Newyddion

Yn newydd i WNO y Tymor hwn

12 Medi 2019

Mae gennym gantorion sy'n newydd i Opera Cenedlaethol Cymru ym mhob un o'n tair opera yr Hydref hwn - casgliad ysblennydd, rhyngwladol o gantorion hynod addawol o'r byd opera.

Gan ddechrau ar y noson agoriadol, bydd ein Carmen (Virginie Verrez) a'n Morales (Ross Ramgobin) yn perfformio ar y prif lwyfan gyda'r Cwmni am y tro cyntaf yn ein cynhyrchiad newydd sbon o Carmen. Yn ymuno â nhw fydd Angela Simkin fel Mercédès, sydd hefyd yn canu gyda ni am y tro cyntaf yn y cynhyrchiad hwn gan Jo Davies. Mae Jo yn dychwelyd i WNO yn dilyn llwyddiant anferthol Kiss Me, Kate yn 2016. Am ffordd wych o agor y Tymor yma yng Nghaerdydd cyn i'r daith ddechrau ym mis Hydref!



Mae Ross Ramgobin wedi bod yn ddirprwy artist ar gyfer WNO ond nid yw wedi chwarae unrhyw ran yn Carmen hyd yma, felly hwn fydd ei berfformiad cyntaf yn yr opera yn ogystal ag ar ein prif lwyfan. Mae Virginie, y mezzo-soprano o Ffrainc, wedi canu yn Carmen o'r blaen, yn chwarae rhan Mercédès. Y tro diwethaf iddi wneud hynny oedd yn Festival d’Aix-en-Provence yn 2017. Ond hwn fydd y tro cyntaf iddi ganu'r brif ran.

Mae Angela Simkin, un o gyn-fyfyrwyr National Opera Studio (2015/2016), newydd fod yn canu rhan Mercédès yn y Royal Opera House (ROH); roedd un arall o'n cantorion newydd - Haegee Lee - yn rhan o'r cynhyrchiad hwnnw hefyd. Mae Haegee yn un o'r ddwy newydd sy'n chwarae rhan Gilda yn Rigoletto y Tymor hwn. Yn flaenorol, roedd Angela yn un o Artistiaid Ifanc Jette Parker (JPYA) yn ROH (2016 i 2018), ac ymunodd Haegee fel JPYA ym mis Medi 2017. Yn ystod ei chyfnod yn ROH, fe gafodd Haegee ganu gyda Bryn Terfel hefyd, yn eu cynhyrchiad o Boris Godunov.


Mae David Junghoon Kim, ein Dug, yn un arall sydd wedi bod yn JPYA (2015 i 2017, felly'n gorgyffwrdd â chyfnod Angela). Dyma ei dro cyntaf yn y rôl hon ac, yn wir, yn perfformio yn Rigoletto. Fodd bynnag, mae wedi perfformio gyda Haegee mewn datganiad yn ROH yn ystod y gwanwyn eleni, a'r haf hwn fe ganodd yn yr un tymor yn Dorset Opera â'n cellweiriwr llys, Rigoletto, Mark S Doss (er bod hynny mewn gwahanol operâu) ac mae beirniaid eisoes yn awyddus i glywed y ddau ohonynt yn perfformio gyda'i gilydd yn dilyn eu hymddangosiadau:


I’m now looking forward to Welsh National Opera’s Rigoletto this autumn: it has Mr Doss in the title role and Junghoon Kim as the Duke. What a treat it will be to have them together in the same production!

The Daily Express, 21 Awst 2019

Mae ein Gilda arall, Marina Monzó, wedi chwarae'r rhan yn flaenorol yn Teatro Verdi di Salerno, Teatro Petruzzelli di Bari, Ljubljana Festival a Teatro di San Carlo yn Napoli y llynedd, felly mae'n dod at WNO yn gyfarwydd iawn â'r rhan.


Yn ein hopera olaf am y Tymor: bydd Hanna-Liisa Kirchin (Woodpecker) a Joseph Doody (Mosquito) ill dau yn perfformio am y tro cyntaf ar y prif lwyfan i WNO yn The Cunning Little Vixen, ond mae'r ddau wedi bod yn ddirprwy artist yn y gorffennol. Maent hwythau yn gyn-fyfyrwyr National Opera Studio; Joseph yn 2016/2017 a Hanna-Liisa yn 2014/2015, y flwyddyn ar ôl Ross Ramgobin (2013/2014).

Rydym yn croesawu pob un ohonynt i'r Cwmni ac yn gobeithio y gwnewch chi fwynhau eu perfformiadau cyntaf gyda ni.