Pan yn canolbwyntio ar gymeriadau mewn opera, rydym yn dueddol o ganolbwyntio ar y prif rolau yn awtomatig, y prif ferched a'r dynion a'u hynt a'u helyntion, ond mae rhieni a magu plant yn chwarae rôl ategol yn nifer o operâu. Gall y rhain amrywio o'r llysfam flin mewn stori dylwyth teg draddodiadol, i'r fam neu dad sy'n aberthu eu bywydau i'r plentyn. Er mai ffug yw'r storiau, mae'r penblethau a'r camddealltwriaeth sydd wrth wraidd y cwbl yn wir mewn bywyd.
Yn La Cenerentola, fersiwn Rossini o Sinderela, mae'n rhaid i Sinders druan ddelio â'i llystad difeddwl, sydd â digon ar ei blât yn ceisio ymdopi â'i dwy lyschwaer heriol. Mewn opera arall wedi'i seilio ar stori dylwyth teg, sef Hansel & Gretelgan Humperdinck, mae mam a thad y ddau yn serennu am gyfnod byr iawn. Mae'r fam wedi cael llond bol oherwydd nad ydynt wedi gwneud llawer o waith, a gwaethygir ei thymer pan maent yn gollwng y llaeth, felly mae'n eu herlid o'r tŷ. Pan mae eu tad yn ymddangos, mae'n feddw ond yn dal i fod yn ddigon pryderus ynghylch eu diogelwch, o ystyried bod gwrach yn y goedwig. Mae'n stori fythol.
Yn La traviata,Rigoletto ac War and Peace, caiff tadau cariadus eu portreadu i weithredu'n rhy gyflym heb feddwl am y canlyniadau - yn La traviata gan Verdi, mae Georgio Germont yn ceisio talu'r butain llys, Violetta, er mwyn gwarchod dyfodol ei fab. Mae'n ofni y bydd ei gysylltiad â hithau yn effeithio ar safiad y teulu mewn cymdeithas, felly mae'n achosi torcalon i bawb. Ond yn ei Rigoletto, y cellweiriwr Rigoletto sy'n gwawdio tadau eraill ond sydd wedyn yn canfod ei hun mewn sefyllfa lle mae enw da ei ferch mewn perygl gan y Dug sy'n mercheta er ei ymdrechion gorau i'w gwarchod - yn y pendraw, hi sy'n talu'r pris eithaf dan ei ddwylo yntau. Yn War and Peace gan Prokofiev, mae gennym ddau dad sy'n credu eu bod yn gwneud eu gorau glas - yn eu ffyrdd gwahanol eu hunain - i'w plant drwy eu 'harwain' drwy fywyd ac mae'r berthynas yn cael ei pheryglu, gan gael effaith ddinistriol ar lesiant eu plant.
Yn The Barber of Seville a The Marriage of Figaro, ymddengys bod rhieni - rhai gwirioneddol a'r rhai sy'n warcheidwaid i'w dibynyddion - bob amser yn rhoi eu buddion eu hunain yn gyntaf, yn hytrach na'r rhai maent yn gyfrifol amdanynt, gan ychwanegu at elfennau doniol yr operâu, mewn ffyrdd chwerthinllyd di-rif, gan ein hatgoffa o bantomeimiau. Yna, wrth gwrs, mae Peter Pan, lle ymddengys bod y rhieni mor arbennig, ond mae'r plant i gyd yn hedfan i Neverland beth bynnag, lle nad oes rhieni. Er mae cymaint o'r Bechgyn Coll yn galaru'r diffyg cariad a gofal gan rieni... Stori, ac opera, sydd â diweddglo hapus i'r teulu am unwaith.
Yn The Magic Flutegan Mozart, rydym yn cwrdd ag un o rieni Pamina - Brenhines y Nos - nid yw'n ymddangos yn un sydd ag agwedd famol, ond a yw hynny yn sgil ei sefyllfa, tybed? Serch hynny, yn Madam Butterfly gan Puccini, efallai ceir y canlyniadau mwyaf dinistriol erioed, pan mae Cio-Cio-San yn gwneud yr aberth eithaf i sicrhau 'rhyddid' ei phlentyn. Yn Jenůfa, mae Janáček yn mynd ati i bortreadu mam newydd gariadus, a llysfam calon galed sydd, yn gamarweiniol, yn credu ei bod yn gweithredu er budd ei llysferch - cariad a theuluoedd, maent yn ein gyrru i wneud pethau rhyfedd, yn tydi?