynhyrchiad o Sweeney Todd a'r pobydd pastai drygionus. Fodd bynnag, peidiwch â chymryd ysbrydoliaeth gan Mrs. Lovett - waeth pa mor aflwydd yw eich cyd-letywyr - mae'n rhaid i chi addo i beidio â'u troi nhw'n grwst!

Rydym yn gwybod fod opera yn cael ei chydnabod am ei Ieirll ac Iarllesau, Tywysogion a Thywysogesau, Don...ac yn y blaen, ond, rydym wedi casglu bod y cymeriadau mwyaf dewr, caredig ac sydd â'r wên fwyaf - mewn galwedigaeth o ryw fath bob tro.

Os nad oes unrhyw rai o'r uchod at eich dant, gallwch gymryd ysbrydoliaeth gan Gerddorfa WNO, yn enwedig yr offerynnwr taro. Cydiwch mewn sosban neu badell, a llwy bren a seiniwch eich gwerthfawrogiad i'r GIG bob nos Iau am 8pm.

Hyd nes y bydd pethau'n nôl i'r arfer, dangoswch eich ymdrechion gorau i ni o'r uchod drwy rannu eich canlyniadau @OperaCenCymru.