Newyddion

Cyn-aelodau Opera Ieuenctid WNO

23 Mai 2019

Yr haf yma, fel rhan o Dymor RHYDDID WNO, mae aelodau presennol Opera Ieuenctid WNO yn perfformio mewn dwy o'r operâu, Dead Man Walkinga Brundibár, ochr yn ochr â nifer o gyn-aelodau Opera Ieuenctid WNO.

Mae gan Opera Ieuenctid WNO enw da am gyflwyno cynyrchiadau clodwiw - y cwmni opera ieuenctid cyntaf i gael ei enwebu ar gyfer Gwobr South Bank Sky Arts am ei gynhyrchiad o Paul Bunyan, a wnaeth hefyd ennill gwobr y Royal Philharmonic Society.

Rhodda'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig ag Opera Ieuenctid sylfaen gadarn yn y diwydiant i'r cyfranogwyr, pa un ai a yw'n ddosbarthiadau meistr ar gyfer cantorion neu hyfforddiant yn un o'r rolau cefn llwyfan niferus y mae pob theatr yn dibynnu arnynt. Mae nifer o'r cyfranogwyr yn mynd ar daith datblygu talent lawn gyda WNO: o gymryd rhan yn ein Clybiau Canu fel plant, i hyfforddiant mewn coleg partner fel Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru neu Conservatoire Birmingham, lle mae ein cynlluniau mentor yn golygu cyfleoedd parhaus i weithio'n agos gyda WNO. 

Mae sawl aelod o'r Opera Ieuenctid wedi mynd ymlaen i yrfaoedd sy'n cynnwys perfformio gyda ni yma yn WNO, yn ogystal â chwmnïau opera eraill ledled y byd ac ar lwyfan y West End, yn ogystal â grwpiau canu poblogaidd megis Only Men Aloud (OMA), sydd wedi cynnwys sawl cyn-aelod o'r Opera Ieuenctid dros y 10 mlynedd diwethaf. Roedd Sweeney Todd yr Opera Ieuenctid, Tim Nelson, yn y grŵp, ynghyd â Craig Yates, aelod llawrydd rheolaidd o dîm Ieuenctid a Chymuned WNO. Mae un o gyn-aelodau eraill Opera Ieuenctid, Katy Treharne, a ganodd rhan Maisy Day, wedi chwarae rhan Christine yn The Phantom of the Opera yn y West End a hefyd wedi perfformio gydag OMA.

Mae cyn-aelodau eraill yn cynnwys David Thaxton, sydd hefyd wedi perfformio yn y West End gyda rhannau yn The Phantom of the Opera a Les Misérables, ac mae wedi ennill Gwobr Olivier am yr Actor Gorau mewn Sioe Gerdd; Natalya Romaniw sydd, yn fwyaf diweddar i WNO, wedi canu'r brif ran Tatyana yn ein cynhyrchiad Hydref 2017 o Eugene Onegina hefyd wedi cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd yn fuan ar ôl ei chyfnod gyda'r Opera Ieuenctid. Aeth Lauren Morris yn ei blaen i ganu rhan Johanna yn Sweeney Todd ochr yn ochr â Syr Bryn Terfel yn Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen a chwaraeodd yr un rhan yng nghynhyrchiad WNO yn Hydref 2015.  Ymddangosodd Dafydd Weeks mewn nifer o gynyrchiadau gyda'r Opera Ieuenctid ac ers hynny mae wedi ymddangos yng nghynhyrchiad WNO o From the House of the Dead ar y prif lwyfan yn Hydref 2017. Roedd cast Paul Bunyan hefyd yn cynnwys dau gyfranogwr sydd ers hynny wedi gweithio gyda chwmni ehangach WNO, yn yr adrannau gweinyddol - sy'n dangos ein bod ni yn WNO yn hapus i feithrin talent, pa bynnag gyfeiriad mae'n ei gymryd!

Cychwynnodd Opera Ieuenctid yn ein cartref yng Nghaerdydd, lle rydym yn rhedeg dau grŵp oedran, 10 - 14 a 14 - 18, yn ogystal â chwmni Pobl Ifanc Broffesiynol (16 - 25 oed). Ond os ydych chi'n byw yng Ngogledd Cymru neu ardal Birmingham ac mae gennych ddiddordeb, yna byddwch yn falch o glywed ein bod hefyd yn rhedeg grwpiau Opera Ieuenctid (8-14 ym Mirmingham ac 8 - 14 a 14 - 18 yn Llandudno) o'n canolfannau yn yr ardaloedd hyn: Venue Cymru Llandudno a Hippodrome Birmingham. 

Os ydych chi eisiau gweld y don nesaf o sêr opera a cherddorol yn gynnar yn eu gyrfa, yna dewch i weld cyn-aelodau ein Hopera Ieuenctid yn y Tymor RHYDDID ym mis Mehefin. Gyda Tom SmithAndrew Henley (Christoph Probst, Kommilitonen!) ac Oscar Castellino (James Meredith, Kommilitionen!) i gyd yn ymddangos yn  Dead Man Walking gan Jake Heggie. Yna Brundibár gan Hans Krása yw ein perfformiad Opera Ieuenctid, sy'n cynnwys y ddau grŵp Opera Ieuenctid (hy rhwng 10 a 18 oed), gyda dau o gyn-aelodau'r Opera Ieuenctid yn canu'r brif ran: Steffan Lloyd Owen a John Ieuan Jones