Newyddion

Corws cymunedol yn rhannu eu cariad am fwyd drwy ganu

17 Mehefin 2021

Mae grŵp Corws Cymunedol y Gogledd WNO, sy'n cynnwys dros 70 o gantorion, wedi dod at ei gilydd yn rhithiol yn ystod y misoedd diwethaf i ganu. Yn eu hail brosiect arlein ers mis Mawrth y llynedd, maent wedi bod yn gweithio gyda'r cyfansoddwr, Michael Betteridge, ar ddarn newydd o'r enw ‘Food with you’, yn ogystal â dysgu rhai corysau clasurol o operâu poblogaidd.

'Roedd y prosiect hwn yn torri tir newydd i'r Corws Cymunedol. Dyma'r tro cyntaf i'r cantorion gael cyfle i gydweithio gyda chyfansoddwr. Yn ystod wyth sesiwn gyda'r nos, mae wedi bod yn wych gweld eu brwdfrydedd am y prosiect, yn cynnwys y broses greadigol o gynhyrchu deunydd ar gyfer gwaith newydd. Dros yr wyth wythnos, cafodd y cantorion hefyd gyfle i ddysgu mwy am yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn WNO, gan staff y Cwmni. Dangosodd Judith Russell, Pennaeth Cwpwrdd Dillad ar Daith, a Sian McCabe, Pennaeth Wigiau a Cholur, y gwaith cefndirol sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yng nghartref WNO, ac yn ystod teithiau estynedig y Cwmni. Ymunodd Blaenwr Cerddorfa WNO, David Adams gyda Freddie Brown, Repetiteur, mewn perfformiad byw hyfryd, yn ogystal ag egluro beth sydd ynghlwm â swydd a chyfrifoldebau blaenwr cerddorfa opera. Roedd yn braf cael rhannu'r wybodaeth hon gyda'n cantorion, a'u cysylltu nhw'n uniongyrchol â staff na fyddai'n bosib fel arall, a'u bod nhw wedi cael gwell ddealltwriaeth o beth mae'n ei olygu i weithio i gwmni opera teithiol cenedlaethol.' Jennifer Hill, Cynhyrchydd WNO.

Ar ddydd Mercher, 28 Ebrill, cafodd y grŵp rannu eu cân a pherfformio eu repertoire cyfan yn ystod digwyddiad arlein i westeion a wahoddwyd. Ymunodd amrywiaeth o artistiaid WNO yn y perfformiadau, yn cynnwys tri aelod o Gorws WNO, gydag Angharad Morgan yn canu Summertime o Porgy & BessJoe Roche yn canu Santa Lucia gan gyfeilio i’w hun ar yr ukulele, a Gareth Morris yn canu  O Sole Mio, a Phrif Chwaraewr Trwmped, Dean Wright, gyda pherfformiad o Granada, arweiniodd y Prif Dimpanydd, Patrick King, weithdy offerynnau taro byr (a dangos tric hud), a pherfformiodd yr Artist Cyswllt, Aaron O’Hare, Fly me to the moon mewn noson gyda thema o ‘rith-deithio’ dros y Gwanwyn a’r Haf.

Yn ystod y noson, dywedodd un cyfranogwr fod ei chanu wedi gwella oherwydd y profiad, 'rydych yn gallu gweld wynebau pawb yn hytrach na chefn eu pennau, a gallaf ganu'n uchel heb boeni am amharu ar bobl o'm cwmpas.'

Fel prosiect sydd wedi'i ddarparu arlein yn gyfan gwbl, mae'n her ddiddorol i'r Corws, er eu bod nhw bellach wedi cael llawer o ymarfer gyda'u prosiect cyntaf arlein, Together I See. Yn ystod y sesiwn rannu olaf, dywedodd Kate Woolveridge, a arweiniodd y grŵp, 'Rwy'n teimlo fy mod wedi gwahodd pawb i'm cartref, mae wedi bod yn hyfryd dod i adnabod y cyfranogwyr ar lefel bersonol. Maent wedi gorfod derbyn fy mhaned o de a fy nghi, Julian, sy'n mwynhau ymuno â'r sesiynau.'

'Rwyf wedi fy mhlesio'n fawr gan y profiad cyfan! Er fy mod i'n ganwr corawl, nid wyf erioed wedi bod yn rhan o unrhyw beth fel hyn o'r blaen. Mae wedi bod yn wych cael bod yn rhan o’r broses o gyfansoddi a byrfyfyr - roedd y ddau beth yn newydd i mi, ond mae wedi bod yn wych cael y profiad.' Cyfranogwr Corws Cymunedol.