Mae hi’n ddiwedd Tymor arall, ac am Dymor i’w gofio.
Agorodd Tymor Hydref 2018 gyda chynhyrchiad newydd David Pountney o War and Peace, a ddilynwyd gan adfywiad o ddau o ffefrynnau WNO – cynhyrchiad godidog oLa traviata, a chynhyrchiad lliwgar o La Cenerentola. Ochr yn ochr â’n prif gynyrchiadau, aethom â’n hopera-cabare pum seren Rhondda Rips It Up! ar daith unwaith eto, gan ymweld â dinasoedd ychwanegol yng Nghymru a Lloegr.
Tymor Hydref 2018 mewn rhifau
1 | 3 | 13 | 3 | 14 | 5* | 1 |
---|---|---|---|---|---|---|
Cynhyrchiad newydd | Adfywiad | Ymddangosiadau cyntaf â’r cwmni | Arweinwyr | Lleoliadau | Adolygiadau | Gwobr |
Yn epig ym mhob ffordd, cyfareddodd War and Peace ein cynulleidfaoedd gyda’i raddfa, o setiau a gwisgoedd i’r nifer o bobl a oedd yn rhan o’r cynhyrchiad ar y llwyfan, yn y pwll a’r tu ôl i’r llenni. Wedi derbyn adolygiadau 4* a 5* gan bawb, roedd y cynhyrchiad yn llwyddiant gydag adolygwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd.
Gwelwyd ein hoff bâr yn uno ar gyfer War and Peace – Cyfarwyddwr Artistig WNO, David Pountney a Chyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus. Profwyd llwyddiant y pariad hwn hanner ffordd drwy’r daith pan gyhoeddwyd ein bod wedi ennill y Wobr Llwyddiant Mewn Opera am Arweinyddiaeth Artistig yng Ngwobrau Theatr y DU 2018.
Er mwyn cyflwyno mymryn o hudoliaeth ac ysblander i’r Tymor, adfywiwyd ein cynhyrchiad 2009 poblogaidd o La traviata, dan arweiniad James Southall. Eleni, roedd gennym ddwy brif ferch yn chwarae rhan Violetta, un sy’n perfformio’n rheolaidd i WNO, Linda Richardson, ac Anush Hovhannisyan, a gyrhaeddodd rowndiau cynderfynol Cystadleuaeth BBC Canwr y Byd 2017. Croesawom hefyd Kang Wang, a berfformiodd ran yr Alfredo ifanc am y tro cyntaf a hynny fel rhan o’i ymddangosiad cyntaf â’r cwmni.
Daeth ein Tymor opera i ben ar nodyn comig, gyda’n hadfywiad cyntaf o La CenerentolaRossini ers i ni berfformio’r cynhyrchiad am y tro cyntaf yn ôl yn 2007. Ni wnaeth y cynhyrchiad lliwgar o Sinderela Rossini siomi. Gyda nifer o gerddorion disglair gan gynnwys Tara Erraught, Matteo Macchioni, Fabio Capitanucci ac Wojtek Gierlach, roedd y cynhyrchiad yn llwyddiant gyda chynulleidfaoedd newydd ac ifanc a’r cynulleidfaoedd sydd wedi hen arfer mynychu operâu. Roeddem wrth ein boddau o dderbyn adolygiadau a sylwadau gwych:
Yng nghanol cynnwrf ein tri prif chynhyrchiad, aeth ein cynhyrchiad bywiog a doniol, Rhondda Rips It Up!, dan arweiniad Nicola Rose, allan ar ail ran ei daith. Wedi ei ddisgrifio gan The Times, fel un ‘llawn hwyl amharchus’, profodd yn llwyddiant mawr gyda chynulleidfaoedd a beirniaid fel ei gilydd.
Hoffem ddiolch yn fawr i bawb a ymunodd â ni. Rydym wedi cael amser grêt yn teithio o le i le.
Wrth edrych ymlaen, mae un Brenin a dwy Frenhines yn ffurfio ein Tymor Gwanwyn 2019. Bydd cariad, grym a gwleidyddiaeth yn gwrthdaro yn y cynhyrchiad newydd gan David Pountney o Un ballo in maschera, sy’n seiliedig ar lofruddiaeth y Brenin Gustav III o Sweden. Ochr yn ochr â’r cynhyrchiad hwn byddwn yn adfywio ein cynhyrchiad o Roberto Devereux, a gafodd gryn glod gan y beirniaid, yn ogystal â’r opera hudolus a chyfareddol, The Magic Flute.
Bob tymor rydym yn creu disgrifiad clywedol o un opera ac yn darparu taith gyffwrdd law yn llaw i alluogi ein haelodau cynulleidfa sydd â nam ar y golwg i ddeall y cynhyrchiad yn well. The Magic Flute, Mozart fydd yn cael y sylw’r Tymor nesaf. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynglŷn â ble gallwch ei gwylio gyda disgrifiad clywedol byw yma.
Mae cyfle i gael golwg fanylach ar ein hoperâu gyda’n sgyrsiau cyn perfformiad rhad ac am ddim (rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw drwy swyddfa docynnau’r lleoliad) drwy gydol y daith, a gynhelir gan Elin Jones, ein Dramaturg Nicholas John. Yn ystod y sgyrsiau hyn, bydd Elin yn trafod cefndir yr opera, ynghyd ag amlinelliad o’r cynhyrchiad yr ydych ar fin ei weld. Mae gennym hefyd ein digwyddiad Mewnwelediad Opera, a gynhelir gan Gyfarwyddwr Artistig WNO, David Pountney yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 27 Ionawr.