Rydym wedi cyrraedd yr amser trist hwnnw o’r flwyddyn eto, wrth i ni ffarwelio â’n hoff gymeriadau o’n Tymor y Gwanwyn 2022 anhygoel. Cyn i ni roi’r setiau i gadw a ffarwelio â’n harwyr a’n dihirod, mae’n amser i ni edrych yn ôl ar Dymor llawn cariad, torcalon, a thrasiedi.
Cychwynnodd ein Tymor gyda chlec, wrth i enillydd Canwr y Byd BBC Caerdydd 2019, Andrei Kymach, berfformio gyda’r Cwmni am y tro cyntaf i chwarae’r brif ran yn opera glasurol Mozart,Don Giovanni. Yn gwibio rhwng comedi a thrasiedi, gyda chanlyniad boddhaus o gosb haeddiannol, derbyniwyd pechadur mwyaf cyfrwys a diedifar y byd opera yn wych gan ein cynulleidfa yn ogystal â’n hadolygwyr.
Cylchgrawn Opera'...mae tywyllwch a grymoedd cythreulig cysyniad y cyfarwyddwr John Caird a'r dylunydd John Napier yn parhau i gael effaith.'
Yn dychwelyd ar ôl cyfres lwyddiannus yn Nhymor yr Hydref, cawsom ein hatgoffa o harddwch, brad, a thorcalon Madam Butterfly. Gan ein harwain drwy gynhyrchiad Lindy Hume o glasur Puccini, cawsom weld ffydd Butterfly yn y Pinkerton anonest, cariad Suzuki tuag at ei ffrind a’i meistres, a’r pŵer sydd gan gariad drosom i gyd yn cael ei arddangos mewn gosodiad cyfoes, gan ddod â stori fythol i’n byd dyfodol agos.
Dan ofal y Cyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus, arweiniodd Cerddorfa WNO y gynulleidfa drwy Jenůfadrasig Janáček, chwedl dorcalonnus o deulu, anobaith, a gobaith. Gydag Elizabeth Llewellyn yn perfformio ei rôl gyntaf un iddi hi a’r Cwmni yn y rôl deitl, ac Eliskia Weissova yn derbyn cymeradwyaeth am ei rôl fel y Kostelnička ddioddefus, roedd y cynulleidfaoedd yn gadael y theatrau ledled y wlad yn teimlo fel petai nhw wedi “mynd drwy’r mangl emosiynol”, a derbyniodd y perfformiadau glod gan sawl adolygwr.
Dan gyflwyniad Tom Redmond, dychwelodd ein cyngerdd teuluol, Chwarae Opera YN FYWyn ystod y Tymor hefyd. Cafwyd golygfeydd o lawenydd yn ystod y cyngerdd bywiog a difyr wrth iddo gychwyn ar ei daith pedwar dyddiad, gan gyflwyno cynulleidfa ieuengach i gerddoriaeth glasurol ac opera ar draws y wlad. Gyda cherddoriaeth gan Rossini, a mwy, edrychwn ymlaen at weld rhagor o deuluoedd yn cerdded drwy’r drysau yn y dyfodol i fwynhau mwy o gerddoriaeth a gweithgareddau hwyliog.
Yn dilyn lansiad ei raglen beilot yn Nhachwedd 2021, parhaodd Lles gyda WNOyn 2022. Wedi’i datblygu mewn partneriaeth â Byrddau Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf Morgannwg ac yn cael ei chefnogi gan grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru, crëwyd y rhaglen i gefnogi pobl yng Nghymru oedd yn profi teimladau o ddiffyg anadl, straen, neu orbryder o ganlyniad i COVID hir. Yn dilyn adborth gwych gan ein cyfranogwyr, bydd Lles gyda WNO yn cael ei ehangu i gyrraedd nifer ehangach o bobl ar draws byrddau iechyd eraill yng Nghymru yn 2022/2023.
Er bod ein Tymor y Gwanwyn wedi dod i ben, mae digonedd i’w brofi yma o hyd yn WNO. Ar y gweill yr haf hwn mae gennym lu o gyngherddau i ddewis o’u plith, gyda cherddoriaeth gan Mendelssohn, Mozart, Puccini, Verdi, a mwy. Os ydych yn hiraethu am opera ac yn methu aros tan ein Tymor yr Hydref, bydd cynhyrchiad Opera Ieuenctid WNO o The Black Spider yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru ddydd Sadwrn 28 Mai a dydd Sul 29 Mai, tra bod ein drama gerdd epig, Migrations yn agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Mercher 29 Mehefin, gyda pherfformiadau dilynol ar 1 a 2 Gorffennaf.
Yn ystod ein Tymor yr Hydref, byddwn yn eich croesawu chi gyd yn ôl i’r theatr i brofi La bohѐmePuccini, The Makropulos AffairJanáček, cyfle arall i weld Migrationsa chynhyrchiad newydd Opera Ieuenctid WNO o opereta ddychanol Cherry Town, Moscow.
Rydym yn edrych ymlaen yn arw at eich gweld chi yn un o’n lleoliadau arbennig am Dymor llawn dirgelwch, rhamant ac antur.