Merched talog a thadau ffôl: Tymor yr Hydref 2019 Opera Cenedlaethol Cymru
31 Gorffennaf 2019
- Cynhyrchiad newydd dan gyfarwyddyd Jo Davies, a dan arweiniad Tomáš Hanus, i agor y Tymor
- The Cunning Little Vixeni nodi dechrau cyfres Janáček i'r Cwmni
- Profiad Realiti Estynedig (AR) a fydd yn 'dilyn llwynoges' y stori The Cunning Little Vixen
Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi manylion ei Dymor yr Hydref 2019 a fydd yn agor gyda chynhyrchiad newydd o Carmen, Bizet.
Dan gyfarwyddyd Jo Davies, sy'n dychwelwyd i WNO yn dilyn Kiss Me, Kate yn 2016, mae'r cynhyrchiad newydd hwn o Carmen wedi ei osod yng Nghanolbarth America'r 1970au, a fydd yn dangos y caledi mae'n rhaid i Carmen a'i chymuned ymrafael ag ef. Bydd yr opera yn darparu safbwynt newydd ar gymeriad Carmen, ei greddf i oroesi, a'r grymoedd economaidd a chymdeithasol-wleidyddol sy'n ei gyrru i ddefnyddio ei hedrychiad a'i rhywioldeb i helpu ei hachos.
Yn llawn ysbryd Lladin tanbaid a cherddoriaeth fwyaf poblogaidd y byd opera, bydd y cynhyrchiad newydd hwn yn cael ei arwain gan Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerdd WNO.
Bydd y fezzo-soprano o Ffrainc, Virginie Verrez yn perfformio am y tro cyntaf i WNO gan chwarae prif ran, Carmen, gyda Dimitri Pittas fel Don José, Phillip Rhodes fel Escamillo ac Anita Watson fel Micaela. Bydd Artist Cyswllt WNO, Harriet Eyley yn chwarae rhan Frasquita.
Bydd Harry Ogg, Arweinydd Cyswllt newydd WNO mewn cydweithrediad â Chystadleuaeth Arwain Donatella Flick-LSO yn gweithio â Tomáš ar Carmen yn yr Hydref, cyn dychwelyd i arwain perfformiadau eraill o Carmen yn ystod Tymor y Gwanwyn 2020.
Bydd Tomáš Hanus a Jo Davies yn agor Tymor yr Hydref gyda sgwrs Mewnwelediad Opera am ddim yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 8 Medi lle byddant yn rhannu'r broses greadigol ar gyfer y cynhyrchiad newydd hwn o Carmen.
Hefyd yn ystod Tymor yr Hydref, bydd WNO yn cyflwyno cynhyrchiad David Pountney o The Cunning Little Vixen, Janáček a fydd yn nodi dechrau cyfres sy'n dathlu gwaith y cyfansoddwr dros bedair blynedd. Bydd y gyfres yn cynnwys Jenůfa yn ystod Hydref 2020 a bydd yn dod i benllanw gyda chynhyrchiad newydd o'i opera olaf, The Makropolus Case, yn 2022.
Bydd Cyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus yn arwain The Cunning Little Vixen. Yn ddiweddar, dyfarnwyd Medal Goffa Leoš Janáček i Tomáš am ei berfformiadau o From the House of the Dead gydag WNO yn ystod Hydref 2017, a bydd yn dod â'i angerdd a'i arbenigedd a gydnabyddir yn rhyngwladol yng ngwaith Janáček i'r gyfres hon.
Bydd The Cunning Little Vixen yn gweld Aoife Miskelly yn dychwelyd i WNO, gan chwarae rhan y Llwynoges. Hefyd yn dychwelyd i WNO mae Lucia Cervoni (Llwynog), David Stout (Herwheliwr), Claudio Otelli (Coedwigwr), Wojtek Gierlach (Offeiriaid) a Peter Van Hulle (Ysgolfeistr).
Yn cwblhau'r rhaglen brif raddfa ar gyfer Tymor yr Hydref mae Rigoletto, Verdi, y mae'r cyfansoddwr ei hun wedi ei disgrifio fel ei opera orau, ac sy'n serennu cerddoriaeth boblogaidd, gan gynnwys yr aria enwog La donna è mobile. Caiff y cynhyrchiad hwn sy'n lleoli'r ddrama yn y Tŷ Gwyn yn ystod arlywyddiaeth John F Kennedy, ei arwain gan Alexander Joel.
Mae Mark S Doss yn dychwelyd i WNO i chwarae rhan Rigoletto yn dilyn ei berfformiad hynod lwyddiannus fel Scarpia yn Tosca y llynedd. Bydd y tenor ifanc o Gorea, David Junghoon Kim yn chwarae rhan y Dug, gyda'r soprano Marina Monzó fel ei destun cariad a merch Rigoletto, Gilda, ar gyfer y perfformiadau yng Nghaerdydd.
