Newyddion

Nadolig Llawen gan WNO

24 Rhagfyr 2019

Wrth i ni edrych yn ôl ar 2019, nid ein cynyrchiadau arbennig yn unig sydd wedi gwneud yn dda eleni, yn hytrach ehangder y cwmni yn dod ynghyd i wneud WNO yr hyn y mae heddiw. Rydym wedi cael ystod eang o gymeriadau gyda ni ar y llwyfan eleni - rhai drwg, a rhai da! Rydym wedi ychwanegu aelodau newydd i'r tîm ac wedi dweud 'hwyl fawr' a 'diolch yn fawr' wrth y rheiny sydd wedi symud ymlaen. 


Bu i weithgareddau marchnata eleni ddechrau drwy ddatgelu ein hymgyrch greadigol ar ei newydd wedd. Yn llachar a lliwgar; gwelwyd hyn ledled y wlad mewn pamffledi, ar fyrddau biliau, ar gyfryngau cymdeithasol a mwy, gan greu cryn argraff. Wnewch chi mo'i fethu!  Yn ogystal, gweithiodd y tîm ar lawer o gynnwys digidol newydd i helpu i roi cipolwg y tu ôl i'r llen ar ein cwmni opera prysur. 


Aeth Cerddorfa WNO ar awyren i Rabat, Moroco ar gais Llysgennad Prydain ar gyfer dau gyngerdd ym mis Rhagfyr dan arweiniad Carlo Rizzi, gyda'r unawdwyr Mary Elizabeth Williams a Gwyn Hughes Jones. Rydym ni'n siŵr mai uchafbwynt eu blwyddyn oedd Moroco, er bod canu Nadolig Llawen yn ein holl ogoniant Nadoligaidd ar gyfer ein fideo yma yng Nghaerdydd, a fydd yn cael ei ddatgelu'n fuan, yn ail agos.


Mae hefyd wedi bod yn amser hynod brysur i dîm Ieuenctid a Chymuned WNO: roedd y profiad Realiti Estynedig trawiadol, mewn cydweithrediad ag ARCADE, A Vixen's Tale yn llwyddiant arbennig. Yn ogystal â hynny, aeth yr adran Ieuenctid a Chymuned i Dubai i gynnal cyfres o weithdai mewn ysgolion cyn ein gwaith gydag EXPO 2020 yno. Ym mis Gorffennaf, dechreuodd yr adran Ddatblygu ymgyrch codi arian, yn gofyn i noddwyr gefnogi Cyfres Janáček WNO a fydd yn ein helpu ni i roi ein gwaith uchelgeisiol ar y llwyfan. Mae'r gyfres yn cael ei chynnal ar draws ein tri chynhyrchiad gan Janáček - The Cunning Little Vixen, Jenůfa a The Makropulos Affair.

Gwych oedd cyrraedd penawdau'r newyddion cenedlaethol gyda'n hapwyntiad o Tianyi Lu yn arweinydd benywaidd preswyl. Gallwch wylio ei chyfweliad gyda'r BBC yma. O'r adran Gweinyddiaeth Artistig, roedd castio Syr Bryn Terfel yn Bluebeard’s Castlear gyfer Haf 2020 yn newyddion gwych gyda llawer mwy i ddod - cadwch lygad allan! Mae lansio ein rhaglen Artist Cyswllt newydd sbon yn ddatblygiad newydd gwych, gyda'r clyweliadau yn mynd rhagddynt, a bydd y ddau ymgeisydd llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn. 


Cafodd WNO fodd i fyw yn mynd â chynyrchiadau'r Tymor hwn ar daith, sef Carmen, Rigoletto a The Cunning Little Vixen. Cafodd y cwbl dderbyniad da gan gynulleidfaoedd a beirniaid gyda rhai adolygiadau arbennig o 4* a 5*. Bu i un cefnogwr ifanc roi sgôr o 11 allan o 10 i ni! 

Cafodd aelodau o staff WNO gyfle i fanteisio ar ein mamiaith yma yng Nghaerdydd drwy gymryd rhan yng ngwersi Cymraeg, a oedd yn llwyddiant ysgubol.

Cadwch lygad allan am fideo arbennig ohonom ni i gyd yn dymuno Nadolig llawen iawn a blwyddyn newydd dda i chi, a fydd ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol yn fuan.