Newyddion

WNO - 2010 tan heddiw

25 Tachwedd 2021

Yn ystod yr 11 mlynedd diwethaf, o 2010 hyd heddiw, mae WNO wedi cynnal sawl perfformiad, dathliad a chynhyrchiad bythgofiadwy. Yn ystod y degawd hwn, mae WNO wedi dathlu dau benblwydd pwysig, sef ein penblwydd yn 70 yn 2016, a’n penblwydd yn 75 fis Ebrill eleni.

Yn 2011, penodwyd y cyfarwyddwr opera blaenllaw David Pountney fel Cyfarwyddwr Artistig WNO. Ar ôl penodi Pountney, comisiynodd y Cwmni sawl opera newydd. Dechreuodd weithio gyda’r Cwmni yn yr 1970au, a thros y blynyddoedd mae’n sicr wedi cynhyrchu nifer o operâu eiconig, yn cynnwys y drioleg o operâu Tuduraidd gan Donizetti, Anna Bolena, Maria Stuarda a Roberto Devereux yn 2013.

Mae WNO wedi perfformio sawl opera fawreddog a hanesyddol dros y blynyddoedd, ond mae gan y Cwmni hanes o ddatblygu a chynhyrchu sawl gwaith newydd hefyd, yn cynnwys Gair ar Gnawd (Words on Flesh) a gyfansoddwyd gan y cerddorion Cymreig, Menna Elfyn a Pwyll ap Siôn, yn 2010. Opera Gymraeg yw hi, ac fe’i disgrifir fel stori am Gymru heddiw. Roedd yr opera’n amlygu ymrwymiad y Cwmni i’r etifeddiaeth Gymreig a’r iaith Gymraeg.

Ar gyfer ein penblwydd mawr cyntaf yn y degawd hwn, cafodd ein dathliadau penblwydd yn 70 oed ei nodi gyda pherfformiad cyntaf o In Parenthesis. Dyma ddehongliad Artist o frwydr y Somme, yn seiliedig ar gerdd David Jones am y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd ei chyfansoddi gan Iain Bell, a pherfformiwyd yr opera newydd mewn sawl lleoliad, gan gynnwys y Royal Opera House yn Llundain. Roedd 2016 yn flwyddyn fythgofiadwy i WNO, nid yn unig am ein bod ni’n dathlu ein penblwydd yn 70, ond am ein bod ni wedi penodi arweinwyr cerddoriaeth newydd; daeth yr arweinydd Tsiecaidd Tomáš Hanus yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth a daeth y meistr Carlo Rizzi yn Gyfarwyddwr Llawryfog i WNO. Cafodd Tomáš Hanus adolygiadau pum seren ar ôl iddo arwain Cerddorfa WNO am y tro cyntaf gyda Symffoni Rhif 2 Mahler Resurrection. Dyma ddechrau ei bartneriaeth hyfryd â’r Cwmni.

Yn 2019, penodwyd Aidan Lang yn Gyfarwyddwr Cyffredinol WNO, ar ôl cyfnod fel Cyfarwyddwr WNO yn ôl yn yr 1980au. Mae wedi dod â chyfoeth o brofiad i’r swydd, ar ôl rhedeg cwmnïau a gwyliau opera ar draws y byd.

Roedd 2021 yn nodi 75 mlynedd ers perfformiad cyntaf y Cwmni yn 1947. Rhyddhawyd recordiad Easter Hymn o Cavalleria rusticana gan Mascagni, a oedd yn mynd â ni’n ôl i ddechrau taith WNO yn Llandaf, gyda’r cynhyrchiad cyntaf hwnnw yn Theatr Tywysog Cymru, Caerdydd. Cafwyd sawl recordiad digidol gan wynebau cyfarwydd yn dymuno penblwydd hapus ar ein cyfryngau cymdeithasol, yn cynnwys negeseuon gan Syr Bryn Terfel, Luke Evans, Dafydd Iwan a hyd yn oed Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru sy’n Noddwr WNO.

Roedd y maes celfyddydau’n wynebu sawl her yn ystod pandemig y Coronafeirws, a gorfodwyd y Cwmni i gyflwyno nifer o’i berfformiadau’n ddigidol a lansiwyd WNO Gartref yn ystod Gwanwyn 2020, pan roedd y DU yn wynebu cyfyngiadau symud am y tro cyntaf. Gwnaeth y cysyniad hwn o greu cerddoriaeth yn y ffordd hon uno Cerddorfa, Corws a chynulleidfaoedd WNO yn ddigidol, tra bod nifer o gyfyngiadau’n gysylltiedig â pherfformiadau byw. Yn ystod y pandemig hefyd lansiwyd cyfres newydd gan WNO oedd yn croesawu plant ifanc i fwynhau opera, Chwarae Opera. Mae’r sioe ar gyfer plant ac ar ffurf raglen cylchgrawn. Mae’n ffordd ddiddorol i bobl ifanc gael blas ar opera yn y byd digidol sy’n datblygu’n gyflym heddiw. Mae hefyd wedi arwain at greu Chwarae Opera YN FYW WNO, fydd ar daith yn ystod Gwanwyn 2022 - dyma enw newydd ar ein cyngherddau i deuluoedd gyda Cherddorfa a chantorion WNO, ac maent yn ffordd ddifyr o gyflwyno plant i gerddoriaeth glasurol, opera a chanu.

Ers 2010, mae teithio a chwrdd â chynulleidfaoedd newydd ac amrywiol yn bwysicach nag erioed i WNO. Mae WNO bellach yn teithio’n rheolaidd i leoliadau ledled Cymru, Lloegr a thramor i gyflwyno ei hoperâu a chyngherddau, ac mae hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth eang o gyfranogwyr o fewn eu cymunedau eu hunain. Bydd yn ddifyr gweld beth fydd hanes y Cwmni ymhen 75 mlynedd arall.