Newyddion

WNO - Y 1980au

24 Awst 2021

Dechreuodd y 1980au gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn parhau i ddatblygu o dan arweinyddiaeth Brian McMaster, Richard Armstrong a Nicholas Payne, a oedd yn enwog am ddod â chyfarwyddwyr o bob cwr o Ewrop i weithio i'r Cwmni. Yn ystod y degawd hwn, ychwanegwyd Handel (Rodelinda, 1981) a Martinů (WNO oedd y cwmni Prydeinig cyntaf i lwyfannu The Greek Passion yn 1981 mewn cynhyrchiad a oedd yn cynnwys geifr byw!) at repertoire'r Cwmni. Yn 1983, llwyfannwyd Das Rheingold yng Nghylch Ring cyntaf WNO a barodd dros y ddwy flynedd ddilynol a phan aeth WNO ag ef i'r Royal Opera House, dyna'r tro cyntaf iddo gael ei berfformio yno gan Gwmni o'r tu allan i Lundain.

Yn 1980, aeth y Cwmni ar daith hanesyddol y tu ôl i'r Llen Haearn, gan deithio i Ddwyrain Berlin, Dresden a Leipzig gyda chynyrchiadau o Ernani, The Turn of the Screw ac Elektra. Roedd hyn yn rhan o daith gyfnewid, lle daeth Leipzig Oper a Gewandhaus Orchestra â chynyrchiadau Joachim Herz o Xerxes (Handel) a Titus sydd hefyd yn adnabyddus fel La Clemenza di Tito (Mozart) i Gaerdydd a Birmingham. Roedd taith WNO i'r Almaen yn boblogaidd iawn, gyda thocynnau yn gwerthu allan mewn diwrnod, a chymeradwyaeth fwy nag erioed o'r blaen ym mhob perfformiad a arweiniodd at un aelod o'r Cwmni yn cymharu'r daith â chyngerdd pop.

Perfformiwyd opera cyntaf William Mathias The Servants yn 1980, roedd WNO wedi bod yn awyddus i Mathias ysgrifennu opera ers 10 mlynedd a chafodd ei daro gan gyfleoedd operatig drama Iris Murdoch (The Servants and the Snow) pan glywodd o'r ddrama ar y radio yn 1974. Ni chafodd yr opera ei hun ganmoliaeth, fodd bynnag canmolwyd cantorion unigol yn eang. Yn 1980, gwelwyd y perfformiad cyntaf o gynhyrchiad poblogaidd David Pountney o The Cunning Little Vixen hefyd (a welwyd yn ddiweddar fel rhan o Dymor 2019/2020).

Yn 1984, sefydlwyd Gwasanaethau Theatraidd Caerdydd (CTS) i adeiladu holl setiau WNO. Mae CTS, bellach, yn un o wneuthurwyr setiau mwyaf blaenllaw'r DU, gan gynhyrchu ar gyfer rhai o gwmnïau bale, theatr ac opera mwyaf y byd.

Yng nghanol y degawd, gwnaeth WNO ei ymweliad cyntaf â Theatre Royal Plymouth, lleoliad sydd bellach yn rhan o'n patrwm teithio, a gwelsom hefyd Gaumont Theatre Southampton yn cau ar gyfer gwaith adnewyddu - ailagorodd y theatr o dan yr enw fel y gwyddom bellach, Mayflower Theatre.

Daeth Syr Charles Mackerrasyn gyfarwyddwr cerdd yn 1986 ar ôl i gyfnod 13 mlynedd Richard Armstrong yn arwain ddod i ben. Byddai Mackerras yn parhau yn y rôl hon am chwe blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, enillodd ei gynyrchiadau Janáček ganmoliaeth arbennig.

Daeth y degawd i ben gyda thaith o Falstaff a deithiodd i Tokyo, Milan ac Efrog Newydd - parhad o'r daith ryngwladol a ddatblygwyd yn y degawd blaenorol ac sydd yr un mor bwysig i'r Cwmni heddiw.