Newyddion

Opera: Nid yr hyn rydych yn ei ddisgwyl

1 Ionawr 2020

Mae hon am fod yn flwyddyn a hanner. Bydd Japan yn adeiladu gorsaf leuad robotig, bydd yr ymennydd dynol synthetig cyntaf yn y byd yn cael ei gwblhau, a bydd ceir yn hedfan yn yr awyr. I Opera Cenedlaethol Cymru, mae 2020 yn dod â'n trioleg Verdi i ben, yn cyflwyno llu o artistiaid newydd i'r Cwmni ac yn gweld Syr Bryn Terfel yn dychwelyd i'w Gwmni cartref i berfformio rhan Duke Bluebeard yn Bluebeard’s Castle gan Bartok am y tro cyntaf.

Fodd bynnag, os nad ydych wedi bod i'r opera o'r blaen, efallai eich bod yn cwestiynu beth yw'r holl ffỳs. Os ydych ond yn cysylltu'r gair 'opera' â chymeriad Dawn French yn Harry Potter, neu ddynes yn telori wedi gwisgo fel Llychlynwraig yn bloeddio canu, yna gwrandewch arnom ni; mae opera'n dra gwahanol i'r syniad sydd gennych ohono, ac rydym am brofi hynny ichi.

Os ydych yn credu bod pob cantores yn gwisgo fel Llychlynwraig, rydych mwy na thebyg yn meddwl bod y rhagdybiaethau hyn yn wir hefyd...

  • Mae opera yn gwbl annealladwy
  • Mae'n mynd ymlaen am oriau ac oriau
  • Mae'n rhy ddrud
  • Mae'n rhaid ichi wisgo gwisg grand neu ffrog laes i fynychu'r opera
  • Ni fydd gennych unrhyw syniad beth sy'n mynd ymlaen oni bai eich bod yn siarad Eidaleg yn rhugl 

Diolch i'r drefn, mae opera yn llawer iawn mwy hygyrch nag ydych yn ei feddwl. Yn syml, mae'r term 'opera' yn golygu darn o gerddoriaeth gyda libreto (libreto = testun), wedi ei berfformio ar lwyfan. Dyma ein harwr herio mythau, Steve Speirs, a wnaeth berfformio gyda ni yn ystod Tymor yr Hydref 2017, i ddweud wrthych sut beth yw opera go iawn.

Dal ddim yn siŵr?
Mae rhai o ganeuon gorau a mwyaf adnabyddus y byd cerddoriaeth glasurol yn dod o'r byd opera; o Nessun Dorma gan Puccni, i Agorawd Mozart i The Marriage of Figaro a Carmen gan Bizet (os ydych yn hoff o Beyonce, rydych yn fwy na thebyg wedi clywed y Habanera). Hyd yn oed os nad ydych wedi profi opera'n fyw, rydych yn bendant wedi clywed y gerddoriaeth o'r blaen. Mae nifer o ddarnau o fyd opera wedi cael eu defnyddio mewn ffilmiau, er enghraifft, Largo al factotum o The Barber of Seville gan Rossini sy'n ymddangos yn Mrs Doubtfire; O Mio Babbino Caro o Gianni Schicchi gan Puccini sy'n ymddangos yn Captain Corelli’s Mandolin a Wuesta o Quella o Rigoletto gan Verdi sydd i'w glywed yn Wall Street. 

Eisiau gwybod mwy cyn dod i weld perfformiad?
Dewch draw am sgwrs cyn perfformiad, lle bydd Elin Jones, Dramaturg Nicholas John WNO, yn dweud wrthych yn union beth i'w ddisgwyl ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Rydym hefyd yn cynnal sgyrsiau cyn perfformiad yn Gymraeg yn ein cartref yng Ngogledd Cymru, Venue Cymru


2020 yw blwyddyn perthnasoedd, felly beth am ymrwymo i fynd i weld rhywfaint o opera? Peidiwch â gadael i'r rhagdybiaethau hynny eich rhwystro rhag profi rhywbeth arbennig. Mae stori garu yn datblygu yng nghanol chwyldro yn Les vêpres siciliennes Verdi; mae cynllwyniau yn bygwth tarfu ar briodas y ganrif yn The Marriage of Figaro Mozart ac mae Carmen yn dysgu i ddefnyddio ei phŵer i wella ei sefyllfa economaidd yn Carmen Bizet.

Os ydych eisoes mewn cariad â'r gelfyddyd hon, beth am gadarnhau eich ymrwymiad a dod yn Gyfaill neu'n Bartner WNO?