Mae Gwanwyn 2019 yn dechrau yr wythnos hon (dydd Sadwrn 9 Chwefror 7.30pm) yng nghartref WNO, Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, gyda'n cynhyrchiad newydd sbon Un ballo in maschera, sy’n agor tymor sy'n rhedeg hyd at 11 Mai - ein hiraf hyd yma, siŵr o fod?
Gyda'n perfformiadau arferol yn Birmingham a Milton Keynes ym mis Mawrth, byddwn yna'n teithio i Plymouth, Bryste a Llandudno ym mis Ebrill, gan orffen gyda'n wythnos olaf yn Southampton o 9 i 11 Mai. Ym mhob lleoliad, law yn llaw ag Un ballo in maschera, mae cyfle hefyd i weld dau adfywiad: o'n Trioleg Duduraidd, y cynhyrchiad clodwiw o Roberto DevereuxDonizetti, a fydd yn cael ei ddilyn gan y ffefryn bythol, The Magic Flute gan Mozart. Noder na fyddwn yn perfformio Un ballo in maschera yn Southampton.

Fel yr ail bennod yn ein Trioleg Verdi, mae Un ballo in mascherayn dwyn ynghyd y tîm creadigol a oedd yn gyfrifol am gynhyrchiad La forza del destino y Gwanwyn diwethaf, dan gyfarwyddid Cyfarwyddwr Artistig WNO David Pountney. Felly gallwn ddisgwyl llwyfannu trawiadol, hynod ddramatig ar yr un strwythur sylfaenol â La forza, gyda thair wal y gellir eu hailddehongli mewn ffyrdd gwahanol i awgrymu lleoliadau gwahanol o fewn yr opera. Y tro hwn, mae gan bob wal nifer o fwâu proseniwm theatr bychain, sy'n cynrychioli obsesiwn Verdi â'r celfyddydau a chelu - gan chwarae gyda'r syniad o 'theatr' fel iaith. Gyda'i chyfuniad o weithredoedd trasig a chomedi soffistigedig, cymeriadau mewn gwisgoedd gothig, rydym yn edrych ymlaen at gael ein cyfareddu unwaith eto gan ein Trioleg Verdi.
Gyda thro newydd cyffrous ar y leitmotif pry copyn pwerus, mae'r Cyfarwyddwr Alessandro Talevi yn cyflwyno rhai newidiadau i Roberto Devereux, nawr ei fod yn ddarn unigol, ac yn dilyn ei brofiadau personol yn ystod y blynyddoedd dilynol. Mae wedi bod yn datblygu'r thema pryfed sydd eisoes i'w gweld yn y cynhyrchiad, gan ymhelaethu fwy ar y syniad bod gwe'r pry copyn yn symbol o ddirgelwch a thwyll. Pla o chwilod yn ei dref enedigol yw'r ysbrydoliaeth ddiweddaraf. *Spoiler* Mae motiff y Frenhines fel Pry Copyn yn cael ei ddefnyddio fwyfwy, ynghyd â'r syniad o'r Corws fel chwilod yn sgrialu, a hyd yn oed glöyn byw caeth yn sefyllfa enbyd Sara. Law yn llaw â'r gwisgoedd trawiadol a'r enydau gweledol cryf, bydd y trasiedi tywyll hwn yn gwneud i'ch calon guro am bob math o resymau.

Fel gwrthgyferbyniad i'r tywyllwch, pam na ewch chi i weld ein cynhyrchiad lliwgar a ffraeth o The Magic Flutegyda'i ddylanwadau swrrealaidd; un i'r teulu cyfan ei fwynhau. Mae opera tylwyth teg Mozart, sy'n llawn anifeiliaid, cyrchoedd a threialon yn ogystal â dyfeisiadau gwallgof, rhyfeddol megis y beic sy'n gallu hedfan a llu o hetiau bowler, bob amser yn plesio. A gyda ffefryn WNO, Samantha Hay, yn ymddangos unwaith eto fel Brenhines y Nos, bydd ei aria fwyaf hudolus yn wefreiddiol.
The Spectator on Opera North’s recent productionSamantha Hay was the Queen of the Night; ardent as well as imperious, she just gets better and better in this role, and her top notes practically scorched the retinas.
(Rhennir rôl Brenhines y Nos gydag Anna Siminska. Mae Samantha Hay yn perfformio yn Milton Keynes Theatre, Theatre Royal Plymouth, The Bristol Hippodrome, Venue Cymru yn Llandudno a Mayflower Theatre yn Southampton)
Peidiwch ag anghofio am ein cyngerdd olaf yn y Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol eleni yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar ddydd Mercher 20 Mawrth, gyda Chyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus yn cymryd yr awenau. Ymunwch â Hanus a Cherddorfa WNO ar gyfer noson o Richard Strauss, Mozart a Brahms, yn ogystal â'r Pianydd Paul Lewis fel unawdydd y noson, a fydd yn chwarae Concerto i'r Piano Rhif 27 Mozart.
Rhwng popeth, mae gan WNO lawer i'w gynnig y gwanwyn hwn.