Newyddion

Haf 2020 ar werth nawr

4 Gorffennaf 2019

Bydd tocynnau ein Tymor yr Haf 2020 ar werth yfory. Mae'r Tymor yn cynnwys cynhyrchiad newydd sbon o Bluebeard’s Castle gan Bartók yn serennu Syr Bryn Terfel mewn sioe ddwbl ochr yn ochr â The Nightingalegan Stravinsky; ac rydym ni'n dod â'n hynod boblogaidd The Barber of Sevillegan Rossini yn ôl. Yn ogystal, bydd Diwrnod Darganfod Opera am ddim i'r teulu ochr yn ochr â pherfformiad unigol o The Nightingale fel rhan o'n cyfnod preswyl dros yr haf yma yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf.

Os ydych yn Gyfaill WNO, byddwch ymysg y rhai cyntaf i brynu tocynnau, gyda'r cyfle i brynu tocynnau operâu unigol yn ogystal â phecynnau aml-brynu yfory, cyn y cyhoedd. Mae'r Cyfeillion yn darparu cymorth amhrisiadwy ar gyfer pob agwedd ar waith WNO, gan ein helpu ni gyda'n cenhadaeth i wneud opera yn agored i bawb, ac yn gyfnewid am hynny maent yn teimlo'n fwy o ran o'r Cwmni. Os hoffech fod yn rhan o'n stori a manteisio ar y cyfle hwn i gael blaenoriaeth wrth archebu, dysgwch fwy am ddod yn Gyfaill WNO.

Mae'r cynyrchiadau yn ein Tymor yr Haf yn cyflwyno cymysgedd diddorol. Mae'r ddwy ran o'n sioe ddwbl yn seiliedig ar straeon tylwyth teg. Seiliodd Stravinsky ei sioe ef ar stori gan Hans Christian Andersen a Bartók ar stori gan Charles Perrault.

Ysgrifennwyd The Nightingale dros gyfnod o chwe blynedd rhwng 1908 a 1914, wrth i Stravinsky ysgrifennu ei fale, The Firebird, a hefyd The Rite of Spring rhwng dechrau a gorffen yr opera. A honno'n cael ei chanu'n Rwsieg, ac yn cael ei galw wrth ei henw Ffrangeg Le rossignol yn aml, ond wedi'i gosod yn Tsieina, bydd The Nightingale yn cynnwys pypedau maint go iawn ar y llwyfan ochr yn ochr â'r cast canu, a fydd i bob pwrpas yn adlewyrchu'r eos fecanyddol yn y stori.

Ysgrifennodd Bartók Bluebeard’s Castleyn 1911 ac yn ogystal â bod yn ddarn byr, ac yn un act, dau ganwr yn unig sydd ei hangen - Bluebeard (Syr Bryn Terfel) a'i wraig, Judith (Michelle DeYoung) i adrodd y stori dywyll, seicolegol.

Ysgrifennwyd The Barber of Seville, opera gomig hynod boblogaidd Rossini, ganrif yn gynt na'r operâu sy'n ein sioe ddwbl - yn 1816 - ac mae'n seiliedig ar ddrama Beaumarchais. Yn Haf 2020 bydd ein cynhyrchiad 1986 gan Giles Havergal (a berfformiwyd diwethaf yn 2011) yn ôl ar y llwyfan, felly disgwyliwch noson braf, draddodiadol, yn llawn doniolwch yn yr opera gyda Barber.

Wedi i'r tocynnau cyntaf i Gyfeillion a Phartneriaid WNO fynd ar werth yfory, ar ddydd Gwener 12 Gorffennaf bydd cyfle i bawb gael archebu pecyn aml-brynu, cyn y bydd y cyfnod archebu cyffredinol ar gyfer tocynnau operâu unigol yn agor ddydd Gwener 30 Awst.