
Ymddiriedolaethau a Sefydliadau
Mae Ymddiriedolaethau a Sefydliadau sydd â diddordeb mewn cefnogi ein gwaith mewn cwmni da.
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn gwerthfawrogi'n fawr y haelioni a'r gefnogaeth anhygoel a gawn gan unigolion, rhoddwyr, ymddiriedolaethau, sefydliadau a chwmnïau sy'n helpu i ddod â'n gwaith yn fyw.
Rhaglenni ac Ymgysylltu
Mae cymorth ymddiriedolaeth yn helpu WNO i gyflawni prosiectau dylanwadol mewn cymunedau ledled Cymru a Lloegr.
- Cysur, ein rhaglen celfyddydau creadigol rhyng-genedlaethol ar gyfer pobl sy’n byw â DementiayngNgorllewin Cymru
- Gweithdai cyfansoddi cerddoriaeth gyda ffoaduriaid benywaidd a’u plant ym Mirmingham
- Cyngherddau Ysgolion sy'n cyflwyno miloedd o bobl ifanc i opera, datblygu profiad cyngerdd operatig rhyngweithiol i bobl ifanc ag anawsterau dysgu dwys a lluosog
Lles gyda WNO, ein rhaglen canu ac anadlu i gefnogi pobl sydd â COVID Hir yngNghymru
Datblygu Talent
Mae meithrin y genhedlaeth nesaf, dyfodol ein celfyddyd, yn un o flaenoriaethau allweddol WNO ac mae cymorth Ymddiriedolaeth yn hanfodol i gyflwyno ein rhaglen datblygu talentgynhwysol, gan gynnwys
- Gweithdai cerddoriaeth wythnosol mewn ysgolion
- Grwpiau Opera Ieuenctid yng Ngogledd a De Cymru
- Cynllun Artist Cysylltiol
- Cyfleoedd datblygu talent gerddorfaol
- Lleoliadau technegol a chyfleoedd profiad gwaith

Cynyrchiadau
Mae creu cynyrchiadau newydd a diweddar yn hanfodol i sicrhau bod lleisiau a phrofiadau amrywiol yn cael eu hadlewyrchu ar ein llwyfannau ac yn ein cynulleidfaoedd. Mae cefnogaeth yr Ymddiriedolaeth yn ein galluogi i greu a theithio'r gwaith hwn i gynulleidfaoedd ledled Cymru a Lloegr.