Newyddion

The inside scoop on Les vêpres siciliennes

16 Ionawr 2020

Mae'r Tymor hwn yn gweld trydedd a rhan olaf ein Trioleg Verdi gyda pherfformiad o'r opera llai adnabyddus, Les vêpres siciliennesMae'r cynhyrchiad hwn yn dod â chysyniad newydd sy'n defnyddio dulliau newydd a thraddodiadol; gan ailgylchu'r tri partisiwn sy'n cyd-gloi a oedd yn ffurfio gwreiddiau'r ddau gynhyrchiad cyntaf, La forza del destino ac Un ballo in maschera - cyferbyniad llwyr i'n cynhyrchiad olaf o'r opera nôl yn 1954.

Mae'r Cyfarwyddwr David Pountney yn dychwelyd i gwblhau'r drioleg, a fydd yn cael ei arwain gan Arweinydd Llawryfog WNO Carlo Rizzi a Gareth Jones a byddwn hefyd yn croesawu llu o artistiaid hen a newydd gan gynnwys Jung Soo Yun fel Henri ac Anush Hovhannisyan fel Hélène.

Os ydych chi’n ymuno â ni ar gyfer y drafodaeth ddwys ar ddydd Sul 26 Ionawr, fe wnewch chi darganfod eich hun yng nghanol bwrlwm ein cynhyrchiad newydd.   

Bydd David Pountney yn cael cwmni Carlo Rizzi, Anush Hovhannisyan a Jung Soo Yun  i roi cipolwg i chi o'r broses sydd ynghlwm â chyflwyno cynhyrchiad newydd - o'r ysbrydoliaeth y tu cefn i'r llwyfannu i'r broses ymarfer, o baratoi rôl i ymgorffori cymeriad.   

Fel rydym ni eisoes wedi sôn, un thema sy'n codi'n gyson yn y drioleg yw'r set, wedi ei ddylunio gan Raimund Bauer. Mae muriau theatr Un ballo in maschera yn dod yn fframiau gweigion ar gyfer opera fawreddog gyntaf Verdi, Les vêpres siciliennes, gyda phob un yn fframio'n ofalus y tensiwn terfysglyd rhwng y gwladgarwyr Sisilaidd a'r lluoedd meddiannol Ffrengig.  Ddim yn gyfarwydd â'r stori? Dewch i adnabod y plot yn well cyn ymuno â ni i gael cipolwg ar y set. 

Unrhyw gwestiynau? Mae croeso i chi eu gofyn. Bydd y Mewnwelediad yn dod i ben gyda sesiwn Holi ac Ateb, ble bydd cyfle i chi ofyn unrhyw beth y dymunwch am y cynhyrchiad, y cast, y tîm creadigol a/neu'r gerddoriaeth.

Mae ein Mewnwelediad Opera am ddim, ond mae angen tocyn, a dylai bara tua 75 munud. 


Mae'r Drioleg Verdi yn gyd-gynhyrchiad ag Oper dêr Stadt Bonn, ac fe'i cefnogir gan Syndicet Verdi WNO.

Noddwr Trioleg Verdi: Ei Ardderchowgrwydd Llysgennad yr Eidal.