Newyddion

Ein cysylltiadau Strictly

22 Medi 2023

Rydym ar drothwy Strictly, ac rydym wrth ein bodd â dawns dda ym myd opera felly mae dechrau’r gyfres newydd yn destun cyffro mawr i ni.Mae ein cynhyrchiad presennol, Ainadamar, yn cyfuno bydoedd opera a dawns gyda dawnsfeydd hyfryd Fflamenco gan y coreograffydd heb ei ail, Antonio Najarro.Os wnaethoch chi fwynhau Fflamenco ddramatig Oti Mabuse, Gorka Marques a Graziano di Prima yn 2019, yn sicr mae angen i chi weld Ainadamar. 

Mae dawnsfeydd paso doble anhygoel wedi bod ar Strictly Come Dancing dros y blynyddoedd, o Molly Rainford a Carlos Gu i ddawns Môr-ladron epig John a Johannes. Gan ddilyn arddull ‘ymladd teirw’ nid yw’n syndod bod y dawnsfeydd hyn yn ein hatgoffa o Carmen a'r gân Toreador anhygoel  (Votre toast, je peux vous le rendre) a ganir gan yr ymladdwr teirw Escamillo wrth iddo fynd i mewn i'r dafarn yn bloeddio a chodi gwydr mewn gorfoledd.  

Pwy all anghofio’r dawnsfeydd walts rhamantus rydym wedi’u gweld ar Strictly dros y blynyddoedd?O Harry Judd ac Alioni Vilani i Abbey Clancey ac Alijaz Škorjanec, mae'r ddawns walts wedi bod yn rhan annatod o’r rhaglen a holl hanes WNO.O The Merry Widow i Die Fledermaus, rydym wedi dod â'r walts i’r llwyfan nifer o weithiau, a gallwch weld y ddawns unwaith eto yn ein cynhyrchiad presennol o La traviata yn ystod y gân yfed lawn bywyd Libiamo ne’ lieticalici. 

Gallwch hefyd glywed rhai o’r waltsiau harddaf ochr yn ochr â rhai cynhyrfus, ac ambell sypreis cyffrous a chyfarwydd wrth i Artistiaid Cyswllt diweddaraf WNO, y soprano Emily Chrstina Loftus a’r mezzo-soprano Beca Davies ymuno â Cherddorfa WNO i gyflwyno arddangosfa fywiog o ffefrynnau o Vienna ar ein taith Dathliad Fiennaidd ym mis Ionawr 2024. 

Mae Bollywood yn arddull dawns arall sydd wedi ymddangos ym myd opera ac ar Strictly.Os oeddech chi’n ddigon ffodus i weld ein cynhyrchiad anferthol Migrations, rydych yn sicr o gofio’r dawnsfeydd Bollywood hyfryd yn This is the Life! a oedd yn edrych ar brofiad doctoriaid Indiaidd yn y GIG yn yr 1960au gyda hiwmor. Ymhell yn ôl yn 2014, perfformiodd dawnswyr proffesiynol Strictly ddawns egniol a lliwgar ochr yn ochr â’r dawnswyr Bollywood, Bolly Flex i agor wythnos Around the World Strictly.Hefyd perfformiodd Will Young a Karen Clifton Salsa a ysbrydolwyd gan Bollywood i Jai Ho ac mor ddiweddar â llynedd roedd dathliad Bollywood anhygoel yn y Ddawnsfa wrth i’r enwogion berfformio arddangosfa o ddawnsfeydd disglair yn llawn arferion Bollywood ar y llawr dawnsio. 

Gyda dawnsfeydd anhygoel ym myd opera, fel y Polonaise yn Eugene Onegin, dawnsio tap hudolus Kiss Me, Kate a’r ballet hardd Les vêpres siciliennes, efallai ei bod hi’n bryd i Strictly Come Dancing gael wythnos opera.