Newyddion

Dyma ni - Cychwyn ein Tymor yr Hydref

20 Medi 2019

Ar ôl wythnosau o ymarfer a pharatoi, mae'r noson agoriadol wedi cyrraedd - o'r diwedd! Mae Tymor yr Hydref 2019 Opera Cenedlaethol Cymru yn agor mewn steil yfory (dydd Sadwrn 21 Medi) am 7.15pm, yn Theatr Donald Gordon yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, gyda chynhyrchiad newydd Jo Davies o Carmen.


Mae'r cynhyrchiad hwn o opera ddramatig Bizet yn defnyddio statws economaidd-gymdeithasol Carmen fel ei sylfaen, yn myfyrio ar realaeth portread Bizet o ferch dosbarth gweithiol, a gweithiwr ffatri - nid yn aml y dangoswyd hynny ar lwyfan yn ystod y cyfnod. Roedd dewis lleoli'r stori yng nghanol America yn y 1970au cynnar, wrth galon y favelas gyda milwyr/heddlu o gwmpas trwy'r amser a 'chlirio' slymiau yn digwydd, yn cynnig dealltwriaeth ddeongliadol i'r tîm creadigol a chyfle iddynt uniaethu â'r stori heb golli'r gwres a'r angerdd y mae Carmen yn adnabyddus amdano. Gweithiodd Jo Davies, a fu'n gweithio gyda WNO ddiwethaf ar Kiss me, Kate yn 2016, gyda'n partneriaid rheolaidd, Gabrielle Dalton sef y dylunydd gwisgoedd, a'r dylunydd set, Leslie Travers, ar y cynhyrchiad hwn. 


Yr opera nesaf ar ein llwyfan yw Rigoletto gan Verdi, wedi ei leoli yn y Tŷ Gwyn ac Washington DC yn yr 1960au - lleoliad amserol iawn. Ond, ni allwn anghofio bod y cyfarwyddwr gwreiddiol, James Mcdonald, a'r dylunydd set gwreiddiol, Robert Innes Hopkins, yn gweithio mewn hinsawdd wleidyddol hollol wahanol yn ôl yn 2002. Caroline Chaney sy'n cyfarwyddo'n perfformiad eleni (a hithau oedd y cyfarwyddwr yn 2010 hefyd); gyda Mark S Doss yn dychwelyd i'r Cwmni er mwyn portreadu'r brif ran, yn dilyn ei berfformiad fel Scarpia yn ein cynhyrchiad o Tosca yn ystod Tymor y Gwanwyn 2018, yn perfformio ochr yn ochr â David Junghoon Kim fel y Dug. Pwy fydd yn ennill y frwydr dros Gilda, merch Rigoletto, y tad amddiffynnol neu'r chwaraewr pwerus? Dewch draw i weld - yn agor ar ddydd Gwener 27 Medi.


Yn olaf, rydym yn rhoi croeso cynnes yn ôl i leoliad coedwig fugeiliol The Cunning Little Vixen, fersiwn llwyddiannus David Pountney o opera Janáček sy'n codi calon, lle mae dynoliaeth yn dysgu gan anifeiliaid. I'r rheiny ohonoch sydd yng Nghaerdydd, efallai eich bod wedi gweld y posteri lliwgar o gwmpas y ddinas ar gyfer ein profiad realiti estynedig newydd sbon, A Vixen's Tale, sy'n rhedeg ochr yn ochr â'n Tymor yng Nghaerdydd ac yn mynd â chi i fyd y Llwynoges a'i ffrindiau o'r goedwig. Dewch i'w cyfarfod ar y llwyfan o ddydd Sadwrn 5 Hydref, gyda'n Cyfarwyddwr Cerdd, Tomáš Hanus a fydd yn arwain drwy gydol y daith, ac sydd hefyd yn hanu o Brno, yr un pentref â Janáček 


Unwaith i'n cyfnod yng Nghaerdydd ddod i ben gyda pherfformiad o Rigoletto ar ddydd Sadwrn 12 Hydref, bydd popeth yn cael eu pacio, eu rhoi ar lu o loriau, a byddwn yn teithio i Plymouth, Llandudno, Birmingham, Rhydychen a Southampton. Toi toi toi i bawb sy'n cymryd rhan.