Newyddion

Cip-ôl-wg dros ein Tymor yr Hydref

4 Rhagfyr 2023

Mae Tymor anhygoel arall wedi dod i ben yn Opera Cenedlaethol Cymru, ac rydym wrth ein bodd â’r adborth hyfryd rydym wedi ei gael gan ein cynulleidfaoedd ynglŷn ag Ainadamar a La traviata.

Dechreuodd ein Tymor yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn 9 Medi gyda chynhyrchiad newydd o gampwaith Sbaeneg Golijov, Ainadamar. Mae’r corwynt o sioe 80 munud hon yn llawn fflamenco ac yn adrodd hynt a helyntion Federico García Lorca drwy lygaid ei ffrind a'i awen, Margarita Xirgu. Mewn cyfres o ôl-fflachiadau, dyweda Margarita wrth ei myfyrwyr sut y cyfarfu â Lorca, ei fod wedi ysgrifennu rhan Mariana Pineda yn arbennig iddi hi a’i fod, oherwydd ei farn wleidyddol a’i rywioldeb, wedi’i lofruddio’n giaidd gan griw saethu’r Ffalanche yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen ym 1936.

Yn nodi'r tro cyntaf erioed i WNO berfformio yn Sbaeneg, cafodd Ainadamar ei gyfarwyddo gan y coreograffydd sydd wedi ennill gwobr Olivier, Deborah Colker (Cirque du Soleil, Gemau Olympaidd Rio) ynghyd â choreograffi fflamenco gan Antonio Najarro. Gyda Jaquelina Livieri yn serennu fel Margarita Xirgu, Hanna Hipp yn chwarae cymeriad gwrywaidd, sef Lorca, ac enillydd gwobr y Gynulleidfa yn BBC Canwr y Byd Caerdydd 2023, Julieth Lozano Rolong fel Nuria, bu’r darn hwn, sydd wedi cipio gwobr Grammy, yn llwyddiant ysgubol gyda beirniaid a chynulleidfaoedd.  

fiercely evocative

The Guardian

Mae’n amlwg o’r ymatebion a’r adolygiadau bod Ainadamar yn ddarn gwirioneddol arbennig sy’n adrodd rhan drasig, ond bwysig o hanes.

Ar ôl Ainadamar, daeth ein cynhyrchiad llwyfan pum seren o glasur Verdi, La traviata, yn ôl ar y llwyfan. Mae Violetta, y butain llys fwyaf poblogaidd ym Mharis, wedi aberthu ei bywyd moethus yn llawn partïon mawreddog ar ôl cwympo mewn cariad ag Alfredo, er bod ei dad, Giorgio Germont, yn gwrthwynebu eu rhamant. Er mwyn gwarchod enw da ei deulu, mae Germont yn mynnu bod Violetta, sy’n dioddef o’r ddarfodedigaeth, yn gadael ei fab ac yn dychwelyd i’w bywyd o anfoesoldeb. Ar ôl gweld ei gamgymeriad, mae Germont yn cyfaddef i Alfredo ei fod wedi gorfodi Violetta i adael, ac mae yntau wedyn yn rhuthro ati i fod wrth ei hochr yn ystod ei munudau olaf, gan arwain at un o’r golygfeydd mwyaf torcalonnus ym myd opera.

Yn ei pherfformiad cyntaf yn y DU, rhyfeddodd cynulleidfaoedd at y soprano Awstralaidd-Mawrisaidd Stacey Alleaume gyda’i phortread bywiog, emosiynol a thorcalonnus o Violetta, rhan mae hi wedi ei chanu nifer di-rif o weithiau. Ochr yn ochr â Stacey, dychwelodd y tenor Coreaidd, David Junghoon Kim, i WNO i ganu rhan Alfredo, a daeth yr enillydd gwobr Grammy, Mark S Doss, i chwarae rhan Germont.  

Mae ein cynhyrchiad diamser o ddarn torcalonnus Verdi yn rhoi gwefr i’n cynulleidfaoedd dro ar ôl tro, ac os ydych chi wedi gweld y darn, yna byddwch chi’n deall pam.

Yn teithio o Gaerdydd i Landudno, Bryste, Plymouth, Birmingham, Milton Keynes a Southampton, daeth Ainadamar a La traviatalaw yn llaw â pherfformiadau byw ein sioe deuluol, Chwarae Opera YN FYW. Y Tymor hwn, gwnaethom archwilio’r gofod gyda’n cyflwynydd, Tom Redmond, a aeth â ni ar daith drwy ddarnau sydd wedi’u seilio ar y thema ryngalaethol fel Fly Me To The Moon a Party on Planet Sum Zee

Os na chawsoch ein gweld y Tymor yr Hydref hwn, neu os ydych chi’n awyddus i weld mwy o gynyrchiadau anhygoel WNO, ymunwch â ni yn Nhymor y Gwanwyn ar gyfer Death in Venice a Così fan tutte, pan fyddwn ni’n teithio i Gaerdydd, Llandudno, Southampton, Rhydychen, Bryste a Birmingham.