Newyddion

Verdi: cyfansoddwr opera gorau'r Byd?

25 Hydref 2019

Mae dydd Gwener 25 Hydref yn nodi Diwrnod Opera'r Byd cyntaf, a pa ffordd well i ddathlu'r diwrnod nac i archwilio gwaith un o gyfansoddwyr enwocaf y genre, Giuseppe Verdi.

Dros ganrif wedi ei farwolaeth, mae ei waith yn ffurfio rhan enfawr o'r repertoire operatig; ac mae La traviata, Rigoletto ac Aida ymysg rhai o'i operâu sy'n cael eu perfformio amlaf, yn cael eu perfformio rhwng 300 a 400 gwaith y flwyddyn.

Mae gwaith Verdi yn rhan annatod o hanes WNO. Y tro cyntaf i un o'i operâu ymddangos yn ein repertoire oedd yn 1948, gyda chynhyrchiad o La traviata wedi ei gyfarwyddo gan Norman Jones, ac yn cynnwys Laura Larne fel y temtwraig hudolus Violetta. Roedd ein Tymor y Gwanwyn 2018 yn nodi dechrau rhywbeth arbennig i’r Cwmni - Trioleg Verdi newydd sbon: Trioleg i ail-ddarganfod ac ail-greu rhai o operâu llai cyfarwydd Verdi, a oedd yn dal yn cael eu trysori, mewn partneriaeth â Theater Bonn. 

Rhan gyntaf y Drioleg oedd cynhyrchiad newydd o 'opera syniadau' Verdi, La forza del destino. Er nad oedd llawer o ganmoliaeth i gynhyrchiad cyntaf yr opera yn Bolshoi yn 1862, roedd cynhyrchiad David Pountney gyda Chyfarwyddwr Llawryfog WNO, Carlo Rizzi, wrth y llyw, yn hynod lwyddiannus gan dderbyn adolygiadau pedwar a phum seren. Dewch i ail-fyw prysurdeb a bwrlwm yr opera a'i hagorawd cyfarwydd yma

Daeth y tîm creadigol yn ôl at ei gilydd ar gyfer Un ballo in maschera yn ein Tymor y Gwanwyn 2019 i ddweud hanes Brenin Gustav III a oedd wrth ei fodd â'r theatr, a gafodd ei saethu yn ystod dawns fygydau yn y Royal Opera House yn Stockholm. Roedd y sgôr soffistigedig yn llwyddiannus wedi'r perfformiad cyntaf yn Rhufain yn 1859, ac roedd cynhyrchiad David Pountney wedi efelychu'r llwyddiant hwnnw, yn derbyn adolygiadau pedwar a phum seren arbennig gan y cyhoedd a'r cyfryngau. 

Mae ein Tymor y Gwanwyn 2020 yn gweld trydedd a rhan olaf ein Trioleg Verdi, Les vêpres siciliennes, stori sydd wedi ei seilio ar ddigwyddiadau bywyd go iawn yn Sicily yn 1282. Erbyn perfformiad cyntaf yr opera ym Mharis yn 1855, roedd Verdi wedi derbyn canmoliaeth ryngwladol. Mae cynhyrchiad David Pountney yn gweld Anush Hovhannisyan yn dychwelyd i'r Cwmni fel Hélène a Jung Soo Yun yn perfformio gyda'r Cwmni am y tro cyntaf fel Henri. Ymunwch â ni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 26 Ionawr am fewnwelediad ecsgliwsif i'r cynhyrchiad.

Gyda chatalog mor amrywiol a chyfoethog o 28 o operâu - a sawl un yn bodoli mewn mwy nag un fersiwn - mae tua dwsin ohonynt yn ffurfio asgwrn cefn repertoire operatig safonol. I ddathlu Diwrnod Opera’r Byd, rydym wedi gofyn i'n Cyfarwyddwr Cyffredinol, Aidan Lang, enwi ei hoff pum opera Verdi, ac mae un ohonynt wedi ei chynnwys yn ein Tymor yr Hydref 2019, sydd ar daith ar hyn o bryd. 

I wneud yn siŵr nad ydym yn pechu unrhyw un sy'n edmygu gweithiau Verdi, rydym wedi caniatáu i Aidan Lang ychwanegu dwy opera ychwanegol i'w 'hoff bump' - ystyrir un ohonynt heddiw fel un o'i greadigaethau mwyaf personol ac agos atoch, ac roedd yn rhan o'n Tymor yr Hydref 2018, La traviata.

Fel mae chwaraeon yn siapio corff iach, mae'r celfyddydau'n siapio meddwl iach. Rydym yn gwahodd pawb i fwynhau ac uniaethu â storiâu caru a cholli opera gyda ni.

Dychwelodd opera 'orau' Verdi, gydag thwist Americanaidd, i brif lwyfan WNO y Tymor hwn, gyda Mark S Doss yn chwarae'r brif ran. Methu ymuno â ni'r Tymor hwn? Mwynhewch ran olaf ein Trioleg Verdi, Les vepres Siciliennes, yn ystod ein Tymor y Gwanwyn 2020, sydd yn mynd ar daith i Gaerdydd, Llandudno, Bryste, Southampton, Milton Keynes, Plymouth a Birmingham.