Yn ddi-os roedd y 1990au yn ddegawd o berfformiadau niferus, gyda sawl wyneb sydd bellach yn gyfarwydd yn perfformio gydag Opera Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf. Yn 1990, perfformiodd y bariton o Gymru, Bryn Terfel, yng nghynhyrchiad WNO o The Marriage of Figaro, a thrwy’r degawd bu’n perfformio mewn sawl cynhyrchiad arall gyda’r Cwmni, megis Falstaff yn 1993, sef opera yr ymddangosodd Donald Maxwell ynddi hefyd.
Yn ystod y degawd hwn hefyd fe gynhaliwyd cyngerdd teuluol cyntaf WNO, sef Music for Young, yn Neuadd Dewi Sant yn 1992, a dyma’r degawd y cychwynnodd gwaith teulu ac ieuenctid WNO, sy’n dal i ffynnu hyd heddiw.
Yn ystod y 90au perfformiodd WNO amrywiaeth o operâu newydd mewn llu o leoliadau teithiol. Yn 1992, perfformiodd y Cwmni Pelléas a Mélisande gan Debussy yn Le Châtelet, Paris. Roedd aelodau’r gynulleidfa wrth eu bodd gyda’r perfformiad, gan godi ar eu traed a bloeddio’u cymeradwyaeth. Yng ngeiriau Matthew Epstein, y Cyfarwyddwr Cyffredinol ar y pryd, ‘mae hyn yn dangos pa mor enfawr yw ein henw da drwy’r byd’, gan awgrymu llwyddiant ehangach WNO yn ystod y cyfnod hwn. Honnodd hefyd fod WNO wedi ‘cyflwyno Debussy gerbron cynulleidfaoedd Paris a pheri iddynt ofyn am fwy’, gan gyfleu unwaith eto y ffaith fod statws rhyngwladol y Cwmni yn datblygu yn ystod dechrau’r 90au.
Bu 1996 yn garreg filltir enfawr i WNO – sef 50 mlynedd ers ffurfio’r Cwmni. O’r herwydd, comisiynwyd Syr Peter Maxwell Davies i ysgrifennu opera i ddathlu’r achlysur. Roedd yn cynnwys caneuon Cymraeg, a ysgrifennwyd ac a gyfarwyddwyd gan David Pountney, ac roedd yn seiliedig ar stori werin o’r ddeuddegfed ganrif. Enw’r opera hon oedd Meddyg Myddfai. Fe’i perfformiwyd am y tro cyntaf yn theatr Gogledd Cymru, Llandudno, ac yna cafodd ei pherfformio’n helaeth yng Nghaerdydd.
Yn ystod y degawd hwn roedd gan WNO repertoire uchelgeisiol o berfformiadau, ac aeth ati yn 1993 i gysylltu cymunedau gydag opera graddfa fawr yn ei brosiect addysg – sef The Cinderella Project. Erbyn yr adeg hon roedd WNO wedi datblygu rhaglen fywiog, gan gyfuno operâu graddfa fawr a chymunedau gwahanol. Perfformiwyd pedair fersiwn wahanol o’r stori dylwyth teg, gyda Rebecca Evans – un o ffefrynnau WNO – yn perfformio’r brif rôl. Ochr yn ochr â hyn, byddai WNO yn dwyn ynghyd fwy na 100 o gantorion o gymunedau yn Ne Cymru i berfformio opera blant Peter Maxwell Davies, sef Sinderela. Arweiniodd hyn at greu cymuned gerddorol newydd yn Sblot, Caerdydd; sef The Splott Cinderella. Dyma fan cychwyn ymdrechion WNO i gyflwyno opera i bawb.
Byddai’r ymdrechion hyn i gyflwyno opera i gymunedau, ochr yn ochr ag amrywiaeth ehangach o gynyrchiadau, yn esgor ar gryn ganmoliaeth i waith WNO. Yn ôl Michael Ratcliff o’r Observer, WNO oedd ‘y mudiad celfyddyadau mwyaf poblogaidd, poblyddol a llwyddiannus i darddu o Gymru erioed… gan ennyn ffyddlondeb a hoffter cynulleidfaoedd yng Nghaerdydd a ledled Lloegr’, wrth i’r Cwmni berfformio ar hyd a lled Cymru a threulio tymor yn Nhŷ Opera Brenhinol Covent Garden, Llundain, yn ystod canol y 1990au.
Mae hyn yn parhau i fod yn ganolbwynt hollbwysig i waith WNO hyd heddiw, oherwydd mae’r Cwmni’n cynnal llu o brosiectau mewn cymunedau ledled Cymru a Lloegr, ochr yn ochr â’n gwaith ar y llwyfan.