Newyddion

O realiti i gelfyddyd...

1 Ebrill 2019

Mae ysgrifennu operâu ar sail bywyd go iawn neu sy'n cynnwys cymeriadau sy'n bobl go iawn, wedi digwydd mwy neu lai ers y cychwyn cyntaf. Gydag ysbrydoliaeth gan ein Tymor Gwanwyn presennol, lle mae Un ballo in maschera wedi'i seilio ar stori go iawn a Roberto Devereux yn cynnwys dehongliad o Frenhines Elisabeth I, rydym wedi ymchwilio i fwy o bobl go iawn mewn operâu (ac fel mae'n digwydd mae WNO wedi perfformio rhai o'r rhain mewn tymhorau diweddar hefyd).


Roedd Hydref 2018 yn cynnwys War and Peace gan Prokofiev, sy'n cynnwys pawb o Napoleon i Alexander I o Rwsia, ochr yn ochr ag amrywiaeth o gadfridogion a dynion milwrol eraill. Yn ogystal, gwnaethom gomisiynu opera cabare newydd sbon i ddathlu bywyd y swffragét Margaret Haig Thomas (Arglwyddes Rhondda), Rhondda Rips It Up! Roedd y comedi cerddorol hwn yn cynnwys cast cyfan o swffragetiaid a ffigurau gwleidyddol go iawn. Yn ddiweddar bu i ni berfformio La traviata gan Verdi gyda Marie Duplessis, Lady of the Camellias, a thrawsnewidiwyd i Violetta yn yr opera. Roedd Marie yn butain llys a gafodd garwriaeth angerddol gydag Alexandre Dumas yr ieuaf, awdur La Dame aux Camélias.


Ymddengys Verdi yn dipyn o feistr, ac mae ein Trioleg Verdi yn dod i derfyn yng Ngwanwyn 2020 gyda Les vêpres siciliennessy'n cynnwys cymeriadau megis Guy de Montfort a John (Jean) o Procida, meddyg a diplomydd canoloesol Eidalaidd. Mae'r ffigurau hanesyddol eraill y bu i Verdi ysgrifennu amdanynt yn cynnwys Brenin Duncan I o'r Alban a Brenin Macbeth yn Macbeth (y perfformiasom yn ein Tymor Shakespeare400 yn Hydref 2016).


Mae Donizetti, a gyfansoddwyd un o’r operâu yr ydym yn ei berfformio’r tymor hwn - Roberto Devereux, wedi seilio nifer o'i operâu ar sawl cymeriad enwog. Roedd Roberto Devereux yn rhan o Dymor y Tuduriaid gennym yn wreiddiol, ac fe'i perfformiwyd yn ystod Hydref 2013 ochr yn ochr ag Anna Bolena a Maria Stuarda, y cwbl yn llawn ffigurau go iawn o lysoedd y Tuduriaid. Mae nifer o'r cymeriadau yn Roberto Devereux yn ymddangos yn Gloriana gan Britten hefyd a, mewn ffordd debyg, mae Henry VIII gan Saint-Saën yn cynnwys y rheiny yn Anna Bolena.


Ond nid yw hyn yn duedd hanesyddol (esgusodwch y geiriau mwys), mae nifer o operâu modern yn defnyddio realiti fel deunydd crai - mae Jack the Ripper: The Women of Whitechapel gan Iain Bell yn cael ei berfformio gan ENO ar hyn o bryd. I ddathlu pen-blwydd WNO yn 70 oed yn 2016, cyfansoddodd Iain opera newydd sbon fel rhan o 14-18 NOW: WW1 Centenary Art Commissions, In Parenthesis. Roedd hwn wedi'i seilio ar gerdd epig David Jones sydd â'r un enw, a ddaeth â phrofiadau David Jones o'r Rhyfel Byd Cyntaf i'r llwyfan.


Mae operâu cyfoes eraill sy'n seiliedig ar bobl go iawn yn cynnwys Anna Nicole gan Mark-Anthony Turnage, sy'n seiliedig ar yr actores a'r fodel o America, Anna Nicole Smith. Roedd hefyd yn cynnwys Americanwyr adnabyddus eraill megis y cyflwynydd sioe siarad, Larry King. Cyfansoddodd John Adams The Death of Klinghoffer (sy'n adrodd stori'r llong fordaith a gafodd ei herwgipio ym 1985, a Klinghoffer yn y teitl yw enw un o'r teithwyr, Leon Klinghoffer); Doctor Atomic (ynghlych y ffisegwyr y tu ôl i'r bom atomig cyntaf) a Nixon in China (ynghylch ymweliad yr Arlywydd Richard Nixon â Tsieina).


Yn Nhymor RHYDDID WNO a fydd yn dechrau cyn hir, byddwn yn perfformio Dead Man Walking gan Jake Heggie, sy'n seiliedig ar hunangofiant y Chwaer Helen Prejean, y lleian Americanaidd. Dyma'i disgrifiad uniongyrchol hi o fywyd dyn yn rhes yr angau. Yn ôl pob tebyg mae'r stori'n fwyaf adnabyddus am y fersiwn ffilm 1995 gyda Susan Sarandon a Sean Penn yn serennu ynddi. 


Ymddengys y gall realiti fod mor rhyfedd â ffuglen a pha un ai a yw unigolyn yn/wedi bod yn rhywun enwog, brenin neu frenhines, eicon crefyddol, gwyddonydd, terfysgwr neu lofruddiwr, os oes stori i'w dweud yna beth am ei hadrodd trwy gyfrwng opera?