Newyddion

Tymor 2023/24 nawr Ar Werth

1 Mawrth 2023

Heddiw, ar Ddydd Gŵyl Dewi – Nawddsant Cymru – rydym yn falch o gyhoeddi bod tocynnau Tymor 2023/2024 Opera Cenedlaethol Cymru nawr ar werth.

Gan gynnwys opera sydd wedi ennill gwobr Grammy ddwywaith, cynyrchiadau o fri, cariad ifanc, priodasau anhapus, obsesiwn a thrasiedi, rydym yn cynnig y cyfan. Mae’r Tymor newydd yn cyflwyno wynebau ffres i’n llwyfannau, gydag Olga Pudova yn perfformio gyda’r Cwmni am y tro cyntaf fel Violetta yn La traviata synhwyrus Verdi a Roderick Williams yntau fel Teithiwr yn Death in Venice arbennig Britten. Rydym hefyd yn gweld rhai wynebau cyfarwydd yn dychwelyd, gan gynnwys Rebecca Evans fel Despina, y cymeriad ffraeth o Così fan tutte gan Mozart, dan arweiniad Tomáš Hanus Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, a gwledd tri chwrs operatig flasus Puccini, Il trittico sy’n gweld Arweinydd Llawryfog WNO Carlo Rizzi yn dychwelyd.

Ym mis Medi 2023, byddwn yn agor gyda pherfformiad o Ainadamar gan Osvaldo Golijov am y tro cyntaf yng Nghymru, sy’n ailddychmygu bywyd a gwaddol Federico García Lorca, a adroddir drwy atgofion ei awen, yr actores Margarita Xirgu. Caiff yr arddangosfa drawiadol hon o opera a fflamenco ei chyfarwyddo gan Deborah Colker, y coreograffydd sydd wedi ennill Gwobr Olivier.

Mae’r Hydref hefyd yn cyflwyno cynhyrchiad gosgeiddig ac egnïol, pum seren WNO o La traviata, a fydd yn eich gadael heb amheuaeth pam mae’r stori dorcalonnus hon am sgandal, hunan-aberth a chariad rhwystredig yn ffefryn gyda chynulleidfaoedd ar draws y byd. Yn ategu’r Tymor, mae gennym daith gerddorol arallfydol - rhifyn sy’n seiliedig ar y gofod o’n sioe deuluol ryngweithiol - Chwarae Opera yn FYW, wedi’i chyflwyno gan yr anhygoel Tom Redmond

Yn y Gwanwyn 2024, rydym yn mynd â chi'n ôl i'r ysgol gyda chynhyrchiad newydd sbon o Così fan tutte gan Mozart sy’n dilyn pedwar disgybl chweched dosbarth wrth iddynt ddysgu gwers werthfawr am gariad, bywyd a rhyddid wrth i’w hathro eu cynnwys mewn arbrawf cyfrinachol. Ar gyfer ein hail opera o’r Tymor, rydym yn mynd draw i’r Eidal gyda Death in Venice, llawn awyrgylch Britten. Yn y cynhyrchiad newydd hwn, dilynwch yr awdur enwog Gustav von Aschenbach ar ei daith i Fenis i chwilio am brydferthwch ac ystyr. Yno, mae’n syrthio mewn cariad â Tadzio, uchelwr ifanc, ac yn ymbellhau fwyfwy oddi wrth realiti wrth i'w obsesiwn ddatblygu'n dwymyn wyllt.

Mae ein Tymor yr Haf 2024 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn gweld y Cyfarwyddwr byd-enwog, Syr David McVicar, yn dychwelyd i WNO gyda Il trittico gan Puccini. Mae Arweinydd Llawryfog WNO Carlo Rizzi yn arwain ein Cerddorfa o’r radd flaenaf mewn cyfle unigryw i fwynhau’r triptych o operâu mewn un noson, yn union yn ôl bwriad y cyfansoddwr. Mae Il tabarro yn craffu ar briodas anhapus gyda chanlyniadau milain. Yn Suor Angelica rydym yn dilyn aberth lleian a’i hiraeth am ei theulu ar ôl iddi gael ei hanfon i’r lleiandy i edifarhau am ei phechodau. Mae Gianni Schicchi yn llawn twyll a thrachwant wrth i deulu ddadlau am ewyllys coll. 

Gydag ystod o docynnau hygyrch a chynigion aml-brynu i fanteisio arnynt, mawr obeithiwn y byddwch yn ymuno â ni ar gyfer llu o brofiadau ANHYGOEL yn ystod ein Tymor 2023/2024.