Newyddion

Hwyl i'r teulu cyfan

8 Gorffennaf 2019

Yma yn Opera Cenedlaethol Cymru, credwn y gall bob aelod o'r teulu fwynhau ein gwaith, a chynigiwn lawer o gyfleoedd i bobl o bob oedran ymuno â ni a chael profiad o rym opera. O berfformiadau ar y llwyfan i operâu fflach, profiadau y tu ôl i'r llen i gyngherddau â thema, mae gennym rywbeth at ddant cefnogwyr opera'r dyfodol yn ogystal â'n cefnogwyr rheolaidd.

Mae ein Cyngherddau i'r Teulu hynod boblogaidd yn cynnwys ystod o gerddoriaeth o operâu, ffilmiau a diwylliant poblogaidd y bydd pawb yn eu hadnabod, a chewch ymuno â ni! Bydd ein harweinydd, cyflwynwyr ac unawdwyr yn sgwrsio am y darnau y maent yn eu perfformio, a byddant hefyd yn eich cyflwyno chi i wahanol adrannau ac aelodau Cerddorfa WNO. Cyn y cyngerdd gallwch ddod draw a chyfarfod â rhai o'n tîm dawnus wrth iddynt ddangos i chi sut i steilio wig, sut i roi colur llwyfan dramatig ac mae cyfle i gyfarfod â rhai o'r cerddorion hyd yn oed - cyfle gwych os oes egin feiolinwyr neu drympedwyr yn y teulu. Bydd ein Cyngerdd i’r Teulu nesaf yn cael ei gynnal yn fuan yn Turner Sims, Southampton.

Ym mis Hydref, yn ôl gartref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, byddwn yn lansio ein Diwrnodau Darganfod Opera newydd sydd am ddim, yn llawn hwyl ac a fydd yn dangos i chi y gwaith sydd ynghlwm â rhoi opera at ei gilydd. Gyda pherfformiadau, arddangosiadau, gweithgareddau a'r cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai swnllyd, bydd y rhain yn ffordd wych o dreulio'r prynhawn. Ym mis Hydref, byddwn hefyd yn arddangos ein profiad digidol rhyngweithiol newydd sbon a fydd yn mynd â chi i fyd cwbl newydd.

Os hoffech ddod yn fwy uniongyrchol ynghlwm â WNO, ewch i'r adran Cymryd Rhan o'n gwefan ble mae bob mathau o opsiynau: gallwch ymuno â rhai o'n grwpiau Opera Ieuenctid (Caerdydd, Llandudno a Birmingham), ymgymryd â phrofiad gwaith, dysgu am ein Cyngherddau Ysgol a llawer mwy. O bryd i'w gilydd, rydym hefyd angen perfformwyr ifanc i'n hoperâu - ym mlynyddoedd diweddar rydym wedi cynnwys plant yn Madam Butterfly, From the House of the Dead a The Magic Flute - ac rydym yn ddiweddar wedi hysbysebu ar gyfer Carmen. Gwiriwch ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol ar gyfer cyfleoedd castio'r dyfodol.

Caru canu? Mae gennym gyfleoedd rheolaidd i chi ymuno ag unigolion eraill sy'n frwdfrydig dros ganu a pherfformio mewn digwyddiadau bach neu fawr. Mae gennym Gorau Cymunedol yn Ne Cymru a Gogledd Cymru sy'n cymryd rhan yng nghynyrchiadau WNO a thu hwnt - ffordd wych i'r oedolion yn y teulu gael rhannu eu cariad at gerddoriaeth. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau Dewch i Ganu rheolaidd ble gallwch ymuno ag aelodau o'n Corws, fel rheol cyn perfformiadau ar y llwyfan, a bloeddio caneuon enwog ar thema benodol.

Os yw'r digwyddiadau hyn yn mynd â'ch bryd ac y credwch yr hoffech geisio dod ag aelodau ieuengach y teulu i opera go iawn, yna beth am fanteisio ar ein cynnig i blant Dan 16 oed? Ar gael yn ein holl leoliadau teithio (i'n hoperâu prif dymor), gall plant dan 16 oed ddod draw am £5 yn unig pan ddônt gydag un oedolyn sy'n talu'r pris llawn.