Newyddion

WNO - y 2000au

11 Hydref 2021

Rydym wedi cyrraedd y mileniwm newydd yn ein gwaith o edrych ar hanes Opera Cenedlaethol Cymru, ac roedd yn nodi sawl digwyddiad mawr yn hanes y Cwmni...

Agorwyd ein Tymor cyntaf yn y 2000au ar 11 Chwefror 2000, yn y New Theatre yng Nghaerdydd, gyda chynhyrchiad newydd o Così fan tutte. Yn ystod y Tymor hwnnw hefyd, perfformiwyd The Barber of Seville (dan arweiniad Aidan Lang fel cynhyrchydd adfywio) a Turandot.

Roedd llawer o dimau o gyfarwyddwyr a dylunwyr poblogaidd yn WNO yn ystod y cyfnod hwn; Patrice Caurier a Moshe Leiser, gyfochr â Christian Fenouillat fel dylunydd; ac ymhlith cynyrchiadau Katie Mitchell a’r dylunydd Vicki Mortime mae perfformiad cyntaf o The Sacrifice gan James Macmillan, a gafodd ei arwain ganddo yn ystod Hydref 2007. Yn ystod y degawd cafwyd hefyd rhai cynyrchiadau gan David Pountney, megis The Flying Dutchman gyda Bryn Terfel (Gwanwyn 2006), sy’n cynnwys stori ddiddorol iawn am ddirprwy artist: Ar ôl cyhoeddi mai Bryn fyddai’n ddirprwy artist ar gyfer perfformiad ym Mryste - fe gymerodd 10 munud i’r gynulleidfa ymdawelu.

Daeth ein Tymor olaf yn New Theatre Caerdydd i ben yn ystod Hydref 2004, gyda chynhyrchiad newydd gan David Pountney o Chorus! – cynhyrchiad perffaith i roi’r sbotolau ar ein Corws poblogaidd cyn i ni symud i’n cartref parhaol newydd yng Nghanolfan y Mileniwm ym mis Tachwedd y flwyddyn honno. Anthony Freud (1994 – 2005) a arweiniodd y gwaith symud, gyda John Fisher yn cymryd yr awenau’n fuan ar ôl hynny (2006 – 2010); gweithiodd Peter Bellingham (2002 – 2015) gyfochr â’r ddau ohonynt. Ar 18 Chwefror 2005, cynaliasom ein perfformiad cyntaf yn y Ganolfan, sef La traviata dan arweiniad Carlo Rizzi; gan ddilyn gyda’n perfformiad clodwiw newydd o Wozzeck, gan Richard Jones oedd wedi’i osod mewn ffatri canio ffa. 

Ar ddechrau’r degawd, roedd ein Harweinydd Llawryfog presennol, (Carlo) wedi cyrraedd diwedd ei gyfnod cyntaf fel Cyfarwyddwr Cerddoriaeth (1992 – 2001), ond dychwelodd i’r swydd (2004 – 2008) mewn pryd cyn symud i’n cartref newydd.  Tugan Sokkhiev oedd yn y swydd rhwng y cyfnodau hynny, a phenodwyd Lothar Koenigs i’r swydd yn 2009. Ar yr adeg honno, dywedodd Maestro Rizzi:’..Mae o (Freud) wedi gwneud cymaint i sicrhau bod gan Opera Cenedlaethol Cymru gartref sefydlog, ac rydym bellach yn gallu cynnal operâu fyddai wedi bod yn amhosib cyn heddiw...’

Ar drothwy’r mileniwm newydd hefyd cafodd WNO berfformio am y tro cyntaf mewn sawl lleoliad newydd: yn cynnwys ein Tymor agoriadol yn Milton Keynes Theatre (Mawrth 2003); Edinburgh Festival Theatre (Hydref 2005); a’r Coliseum yn Llundain (dwy noson o The Flying Dutchman yn ystod Gwanwyn 2006). Cafwyd teithio dramor i Bortiwgal (Tachwedd 2004) a chynnal pedair noson yng Nghanolfan y Celfyddydau Perfformio yn Hong Kong, Mawrth 2007, gyda Carlo yn arwain La bohème.

Ymhlith y penodau newydd i’r Cwmni, sefydlwyd WNO MAX yn 2001, sylfaen wreiddiol ein hadran Rhaglenni ac Ymgysylltu. Erbyn 2005 roedd ein Hopera Ieuenctid hefyd ar ei hanterth, a chafodd berfformio The Tailor’s Daughter, oedd wedi’i gomisiynu’n arbennig, yn Stiwdio Weston y Ganolfan. Yn 2007, cynhaliwyd ein digwyddiad ‘Tŷ Agored’ WNO am ddim cyntaf oedd yn rhoi cyfle i’n cynulleidfa a’r gymuned leol weld sut mae cwmni opera’n gweithio. Ymhlith llwyddiannau’r adran roedd Carbon 12: A Choral Symphony gan Errollyn Wallen (Haf 2009), a gafodd ei gomisiynu gan WNO i nodi effaith cloddio glo ar ein cenedl.

Mae gwaith WNO o fewn y gymuned yn parhau i ffynnu, ac mae’n rhan bwysig iawn o’r Cwmni.