Newyddion

National Opera Studio @ WNO

23 Ebrill 2019

Fis nesaf bydd WNO yn croesawu Artistiaid Ifanc y National Opera Studio, ar gyfer eu cyfnod preswyl blynyddol â'r Cwmni. Byddant yn treulio wythnos yng Nghaerdydd gyda'r staff cerdd a Cherddorfa WNO, gan ddod â'r cyfan i ben gyda pherfformiad yn Neuadd Hoddinott y BBC yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar ddydd Sadwrn 4 Mai.

Bydd y grŵp o 12 o gantorion a phedwar o hyfforddwyr yn gweithio â'r Cyfarwyddwr Emma Jenkins (Rhondda Rips It Up! WNO) a'r arweinydd Laurent Pillot ar repertoire operatig gan gynnwys darnau gan Donizetti, Handel, Puccini, Mozart a Shostakovich. Byddant yn archwilio rolau mewn operâu gan gynnwys Lucia di Lammermoor, Xerxes, Hansel und Gretel a The Marriage of Figaro, gan astudio pob elfen o'r perfformiad, yn ogystal â gweithio gydag adrannau Rheoli Llwyfan, Gwisgoedd a Wigiau WNO, i weld sut y mae pob elfen yn dod at ei gilydd i greu perfformiad.

Wrth ei galon, mae'r National Opera Studio yn darparu hyfforddiant proffesiynol dwys ac unigryw ar y lefel uchaf i nifer fechan o gantorion a hyfforddwyr bob blwyddyn, ac yn eu paratoi ar gyfer bywyd ar y llwyfan operatig rhyngwladol. Yn ogystal â'r rhaglen hyfforddiant wedi ei theilwra, bydd yr Artistiaid Ifanc yn gweithio'n agos â chyfarwyddwyr, arweinwyr a cherddorfeydd opera blaenllaw i baratoi golygfeydd opera ar gyfer perfformiad cyhoeddus, yn ogystal â gweithio ag artistiaid eraill sy'n arweinwyr yn eu maes.

Dywedodd Prif Weithredwr y National Opera Studio, Emily Gottlieb: ‘Our annual residency at Welsh National Opera is one of the highlights of the Programme, and forms a vital part of the professional training and exposure that sets us apart from all other opera training organisations in the UK. Our artists learn to adapt and flex different performance skills on platforms large and small, as they will need to do in the professional world.’

Mae gan WNO gysylltiad hir sefydlog â'r National Opera Studio, rhan hynod bwysig o'n rhaglen datblygu talent sy'n golygu bod y Cwmni'n cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ac artistiaid newydd. Mae nifer o gyn-fyfyrwyr NOS wedi ymddangos mewn tymhorau opera diweddar, gan gynnwys Marc Le Brocq (War and Peace,From the House of the Dead), Leah-Marian Jones (War and Peace), Linda Richardson (La traviata), Heather Lowe (La cenerentola), Ben McAteer (From the House of the Dead), Justina Gringyte (Roberto Devereux), Gwyn Hughes Jones (Un ballo in maschera) a Ben Johnson (The Magic Flute). Ymhlith graddedigion diweddar eraill mae Frederick Brown, a fydd yn arwain Cerddorfa WNO yn ein dau Gyngerdd i'r Teulu yn Birmingham a Southampton yr haf hwn; Ross Ramgobin sy'n ymuno â ni ar gyfer Carmen yn Hydref 2019 a Nicola Rose a oedd yn Gyfarwyddwr Cerdd ar Rhondda Rips It Up! a aeth ar daith ledled Cymru a Lloegr yn 2018.

Pam na wnewch chi ddod i weld sêr opera'r dyfodol?