Newyddion

Tomáš Hanus – Fy hoff ddinasoedd cerddorol

1 Mai 2023

Teithio yw hanfod Opera Cenedlaethol Cymru a thros y blynyddoedd mae’r Cwmni wedi teithio’n bell ac yn agos i gyflwyno perfformiadau operatig, cyngherddau, a gweithdai cymunedol, o Gaerdydd i Landudno, Bryste i Southampton, Zurich i Brno, ac o Berlin i Hong Kong. Gyda chymaint o lefydd gwych i ymweld â nhw a’u harchwilio, eisteddom am sgwrs gyda Chyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Tomáš Hanus, i ddysgu am ei hoff ddinasoedd cerddorol.

Brno, y ddinas lle cefais fy ngeni a’m cyflwyno i gerddoriaeth. Mae’n nodedig am bresenoldeb Leoš Janáček a fu’n byw yno hyd ei farwolaeth yn 1928. Nid yw’n gyfrinach i’w etifeddiaeth lunio fy magwraeth a fy ngwerthfawrogiad cerddorol, sydd yn ei dro wedi fy helpu i greu fy ngyrfa. Mae ei dŷ a’r ysgol organ ymhlith fy hoff lefydd i ymweld â nhw hyd heddiw. Astudiais yn Academi Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio Janáček ac roeddwn yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth yn National Theatre Brno rhwng 2007-2009. Ym mis Hydref 2017, fel Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Opera Cenedlaethol Cymru, cefais y fraint o arwain eu cynhyrchiad uchel ei fri o From the House of the Dead yng Ngŵyl Janáček a dychwelais flwyddyn yn ddiweddarach i berfformio rhaglen o gerddoriaeth gan Janáček a Dvořák mewn cyngerdd gyda Cherddorfa WNO a’r bas-bariton Adam Plachetka. 

Mae Caerdydd wedi bod yn gartref cerddorol i mi ers 2016. Mae’r brifddinas yn swnllyd ac yn fywiog ac yn sicr yn bodloni’r statws ‘Gwlad y Gân.’ A minnau’n dod o wlad fach, rwy’n gwybod pa mor bwysig yw cefnogi diwylliant cenedl, ac rwy’n falch o allu gweithio ochr yn ochr ag Opera Cenedlaethol Cymru i amlygu hunaniaeth Gymreig ar lwyfan rhyngwladol. O brif raglen operatig y Cwmni i gyngherddau symffonig yn Neuadd Dewi Sant, credaf fod gennyf ddealltwriaeth dda o’r lle. Rwy’n teimlo fy mod yn cael fy nerbyn ac rwy’n rhannu eu brwdfrydedd dros gerddoriaeth. Rwy’n edrych ymlaen yn barod at ddychwelyd i Gaerdydd yn ystod Gwanwyn 2024 i arwain cynhyrchiad newydd sbon o Così fan tutte Mozart.

Mae Prag yn ffefryn pendant ac yn agos at fy nghalon. Roedd fy ymddangosiad proffesiynol cyntaf yn Theatr Genedlaethol Prag yn 2001 sef The Devil’s Wall Smetana. Fis Mai eleni, byddaf yn teithio i'r ddinas gyda Cherddorfa WNO i berfformio Má Vlast eiconig Smetana yng nghyngerdd agoriadol Gŵyl y Gwanwyn Prag 2023 - traddodiad sy’n bodoli ers dros 70 o flynyddoedd. Roedd y darn hynod brydferth hwn o gerddoriaeth ar gyfer gwlad fechan, yn debyg i Gymru o ran maint, er mwyn pwysleisio ei hunaniaeth a chofio’r cyfnodau anodd yn ei hanes. Mae'n anrhydedd mawr i ni berfformio’r darn hwn yn yr ŵyl hon, nid yn unig gan mai’r cerddorfeydd ffilharmonig gorau yn y byd yw’r unig rai sy’n cael gwahoddiad i berfformio ond hefyd gan ei fod fel trysor ymysg cerddoriaeth Tsiec.

Fienna - pwy all beidio â gwirioni ar Fienna! Rwy’n ymwelydd cyson â’r ddinas hyfryd hon, lle mae'r aer yn llawn cerddoriaeth a phethau Fiennaidd wrth ei gwraidd. Os gwrandewch ar guriad y lle, heb amheuaeth byddwch yn clywed Mozart a Johann Strauss. Yn ystod fy ngyrfa, rwyf wedi perfformio’n rheolaidd yn Vienna State Opera, yn fwyaf diweddar gyda Jenůfa ac Eugene Onegin a chyfarwyddwyd gan Sir David Pountney.