Dywed Cyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus: "Rwy'n hynod gyffrous am dymor arfaethedig WNO. Rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at rannu cerddoriaeth Janáček gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru a Lloegr yng nghynhyrchiad llawn hwyl David Pountney o The Cunning Little Vixen, y cyntaf o gyfres Janáček WNO. Yn ogystal, rwy'n hynod falch o fod yn gweithio â Jo Davies ar ein cynhyrchiad newydd o'r opera enwog Carmen."
Wrth barhau i wthio ffiniau technoleg a chelf, bydd WNO yn lansio profiad Realiti Estynedig (AR) rhyngweithiol newydd, A Vixen’s Tale, yn ystod Tymor yr Hydref. Gan gymryd ysbrydoliaeth o The Cunning Little Vixen, bydd y profiad yn stori mewn twnnel synhwyraidd, ar raddfa fawr gyda phum bwa yn dilyn hynt a helynt y llwynoges gan ddefnyddio darluniau, detholiadau o gerddoriaeth a thechnoleg AR. Bydd y profiad aml-synhwyraidd, rhad ac am ddim hwn yn hygyrch i bawb, ac yn darparu safbwynt newydd pleserus ar y chwedl hon.
Mae arbenigwyr AR Arcade yn datblygu A Vixen’s Tale gydag WNO, ochr yn ochr â'r darlunydd Xavier Segers. Bydd gêm yn cael ei hymgorffori yn rhan o'r profiad. Mae'r gwaith o adeiladu'r profiad yn cael ei wneud gan Wasanaethau Theatraidd Caerdydd (CTS), is-gwmni sydd ym mherchnogaeth lwyr WNO.
Mae'r prosiect digidol ymdrochol hwn yn dilyn ymlaen o lwyddiant gwaith diweddar WNO sydd wedi cynnwys Freedom 360, Rhondda Rebel, Magic Butterfly ac WNO Field, ac yn atgyfnerthu lleoliad WNO fel sawl sy'n rhagori ym maes gwaith digidol arloesol mewn lleoliad celfyddydol.
Bydd A Vixen’s Tale yn rhedeg am bedair wythnos yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a bydd yn agor ar ddydd Sadwrn 5 Hydref pan fydd WNO yn cynnal Diwrnod Archwilio Opera. Bydd y diwrnod i'r teulu am ddim hwn, yn cynnwys arddangosiadau, arddangosfeydd a phrofiadau rhyngweithiol o bob rhan o'r cwmni o offer, gwisgoedd a cholur i berfformiadau byr gan ein cantorion a cherddorion. Bydd gweithdai cerddoriaeth a chanu hefyd ar gael i'w harchebu ymlaen llaw ar gyfer y rhai hynny sy'n dymuno ymwneud mwy.
Ochr yn ochr â'r Tymor, bydd Cerddorfa WNO yn perfformio yn Neuadd Dewi Sant ar 27 Hydref fel rhan o'r Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol, dan arweiniad Tomáš Hanus. Bydd y repertoire ar gyfer y cyngerdd hwn yn cynnwys, yn addas iawn, dau ddarn Tsiecaidd, Vltava, Smetana (The Moldau), a Cello Concerto, Dvořák, ynghyd â La Mer, Debussy. Bydd y sielydd Daniel Müller-Schott yn ymuno â Tomáš a'r Gerddorfa ar gyfer y cyngerdd hwn.
Dywed Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO, Aidan Lang: "Tra mae tri chynhyrchiad cyffrous Tymor yr Hydref yn ffurfio sylfaen gwaith y Cwmni, mae ein cyngherddau cerddorfaol, y profiad digidol newydd a'r ystod eang o waith a wneir gan ein tîm Ieuenctid a Chymuned yn arddangos ymrwymiad gwirioneddol WNO i agor y byd opera i gymaint o bobl ag sy'n bosibl, p'un a ydynt yn selogion opera neu'n dod atom am y tro cyntaf."
Nodiadau i Olygyddion
- Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru. Ariennir WNO gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i gyflwyno opera ar raddfa fawr ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr.
- Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o http://www.wno.org.uk/press
- Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â Rachel Bowyer neu Penny James, Rheolwr y Wasg (rhannu swydd) ar 029 20635038 neu rachel.bowyer@wno.org.uk / penny.james@wno.org.uk neu Rhys Edwards, Swyddog y Wasg, ar 029 2063 5037 neu rhys.edwards@wno.org.uk
- Cefnogir Carmen gan Gyfeillion WNO
- Mae The Cunning Little Vixen yn gynhyrchiad ar y cyd â Scottish Opera
- Cefnogir The Cunning Little Vixen gan Bartneriaid WNO a’r Janáček Circle
- Cefnogir rôl Cyfarwyddwr Cerdd WNO gan Marian & Gordon Pell
- Cefnogir Artist Cyswllt WNO Harriet Eyley gan Fwrsariaeth Chris Ball, Gwobr Syr John Moores WNO a Chronfa Waddol WNO
- Cefnogir gweithgareddau Ieuenctid, Cymunedol a Digidol WNO gan rodd hael gan Sefydliad Garfield Weston