Newyddion

Ffarwelio'n annwyl â'n Tymor yr Hydref 2019

2 Rhagfyr 2019

15 lori, chwe lleoliad a 32 perfformiad yn ddiweddarach, mae'r amser wedi dod i ni ollwng gafael ar ein Tymor yr Hydref 2019. Cyflwynwyd y Tymor mewn tair rhan: cynhyrchiad newydd o Carmen gan Bizet, wedi ei gyfarwyddo gan Jo Davies; Rigoletto gan Verdi, a The Cunning Little Vixen gan Janáček i goroni'r cyfan. 


Wedi ei ddisgrifio gan The Article fel 'gafaelgar ac emosiynol' ac 'wedi ei arwain gyda sensitifrwydd a steil' gan Gyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Tomáš Hanus, cafodd ein cynhyrchiad newydd o Carmen, a oedd wedi ei osod yng Nghanolbarth America yn yr 1970au, ei fwynhau gan bawb o'i berfformiad cyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar ddydd Sadwrn 21 Medi hyd at berfformiad olaf y Tymor yn Theatr Mayflower, Southampton ar ddydd Gwener 29 Tachwedd. 

Os nad oeddech yn gallu ymuno â ni ar gyfer ein dehongliad o Carmen y Tymor hwn, peidiwch â phoeni. Rydym yn mynd â'r sioe ar daith unwaith yn rhagor yn ystod y Gwanwyn, gydag artistiaid newydd, gan gynnwys Julia Mintzer yn y rôl deitl, a byddwn yn ymweld â mwy o leoliadau, yn cynnwys Bristol, Liverpool a Milton Keynes. Bydd doniau disglair y dyfodol WNO - Arweinydd Cyswllt WNO Harry Ogg ac Arweinydd Breswyl Fenywaidd WNO Tianyi Lu - yn arwain Cerddorfa WNO yn ystod perfformiadau'r Gwanwyn, gydag Andrew Greenwood.


Yn dilyn hyn roedd Rigoletto gan Verdi. Yn destun sensoriaeth yn ei dydd, mae'r opera gan Verdi wastad wedi bod â chyseiniau gwleidyddol, ond mae cynhyrchiad 'gafaelgar, teimladwy a phynciol' James Macdonald (Get The Chance) yn gosod y stori'n gadarn yng nghyfnod Kennedy. Wrth galon y cynhyrchiad mae David Junghoon Kim (Duke); Marina Monzó a Haegee Lee (Gilda) a Mark S. Doss a chwaraeodd ei rôl gyntaf fel y prif gymeriad, gan dderbyn llawer o ganmoliaeth. 


He [Mark S. Doss] has the ability to project even his whispers, and at full pelt can make your seat vibrate with his mighty voice.

Bachtrack

Y drydedd opera, a'r olaf yn ein Tymor yr Hydref 2019 oedd cynhyrchiad swynol David Pountney o The Cunning Little Vixen, neu 'llwyddiant oesol a mwyaf poblogaidd Opera Cenedlaethol Cymru', yn ôl The Stage. Wedi derbyn sgôr o 4 a 5 seren gan bawb, mae'r cynhyrchiad hwn, sy'n 40 oed bellach, yn parhau i gydio yn nychymyg ein cynulleidfaoedd ifanc. Yn ystod yr ymarfer gwisg yn unig, croesawom dros 750 o ddisgyblion ysgol, gyda llawer mwy yn bresennol yn y perfformiadau yng Nghaerdydd, Plymouth, Llandudno, Birmingham, Oxford a Southampton, gyda'r perfformiad olaf yn Theatr Mayflower, Southampton yn dathlu 48ain perfformiad y cynhyrchiad.


Bu i'r Tymor weld lansiad ein profiad Realiti Estynedig newydd. Mewn cydweithrediad ag Arcade Ltd, roedd A Vixen’s Tale yn cynnwys cerddoriaeth o The Cunning Little Vixen. Gan gyfuno cerddoriaeth a theatr gyda thechnoleg ddigidol arloesol, roedd y profiad yn caniatáu i chi ddilyn ein llwynoges yn gorfforol drwy'r goedwig. Yn ystod ei osodiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, croesawom dros 5,000 o ymwelwyr, gyda llawer ddim wedi profi opera cyn hynny.


Beth nesaf? Yn ogystal â pherfformiadau ychwanegol o Carmen, mae ein Tymor y Gwanwyn 2020 yn gweld trydedd a rhan olaf ein Trioleg Verdi, Les vêpres siciliennes, cynhyrchiad newydd wedi ei gyfarwyddo gan David Pountney. Ddim yn gyfarwydd â'r opera? Dewch i wybod mwy am gampwaith llai cyfarwydd Verdi yn ein Mewnwelediad Opera, am ddim yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar ddydd Sadwrn 26 Ionawr. I ddod â'r Tymor i ben, bydd ein cynhyrchiad o The Marriage of Figaro, sydd wedi ei osod yn yr oes o'r blaen, yn dychwelyd i'n prif lwyfan.