Newyddion

WNO - Y 1950au

18 Mai 2021

Wrth i Opera Cenedlaethol Cymru ddechrau tyfu yn dilyn ei lwyddiant cynnar, gwelodd 1950 dalent ifanc newydd ym mhob rhan o'r Cwmni, yn seiliedig ar argymhellion a roddwyd i Bill Smith ar ei deithiau i Sadler's Wells a Covent Garden. Rhagflas i ymrwymiad WNO i gefnogi'r genhedlaeth nesaf o artistiaid sy'n parhau hyd heddiw. Cynyddodd y nifer o staff parhaol, a gwthiodd Rheolwr Busnes WNO, Bill, y syniad o ddylunio ac adeiladu setiau a chreu gwisgoedd. Dechreuodd WNO ehangu ymhellach ar draws Gymru ac ehangu ei chyrhaeddiad i rannau o Loegr. Erbyn diwedd yr 1950au daeth yn un o sefydliadau cerddorol cenedlaethol y DU, a oedd yn gallu sefyll ochr yn ochr â chwmnïau sefydledig yn Llundain.

Yn ystod y degawd, gwelwyd llawer o operâu newydd yn cael eu hychwanegu i'r repertoire, ynghyd â pherfformiad cyntaf erioed yn y byd. Roedd Tymor 1950 yn cynnwys dau deitl newydd, The Tales of Hoffman a Die Fledermaus yn Theatr Tywysog Cymru yng Nghaerdydd. Roedd y cyntaf yn nodi swydd arwain gyntaf 

Charles Mackerras y tu allan i Sadler's Wells (a dechrau perthynas hir ag WNO). Roedd y Tymor hefyd yn cynnwys perfformiadau o Faust The Bartered Bride. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno aethom â’r teitlau hynny, yn ogystal â Madam Butterfly, am bythefnos i Theatr yr Empire yn Abertawe. 

Yn ystod 1951 ymwelodd WNO ag Aberystwyth a Llandudno am y tro cyntaf. Fel cwmni amatur, roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i lawer o'r Corws a'r criw gymryd amser i ffwrdd o'u swyddi cyflogedig, felly aethant â'u teuluoedd gyda nhw i gyfuno dyddiadau'r daith â gwyliau blynyddol! Yn Eisteddfod Llanrwst, rhoesom berfformiad cyngerdd o Cavalleria rusticana yn Gymraeg a oedd yn llwyddiant ysgubol. 

Yn 1952, gwnaethom berfformio ym Mhafiliwn Gerddi Sophia, hen awyrendy wedi ei ail-bwrpasu yng Nghaerdydd. Cafodd teitl newydd, cynhyrchiad o Nabucco, ei gyfarwyddo gan John Moody a gafodd ei ryddhau dros dro gan Gyngor y Celfyddydau, lle'r oedd yn Gyfarwyddwr Drama, i wneud hynny. Hwn oedd y cynhyrchiad cyntaf i gael ei wneud yn gwbl fewnol. Dechreuodd Va, pensiero ei gysylltiad hir a llwyddiannus â Chorws WNO.

Ym mis Ebrill 1953, gwnaethom berfformio yn Lloegr am y tro cyntaf, ym Mhafiliwn Bournemouth (gan dderbyn naw llen-alwad am Nabucco!) a Theatr Palas Manceinion. Ym mis Mehefin, cafodd gwaith caled Bill Smith o ddod ag WNO i arwyddocâd cenedlaethol, ei gydnabod gyda CBE. Daethom â’r flwyddyn i ben gyda'n cyfnod yng Nghaerdydd a'r perfformiad cyntaf yn y byd o Menna gan y cyfansoddwr Cymreig, Arwel Hughes, yn seiliedig ar y chwedl Gymreig am Menna a Gwyn, ei darpar ŵr.

Yn 1953 hefyd, lansiwyd y cynllun 'Cyfeillion' cyntaf, a sefydlwyd yn rhannol gyda'r gobaith o godi arian i sefydlu ysgol hyfforddi ar gyfer cantorion ifanc.

Bu farw sylfaenydd WNO, Idloes Owen ar 3 Gorffennaf 1954 ar ôl salwch hir, yn grediniol hyd y diwedd bod yn rhaid i WNO barhau. Nododd 1 Tachwedd ein Tymor cyntaf yn New Theatre, Caerdydd. Agorwyd y Tymor gyda'n cynhyrchiad cyntaf o The Sicilian Vespers.

Ychwanegwyd Llundain at yr amserlen deithio ar gyfer Gorffennaf 1955, gydag wythnos yn Sadler's Wells angen gollyngiad arbennig ychwanegol gan yr Undeb i ganiatáu i'r cantorion proffesiynol ymddangos ar lwyfan Llundain gyda'r Corws amatur.

Yn ystod haf 1957, gwnaethom ddychwelyd i Landudno ond, oherwydd bod The Grand Theatre yn cau, i leoliad newydd, yr Odeon. Gwelodd y flwyddyn hefyd ein rhediad cyntaf yn y Grand yn Abertawe, er ei fod dan fygythiad o gael ei ddymchwel. Roedd hyn yn golygu nad oedd posibl ei archebu ar gyfer y flwyddyn ganlynol, felly dim ond yn Llandudno a Chaerdydd y gwnaethom berfformio yn 1958.

Erbyn 1959 fe wnaethom ailddechrau amserlen deithiol fwy rheolaidd, yn mynd i Abertawe a Chaerdydd yn y Gwanwyn a Llandudno a Chaerdydd yn yr Hydref. Agorodd Tymor Caerdydd gyda chynhyrchiad newydd o opera gyntaf Rimsky-Korsakov, May Night – Opera Rwsiaidd gyntaf WNO.

Wrth i'r degawd dod i ben, roedd dyfodol WNO dan fygythiad ariannol – roedd Bill Smith hyd yn oed wedi dweud wrth yr arweinydd, Warwick Braithwaite, i gyhoeddi ar y noson agoriadol mai dyma dymor olaf y cwmni. Gwrthododd. Goroesodd WNO.