Newyddion

WNO – Y 1960au

22 Mehefin 2021

Wrth inni fyfyrio ar darddiad Opera Cenedlaethol Cymru, a hithau’n 75 mlynedd ers inni gael ein sefydlu, yn ddi-os bu’r 1960au yn ddegawd buddugoliaethus i’r Cwmni.

I ddathlu traddodiad Cymru, ym 1960 cafodd opera newydd Arwel Hughes, sef Serch yw’r Doctor, ei pherfformio yng Ngerddi Soffia, Caerdydd ar noson agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol. Cafodd y libreto Cymraeg ei ysgrifennu gan y bardd uchel ei fri, Saunders Lewis.

Hefyd, roedd poblogrwydd WNO yn dechrau ymestyn trwy Gymru a thu hwnt. Yn wir, bu’n rhaid newid amseroedd trenau er mwyn galluogi pobl i fynd yn ôl a blaen i’r theatr!

Erbyn 1961, roedd Charles Groves wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Cerddorol, sef arweinydd a oedd wedi arwain gyda’r Cwmni wyth gwaith o’r blaen. Bu’n arweinydd Cerddorfa Symffoni Bournemouth cyn symud i Landaf i fynd i’r afael â’i rôl ym mhrifddinas Cymru. Yn ogystal, cafodd WNO fwy o arian gan awdurdodau lleol Cymru a Chyngor y Celfyddydau, gan ei alluogi i gamu ymlaen gyda’i gynyrchiadau ac ymestyn ei dymhorau.

Ym 1961 bu WNO yn perfformio mewn amrywiol leoedd, yn cynnwys Llundain. Y gred oedd bod WNO bellach wedi ‘concro Llundain’ a’i sefydlu ei hun yn un o fentrau cerddorol pwysicaf Cymru. Amlygwyd hyn yn llwyddiant Tymor yr Haf yn Llandudno, lle perfformiwyd operâu fel Tosca a The Barber of Seville. Yn dilyn hyn fe wnaeth WNO ddychwelyd i Gaerdydd ar gyfer Tymor yr Hydref, lle perfformiwyd William Tell (Rossini), sef opera na châi ei pherfformio’n fynych iawn.

1962 oedd y flwyddyn yr aeth Groves ati i gynllunio repertoire ehangach ar gyfer WNO, gyda pherfformiad cyntaf y Cwmni o The Marriage of Figaro gan Mozart, a berfformiwyd yn Theatr y Grand Abertawe. Yn ystod y perfformiad o’r opera hwn yn Llandudno, gwelwyd y gynulleidfa fwyaf erioed trwy Gymru i gyd ar gyfer un o weithiau Mozart; roedd llwyddiant WNO erbyn hyn yn ddiymwad.

Erbyn canol y 1960au, roedd WNO wedi cynnal ei berfformiad cyntaf yn New Theatre Caerdydd – theatr a ddaeth yn gartref i WNO yn ddiweddarach. Ym 1965, roedd yna ddymuniad i broffesiynoli’r Cwmni. Gyda mwy o alw o cynulleidfaoedd, cynyddodd WNO hyd ei dymhorau gan fynd ati hefyd i hybu talentau operatig newydd yn ei berfformiadau.

Erbyn 1966, roedd WNO yn dathlu 20 mlynedd ers ei berfformiad cyntaf ar lwyfan, ac i gofio’r garreg filltir hon aeth ati i gynhyrchu pedwar cynhyrchiad newydd, yn cynnwys Don Giovanni. Bu hyn yn brofiad gwerth chweil i WNO, a hefyd dechreuodd ei boblogrwydd gynyddu unwaith eto yn sgil ei repertoire ehangach. Oherwydd nifer cynyddol y perfformiadau a’r galw cynyddol am y Cwmni, penderfynwyd bod angen corws proffesiynol i gynnal ansawdd y perfformiadau os oeddynt am berfformio am fwy nag 20 wythnos drwy’r flwyddyn. Ym mis Hydref 1967, cyhoeddwyd corws proffesiynol a oedd yn cynnwys 36 o gantorion.

Erbyn diwedd y degawd, roedd WNO wedi ymestyn ei orwelion a pherfformio mewn lleoedd fel Liverpool a Birmingham, lle ffynnodd Tymor yr Hydref, gan roi cyfleoedd newydd i gerddorion ac arweinwyr ifanc. Cafodd y perfformiadau hyn eu canmol i’r cymylau, gan arwain at dwf enfawr yn enw da a phoblogrwydd WNO. Yn ddi-os, bu’r 1960au yn ddegawd llewyrchus o ran datblygu cwmni opera Cymru.

 

By the mid-1960s WNO had marked its first performance at Cardiff’s New Theatre, which in later years became its home. In 1965 there was a desire to professionalise the Company, with a higher demand from audiences, WNO increased its season durations while also promoting new operatic talents in performances.

By 1966, WNO was celebrating its 20th anniversary of the first staged performance, and to honour this milestone produced four new productions, including Don Giovanni. Not only was this extremely rewarding for WNO, but its popularity also again grew due to the widening range of repertoire which was being introduced. Due to the increasing number of performances and demand for the Company, it was decided that a professional chorus was needed to maintain the quality of performances if they were to perform for over 20 weeks throughout the year. In October 1967, a professional chorus of 36 singers was announced.

By the end of the decade, WNO had performed further afield, in locations such as Liverpool and Birmingham, where the Autumn Season thrived, providing new opportunities to young musicians and conductors. These performances were highly praised, resulting in a vast growth in reputation and popularity for WNO, the 1960s certainly proved to be a prosperous decade for the developing Welsh opera company.